|
|
||
| Amdanom Ni | ||
Oedran yn BTYn BT credwn yn yr egwyddor sylfaenol o deilyngdod. Dylai pob penderfyniad cyflogaeth fod yn seiliedig ar sgiliau a rhinweddau unigolion ac nid ar ffactorau amherthnasol fel oedran. Pan fydd ystrydebau oedran yn penderfynu pwy fyddwn yn eu recriwtio neu'n eu dyrchafu, rydym yn methu â gweld yr unigolyn a'r sgiliau y gall eu cynnig.Timau sy'n gymysg o ran oedran sy'n rhoi'r cyfle gorau i ni wir ddeall anghenion ein cwsmeriaid ac rydym yn cael budd o'r manteision o'u hamrywiaeth gyfoethog o ran credoau, barn a phrofiadau. Daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006 i rym ar 1 Hydref 2006 yn y DU, ond mae cydraddoldeb oedran wedi bod yn rhan o agenda BT ers tro. Ar 1 Hydref 2006 penderfynodd BT fod yn hyblyg tuag at recriwtio, heb unrhyw oedran ymddeol penodol, a roddodd y cyfle i bobl dros 60 oed barhau i weithio. Roedd y cwmni hefyd yn un o sylfaenwyr Fforwm Oedran y Cyflogwyr, sef rhwydwaith annibynnol o gyflogwyr blaenllaw sy'n cydnabod gwerth cael gweithlu amrywiol o ran oedran. Mae Hyrwyddwr Oedran BT Aaron McCormack, yn rhoi nawdd i Uwch Reolwyr i agenda amrywiaeth oedran BT, ac yn 2006, cyflwynwyd gwobr i Reolwr Pobl a Pholisi BT, Becky Mason, gan y Fforwm am ymrwymiad eithriadol i'r agenda oedran mewn cyflogaeth. |



