Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Amdanom Ni
     
   *

Dywedwch eich barn wrthym

Yma yn y Ganolfan Byd Gwaith rydym yn anelu at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel bob amser. Rydym yn croesawu eich holl sylwadau, cwynion neu awgrymiadau ar gyfer pethau y gallwn eu gwella. Bydd eich adborth yn ein helpu i edrych ar yr hyn rydym yn ei wneud a sut y gallwn ei wneud yn well.

Pan aiff pethau'n iawn neu os oes gennych awgrym ar sut y gallwn wella

Os ydych yn teimlo ein bod wedi gwneud rhywbeth yn dda, dywedwch wrthym. Bydd gwybod ein bod wedi gwneud rhywbeth yn iawn i chi yn ein helpu i'w wneud yn iawn i eraill hefyd. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella ein gwasanaethau. Os oes gennych awgrym a all ein helpu i wneud hyn, rhowch wybod i ni.Byddwn yn ymateb i'ch sylwadau o fewn 10 diwrnod gwaith o'u derbyn.

Pan aiff pethau o'i le

Os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth yn anghywir, neu nad ydym yn delio â chi yn y ffordd gywir, rhowch wybod i ni. Po gynharaf y byddwch yn dweud wrthym, y cynharaf y byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r mater. Efallai y byddai'n well gennych siarad â rhywun yn y swyddfa rydych wedi bod yn delio â hi. Bydd galwad ffôn fel arfer yn unioni materion a gallwn eich ffonio yn ôl.

Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fyddwch am wneud cwyn ffurfiol. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn yn ein taflen 'Dywedwch eich barn wrthym'

icon PDF Dywedwch eich barn wrthym (496.47kb)

Mae mynegi eich barn yn hawdd

I ddweud eich barn wrthym, llenwch y ffurflen sylwadau yng nghefn y daflen hon a'i hanfon atom drwy'r post neu ei dychwelyd â llaw at unrhyw Ganolfan Gwaith. Gallwch ofyn i rywun eich helpu i'w llenwi, er enghraifft cyfaill neu ganolfan cynghori fel canolfan Cyngor ar Bopeth

Sut i roi eich sylwadau i ni

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn gyda'ch sylwadau.

Neu gallwch ysgrifennu llythyr a'i bostio, ei anfon drwy e-bost, ei ffacsio neu ei gyflwyno'n bersonol i ni yn eich Canolfan Gwaith agosaf.

Os hoffech wneud sylw drwy ganolfan gyswllt neu ganolfan trafod budd-daliadau, dylai'r rhif ffôn fod ar unrhyw ddogfennau yr ydych wedi'u derbyn ganddynt. Neu gallwch ysgrifennu llythyr a'i bostio, ei anfon drwy e-bost, ei ffacsio neu ei gyflwyno'n bersonol i ni yn eich Canolfan Gwaith agosaf.

Sut y byddwn yn cysylltu â chi

Gallwch ddewis sut y byddwn yn ymateb i chi - dros y ffôn, drwy e-bost, ffacs neu lythyr.Fodd bynnag, er mwyn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch yn ddiogel ni fyddwn yn cynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch mewn atebion a anfonwn drwy e-bost.

   


* *
*

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gwybodaeth i Gwsmeriaid

Gwybodaeth i Gyflogwyr

Gwybodaeth i Bartneriaid

Help sydd ar gael

Gall ceiswyr gwaith chwilio a cheisio am swydd dros y ffôn. Ffoniwch Ceisiwr Gwaith Uniongyrchol

Gall cyflogwyr hysbysebu ei swydd wag gyda’r Ganolfan Byd Gwaith. Cysylltwch â Cyflogwyr Uniongyrchol










*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*