Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
     
   *

Deall Deddfwriaeth Oedran - Beth mae'n ei olygu?

Ar 1 Hydref 2006 daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) â llu o ganllawiau a rheolau newydd i rym, wedi'u hanelu at atal unrhyw fath o weithredoedd neu ymddygiad niweidiol yn gysylltiedig ag oedran yn y gweithle.

Er nad yw'r rheoliadau yn effeithio ar yr oedran y gall pobl wneud cais am eu pensiwn y wladwriaeth, maent yn:

  • Gwahardd oedran ymddeol anghyfiawn o dan 65 oed.
  • Gwahardd gwahaniaethu ar sail oedran o ran recriwtio, dyrchafu a hyfforddiant.
  • Cael gwared ar y terfyn oedran presennol ar gyfer diswyddo annheg a hawliau dileu swyddi.

Hefyd, cyflwynodd y rheoliadau:

  • Hawl i gyflogeion wneud cais i weithio y tu hwnt i'w hoedran ymddeol a dyletswydd ar gyflogwyr i ystyried y cais hwnnw.
  • Gofyniad newydd i gyflogwyr i roi rhybudd o chwe mis o leiaf i gyflogeion ynglyn â'u dyddiad ymddeol bwriadedig fel y gall unigolion gynllunio'n well ar gyfer eu hymddeoliad, a bod yn hyderus na ddefnyddir yr 'ymddeoliad' fel esgus dros ddiswyddo annheg.
  • Mae'r rheoliadau yn berthnasol i gyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol. Maent yn gwahardd gwahaniaethu uniongyrchol ac anuniongyrchol ar sail oedran na ellir ei gyfiawnhau, a phob math o aflonyddu ac erledigaeth ar sail oedran (ifanc neu hen).

Ymhlith y newidiadau eraill roedd:

  • Dileu'r terfyn oedran uchaf ar gyfer diswyddo annheg a hawliau dileu swydd, gan roi'r un hawliau i weithwyr hyn i hawlio diswyddo annheg.
  • Dileu'r terfynau oedran ar gyfer Tâl Salwch Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol a Thâl Tadolaeth Statudol. Felly, mae'r pedwar taliad statudol yn gymwys yn union yr un ffordd i bawb.
  • Rhoi eithriadau ar gyfer llawer o reolau sy'n seiliedig ar oedran mewn cynlluniau pensiwn galwedigaethol.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar ddychwelyd i'r gwaith, ewch i www.canolfanbydgwaith.gov.uk

   


* *
*

Other Information

Cartref Cyngor Doeth.

Proffil Cyngor Wise.

Y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth.

Cyngor i bobl dros 50 oed.

Crynodeb o'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Deall Deddfwriaeth Oedran.

Gan Trevor Baylis.

Ymgynghorydd y Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Proffil y Cyflogwr











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*