|
|
||
| Amdanom Ni | ||
Crynodeb o'r Fargen Newydd 50 oed a throsoddOs ydych dros 50 oed a'ch bod yn awyddus i weithio, yna gallai rhaglen y Fargen Newydd 50 oed a throsodd fod yn gyfle perffaith i chi. Os ydych wedi ei chael yn anodd i gael swydd, neu waith sy'n talu cyflog da, efallai mai'r rhaglen help benodedig hon yw'r ateb i chi. Efallai eich bod am gael help neu gyngor, neu efallai eich bod yn teimlo ychydig ar goll neu fod gennych ddiffyg hyder. Efallai eich bod yn teimlo nad oes gennych y sgiliau cywir a bod angen help arnoch i'w cael. Beth bynnag yw'r rheswm, mae'r Fargen Newydd yma i'ch helpu. A allaf ymuno â'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd?Gallwch ymuno â'r rhaglen os ydych yn 50 oed neu'n hyn a'ch bod yn cael neu wedi bod yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau isod am o leiaf 6 mis.
Gallech hefyd fod yn gymwys os ydych wedi bod yn cael credydau Yswiriant Gwladol neu Lwfans Gofal Analluedd neu Lwfans Profedigaeth. Mae'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd hefyd ar gael os ydych chi neu'ch partner wedi bod yn cael cynnydd mewn budd-daliadau am o leiaf 6 mis. Beth gall y Fargen Newydd ei wneud i mi?Ymunwch â'r rhaglen a chewch eich ymgynghorydd personol y Fargen Newydd eich hun a fydd yn brif bwynt cyswllt ar gyfer y rhaglen gyfan. Eu swydd nhw yw:
Os ydych yn gweithio dros 16 awr yr wythnos, gallwch wneud cais am Gredyd Treth Gwaith. Mae swm ychwanegol ar gael i bobl ar y Fargen Newydd 50 oed a throsodd a chaiff ei dalu am eich 52 wythnos cyntaf mewn cyflogaeth. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau teuluol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cyllid y Wlad yn www.inlandrevenue.gov.uk/taxcredits neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0845 300 3900 (ffoniwch 0845 603 2000 yng Ngogledd Iwerddon). Gallwch hefyd wneud cais am Grant Hyfforddiant Mewn Swydd o hyd at £1,500 pan gewch swydd drwy'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd. Gallwch ddefnyddio'r grant i wella eich sgiliau a'ch helpu i ddatblygu neu i gael swydd well. Beth y dylech ei wneudOs oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynglyn ag ymuno â'r Fargen Newydd, gallwch edrych yn fanylach ar weddill y wefan hon. Byddwch yn dod o hyd i atebion i'ch cwestiynau a chlywed gan eraill sydd wedi bod ar y Fargen Newydd. Fel arall, edrychwch ar ein llyfryn, Rhoi eich hun yn y darlun (gallwch ei weld o dan Angen gwybod mwy?), neu ffoniwch ein llinell wybodaeth ar 0845 606 2626. Os hoffech ymuno â'r rhaglen neu i gael rhagor o wybodaeth, galwch i mewn i'ch Canolfan Gwaith neu swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol a gofynnwch am gael siarad ag ymgynghorydd personol y Fargen Newydd. |



