Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cyflogwyr
*
*Partneriaethau Cyflogaeth LleolBack up a level (javascript:nodelink(145))
 
Y Newyddion Diweddaraf A DigwyddiadauWedi cofrestruCyflenwi canlyniadau
Gwobr 
 
 
     
   *

Partneriaethau Cyflogaeth Lleol.

Partneriaethau Cyflogaeth Lleol: gwireddu potensial heb ei wireddu

Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn gydweithrediad newydd cyffrous rhwng y Llywodraeth a busnesau i fynd i’r afael â’r heriau cynyddol o ran recriwtio a sgiliau ein marchnad lafur a'r economi. Mae cyflogwyr ledled y wlad wedi cofrestru i weithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth i roi cyfleoedd i bobl nad ydynt, am ba bynnag rheswm, wedi manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael.

Erbyn 2010, bydd Partneriaethau Cyflogaeth Lleol (icon pdf 498KB) yn helpu mwy na 250,000 i mewn i swyddi, gan wireddu’r potensial heb ei wireddu i’r rhai y mae eu gallu a’u dawn wedi’u diystyru yn y gorffennol.

Pam y dylwn ystyried cofrestru â'r Bartneriaeth Cyflogaeth Lleol?

Rydym yn gofyn i chi, fel cyflogwr, ddod i gytundeb â'r Llywodraeth, ac i gynnig cyfleoedd i bobl dychwelyd i’r gweithle a symud ymlaen - drwy ein cyfweliadau enghreifftiol, mentora, hyfforddiant yn y swydd neu dreialon gwaith. Yn gyfnewid, byddwn yn sicrhau y cewch gyfle i recriwtio pobl nad ydych o bosibl wedi eu hystyried sy'n awyddus i weithio ac sy’n meddu ar y sgiliau craidd sydd eu hangen arnoch, a byddwn yn sicrhau y bydd cymorth cysylltiedig i’ch helpu i roi’r sgiliau sy’n gysylltiedig â gwaith sydd eu hangen arnynt. Mae hon yn ffordd o ddatrys problemau recriwtio na allwch ei hanwybyddu:

  • Cewch fanteisio ar ymgeiswyr sy'n barod i weithio, gyda chyn lleied o drafferth, risg a chost â phosibl - gwasanaeth o safon sy'n fanteisiol i'ch busnes.
  • Bydd bod yn gyflogwr Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn dangos i'ch cymuned leol bod gennych ffydd yn y gweithlu lleol, a'ch bod am roi cyfleoedd swyddi i bobl leol.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cofrestru gyda Phartneriaeth Cyflogaeth Lleol?

Bydd ein rheolwyr cyfrifon profiadol yn gweithio gyda chi i sicrhau ein bod yn deall eich gofynion busnes a recriwtio yn llwyr, ac i lunio cytundeb partneriaeth wedi'i deilwra sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau i bawb sy'n ymwneud â'r bartneriaeth. Unwaith y bydd eich cytundeb ar waith, byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i ddod o hyd i'r ymgeiswyr cywir gyda'r agwedd gywir, pan fydd eu hangen arnoch.

Sut y gall fy musnes ddod yn rhan o'r Partneriaethau Cyflogaeth Lleol?

Er mwyn darganfod sut y gallai Partneriaethau Cyflogaeth Lleol weithio i'ch busnes chi a gwneud gwahaniaeth i'ch cymuned chi, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith ar lep.enq@jobcentreplus.gsi.gov.uk neu ffoniwch ni ar 0845 600 8192.

Hysbysebu Swydd Wag?

Hysbysebu swydd wag ar-lein - Cyflogwyr Uniongyrchol Ar-lein
Hysbysebu swydd wag dros y ffôn - Cyflogwyr Uniongyrchol

   


* Potensial heb ei Wireddu
*

Gemau Olympaidd Llundain 2012 a’r Gemau Paralympaidd

Gwobrau PCL 2008

Gwobrau PCL 2008

Canfyddwch pam fod mwy na 4,000 o gyflogwyr blaengar y DU wedi recriwtio drwy'r Partneriaethau Cyflogaeth Lleol

Canllaw i fusnesau llai

Canllaw i fusnesau llai











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*