Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
     
   *

Cyngor i bobl dros 50 oed

Gweithwyr hyn (50 a throsodd) yw 25 y cant o'r boblogaeth sy'n gweithio - bron naw miliwn o bobl - a disgwylir i'r ganran honno godi i 32% erbyn 2021. Mae 27 y cant o bobl rhwng 50 oed ac oedran pensiwn y wladwriaeth yn economaidd anweithgar, a llawer ohonynt yn hawlio budd-daliadau salwch neu anabledd. Fodd bynnag mae gan chwarter o'r rhain ddiddordeb mewn gweithio. Mae dros 150,000 o bobl wedi symud i mewn i waith gyda chymorth y Fargen Newydd 50 oed a throsodd, ers ei lansio ym mis Ebrill 2000.

Deddfwriaeth Gwahaniaethu ar sail Oedran - Hydref 2006

Mae llawer o bobl 50 i 69 oed yn teimlo eu bod wedi profi gwahaniaethu ar sail oedran wrth weithio neu chwilio am waith. Mae deddfwriaeth sy'n cwmpasu gwahaniaethu ar sail oedran mewn cyflogaeth wedi bod ar waith ers 1 Hydref 2006. Bydd yn rhaid i gyflogwyr, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, fabwysiadu arferion sy'n gadarn o blaid oedran. Yn gyffredinol, ni fydd cyflogwyr yn gallu recriwtio, hyfforddi na dyrchafu pobl ar sail oedran mwyach.

I bob gweithiwr, ifanc a hen, dylai'r ddeddfwriaeth gynnig mwy o gyfleoedd yn y gwaith, yn arbennig am na ddylai cyfleoedd hyfforddiant a dyrchafu gael ei gyfyngu gan oedran fel arfer. Ac i weithwyr hyn yn benodol, dylai hyn gynnig cyfleoedd newydd wrth gystadlu am swyddi ac aros yn y gwaith am fwy o amser os byddant am wneud hynny.

Ymgynghorwyr y Fargen Newydd 50 oed a throsodd

Gall Ymgynghorwyr y Fargen Newydd 50 oed a throsodd helpu pobl hyn i oresgyn unrhyw rwystrau i waith, trafod eu sefyllfa a'u nodau a chytuno ar yr hyn sy'n gweithio orau iddynt hwy. Ymhlith rhai o'r pryderon a godir fel arfer gan bobl dros 50 oed mae cyfrifoldebau gofalu, diffyg cymwysterau a/neu wybodaeth ffurfiol am dechnoleg newydd, problemau iechyd, pryderon ynghylch gwahaniaethu ar sail oedran neu ddiffyg hyder.

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr sydd â swyddi gwag i'w llenwi ac yn eu helpu i ddeall y manteision o gyflogi gweithlu mwy amrywiol. Gall gweithwyr hyn gynnig cyfoeth o brofiad i gyflogwyr ynghyd â sgiliau cadarn a throsglwyddadwy, ymrwymiad, teyrngarwch, sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid da a dibynadwyedd. Mae'n werth nodi hefyd bod y gyfradd cadw a hyd amser mewn cyflogaeth ar gyfartaledd yn llawer uwch ar gyfer gweithwyr hyn (13 blynedd o gymharu â saith mlynedd i'r rhai 25-49 oed).

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cymhwysedd ar gyfer y Fargen Newydd 50 oed a throsodd, dylai pobl gysylltu â'u Canolfan Byd Gwaith leol. (Mae manylion ffôn ar gael yn y llyfr ffôn neu drwy ddefnyddio'r chwiliad swyddfa agosaf yn www.canolfanbydgwaith.gov.uk.)

   


* *
*

Other Information

Cartref Cyngor Doeth.

Proffil Cyngor Wise.

Y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth.

Cyngor i bobl dros 50 oed.

Crynodeb o'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Deall Deddfwriaeth Oedran.

Gan Trevor Baylis.

Ymgynghorydd y Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Proffil y Cyflogwr











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*