|
|
||
| Amdanom Ni | ||
Astudiaeth Achos BTGlenys Hayers Mae Glenys yn 61 oed ac mae wedi gweithio gyda BT ers 18 mlynedd a hi yw'r rheolwr tîm ar gyfer digwyddiadau ym musnes BT. Pan gyrhaeddodd Glenys 60 oed, roedd yn bryderus iawn ynghylch ymddeol. Roedd ei rheolwr yn ei gwerthfawrogi'n fawr a gofynnwyd iddi aros yn BT ar ôl 60 oed ac roedd Glenys yn awyddus iawn i wneud hynny. Mae Glenys yn teimlo y bydd yn gwybod pryd y bydd am ymddeol, ond ar hyn o bryd mae'n mwynhau ei swydd yn fawr iawn, mae'n hoff o'r heriau sydd ynghlwm yn ogystal â'r ochr gymdeithasol o weithio mewn tîm. Pan fydd Glenys yn ystyried ymddeol, bydd am fanteisio ar opsiynau ymddeol hyblyg BT neu fynd yn rhan amser. Nid yw Glenys yn credu nad yw bod dros 60 oed yn golygu na ellir perfformio yn y gwaith neu na ellir dysgu pethau newydd. Mae'n teimlo bod pobl hyn yn werthfawr iawn yn y gweithle oherwydd eu profiad a'u harbenigedd gwych. Mae Glenys yn teimlo ei bod mewn rheolaeth o'i dyfodol yn BT ac roedd yn falch iddi gael y dewis i aros ar ôl 60 oed a phenderfynu unrhyw amser ei bod am gymryd cam yn ôl. Mae'n credu bod pwysau weithiau ar bobl hyn i ymddeol yn awtomatig pan fyddant yn cyrraedd 60 oed, ond nid yw erioed wedi teimlo hyn yn BT. |



