Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
     
   *

Holi ac Ateb

Trevor Baylis

Gan Trevor Baylis

Wyddech chi fod un o bob pum gweithiwr hyn yn hunangyflogedig?

Q: Pa gyfraniad y mae gweithwyr hyn fel chi yn ei gynnig yn y gweithle?
A: Profiad

Q: A oes 'cyfrinach' i'ch llwyddiant dyfeisio?
A: Edrychwch y tu hwnt i'r bocs, a dilynwch eich calon.

Q: Pan fyddwch yn cyflogi pobl ar gyfer eich cwmni eich hun, a yw oedran yn ffactor rydych yn ei ystyried?
A: Nac ydy

Q: Beth yw'ch cyflawniad mwyaf yn eich barn chi?
A: Mae gennyf fywyd hapus. Rwy'n 70 oed, ac wrth edrych nôl ar fy mywyd ac ystyried beth arall y gallwn ni fod wedi ei eisiau, nid oeddwn erioed am fod y dyn mwyaf cyfoethog yn y fynwent. Ni allwch fynd ag arian gyda chi i'r bedd - cyfoethog pob dedwydd. Mae'n rhoi gwên ar fy wyneb wrth feddwl bod fy nyfais, y radio clocwaith, yn helpu i wella bywydau miliynau o bobl.

Q: Pryd rydych yn bwriadu ymddeol?
A: Byth

Q: Beth y mae gweithwyr iau yn ei gynnig i'r gweithle?
A: Technoleg newydd, ac maent yn sicrhau bod y gweithle yn llawn bywyd a bod pawb ar flaenau eu traed. Maent yn ysgafnhau'r awyrgylch.

Q: Ble y cawsoch chi'r foment 'eureka' ar gyfer y radio weindio?
A: Pan roeddwn yn gwylio'r teledu roedd rhaglen yn darlledu ar ledaeniad AIDS yn yr Affrig. Un o'r problemau oedd cyfleu gwybodaeth iechyd i bobl a oedd yn byw mewn ardaloedd anghysbell iawn lle nad oedd trydan ar gael a lle roedd batris yn aruthrol o ddrud. Cefais weledigaeth o un o'r hen gramaffons weindio hynny yn bloeddio canu arias gan y Fonesig Nellie Melba, ac yna meddwl y gellid cymhwyso'r dechnoleg hon i radio fodern, a dyna ddechrau'r Radio Clocwaith.

Q: A oes gennych unrhyw gyngor i weithwyr hyn sy'n ceisio mynd yn ôl i weithio?
A: Peidiwch â chael eich digalonni. Gwnewch yn siwr eich bod yn pwysleisio holl agweddau cadarnhaol eich profiad gwaith blaenorol a'r hyn y gallwch ei gynnig i'r gweithle. Weithiau rwy'n credu mai pobl hyn yw eu gelyn pennaf eu hunain o ran chwilio am swyddi. Mae'n bwysig cael digonedd o hunanhyder.
Peidiwch ag ofni dechrau ar y gwaelod unwaith eto. Mae'n fantais wych cael gweld sut mae cwmni yn gweithio, a chanfod 'bylchau' posibl i chi.

Q: Beth sy'n rhwystro gweithwyr rhag dychwelyd i weithio yn eich barn chi? Sut y dylent oresgyn y rhwystrau sydd o'u blaen?
A:
1: Rhagfarn cyflogwyr, y cyflog y mae gweithiwr profiadol yn ei ddisgwyl (mae pobl iau yn llai drud i'w cyflogi), ac rwy'n credu y gall diffyg hyder fod yn broblem fawr.
2: Er mwyn goresgyn y rhwystrau mae angen i chi fod yn gwbl benderfynol a dewr.

Q: A yw eich syniadau wedi gwella neu'n cael mwy o ystyriaeth gydag oedran yn eich barn chi?
A: Heb amheuaeth - rwy'n treulio mwy o amser yn eu hystyried, ac yn talu mwy o sylw i fanylion.

   


* *
*

Other Information

Cartref Cyngor Doeth.

Proffil Cyngor Wise.

Y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth.

Cyngor i bobl dros 50 oed.

Crynodeb o'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Deall Deddfwriaeth Oedran.

Gan Trevor Baylis.

Ymgynghorydd y Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Proffil y Cyflogwr











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*