Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
     
   *

Proffil Cyngor Wise

Wyddech chi, ymhlith y bobl sydd dros oedran pensiwn, mae 9% ohonynt yn dal i weithio ac mae 50% o bobl yn awyddus i weithio ar ôl cyrraedd oedran ymddeol? (Yn Gadarn o Blaid Oedran).

Mae aelodau Cyngor Wise yn deall pwysigrwydd cael gweithlu amrywiol a'r manteision y mae hynny'n eu cynnig i'r unigolyn a'r cyflogwr. Yma maent yn rhoi trosolwg o'u profiadau, cyngor, cymorth a pholisïau eu hunain i ychwanegu at y ddadl hon.

Trevor Baylis (OBE), dyfeisiwr.

Ganwyd Trevor G Baylis yn Kilburn Llundain, yn 1937 ac un o'i brif hoffter mewn bywyd yw dyfeisio, yn enwedig dyfeisio cynnyrch a allai helpu'r rhai sydd o dan anfantais gorfforol. Yn 1993 dyfeisiodd y radio clocwaith enwog ac yn 1996 enillodd ei radio 'Freeplay' Wobr Dylunio'r BBC ar gyfer Cynnyrch Gorau a Chynllun Gorau. Mae Trevor yn parhau â'i waith diflino i hyrwyddo'r cysyniad o 'bwer personol', yn ogystal â'i ymgyrch i sefydlu Academi Dyfeiswyr Brenhinol.

Peter Graham, Ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith.
'Fel Ymgynghorydd y Fargen Newydd 50 oed a throsodd, rwy'n helpu llawer o bobl hyn bob wythnos i oresgyn unrhyw rwystrau i waith, trafod eu sefyllfa a'u nodau a chytuno ar yr hyn sy'n gweithio orau iddynt hwy.'

TAEN - Y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth, elusen.
'Gan weithio gyda chyflogwyr ac asiantaethau recriwtio sy'n gweithredu polisïau sy'n niwtral o ran oedran, mae TAEN yn helpu unigolion sy'n chwilio am waith neu sydd am newid cyfeiriad i ddatblygu eu gyrfaoedd neu ymgymryd â hyfforddiant.'

BT, cyflogwr.
'Dylai pob penderfyniad cyflogaeth fod yn seiliedig ar sgiliau a rhinweddau unigolion ac nid ar ffactorau amherthnasol fel oedran. Timau sy'n gymysg o ran oedran sy'n rhoi'r cyfle gorau i ni wir ddeall anghenion ein cwsmeriaid ac rydym yn cael budd o'r manteision o'u hamrywiaeth gyfoethog o ran credoau, barn a phrofiadau.

   


* *
*

Other Information

Cartref Cyngor Doeth.

Proffil Cyngor Wise.

Y Rhwydwaith Oedran a Chyflogaeth.

Cyngor i bobl dros 50 oed.

Crynodeb o'r Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Deall Deddfwriaeth Oedran.

Gan Trevor Baylis.

Ymgynghorydd y Fargen Newydd 50 oed a throsodd.

Proffil y Cyflogwr











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*