|
|
||
| Amdanom Ni | ||
Y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth (TAEN)Elusen annibynnol yw'r Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth (TAEN) sy'n gweithredu drwy dîm yn Llundain a grwp o ymgynghorwyr rhanbarthol. Sefydlwyd TAEN 1998 ac fe'i gelwid yn flaenorol yn Rhwydwaith Cyflogaeth y Drydedd Oes. Caiff y sefydliad gefnogaeth Help the Aged ac maent wedi'u lleoli yn eu pencadlys yn King's Cross, Llundain. Mae'r arian a gaiff TAEN gan Help the Aged yn dangos y pwysigrwydd o gymryd camau yng nghanol bywyd i atal anfanteision yn y dyfodol a chyfrannu at henaint bywiog ac iach gydag ansawdd bywyd boddhaol. Mae TAEN yn rhwydwaith o 250 o aelod-sefydliadau sy'n cynrychioli llawer o'r profiad blaenllaw ar faterion oedran cyflogaeth ledled y DU. Ymhlith yr aelod-sefydliadau hyn mae; ACAS, Age Concern Lloegr, Barclays CCC, BT, Cyngor Sir Dyfnaint, GlaxoSmithKline, y Ganolfan Byd Gwaith, y Cyngor Dysgu a Sgiliau, Manpower, Cyflogwyr y GIG, Norwich Union, Awdurdod Datblygu Llundain, Awdurdod Datblygu Gogledd-orllewin Lloegr a PRIME. Mae TAEN yn ymrwymedig i gynnal ei swyddogaeth fel canolfan arbenigedd flaenllaw ar bopeth sy'n ymwneud ag oedran a chyflogaeth: polisi cyhoeddus, arfer da, ymchwil, tueddiadau a phwy sy'n gwneud beth ledled y wlad. Mae TAEN yn casglu arbenigedd a gwybodaeth am arferion rheoli oedran ac yn awyddus i glywed gan weithwyr adnoddau dynol proffesiynol, undebau llafur ac eraill sydd â phrofiad yn y maes hwn. Gan weithio gyda chyflogwyr ac asiantaethau recriwtio sy'n gweithredu polisïau sy'n niwtral o ran oedran, mae TAEN hefyd yn helpu unigolion sy'n chwilio am waith neu sydd am newid cyfeiriad i ddatblygu eu gyrfaoedd neu ymgymryd â hyfforddiant. Mae'r sefydliad yn darparu gwasanaeth cyfeirio i gyflogwyr ac unigolion, gan eu cyfeirio at sefydliadau perthnasol, at aelodau a phartneriaid TAEN ac at nifer o adnoddau defnyddiol. Mae TAEN yn cynnig:
I gael rhagor o wybodaeth am TAEN ewch i'w gwefan: http://www.taen.org.uk/ |



