Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cyflogwyr
*
*Gwobr 2008Back up a level (javascript:nodelink(1331))
     
   *

Datgelu Enillwyr y Gwobrau Partneriaethau Cyflogaeth Lleol

Mae Debenhams, Marriott ac Exemplar Health Care ymhlith yr enillwyr yng Ngwobrau blynyddol cyntaf Partneriaethau Cyflogaeth Lleol (LEP), a gyhoeddwyd ddoe, yn y seremoni wobrwyo gyntaf a gyflwynwyd gan Tim Campbell, cyn-enillydd The Apprentice.

Mae’r gwobrau yn cydnabod y cyfraniadau pwysig a wnaed gan gyflogwyr, cyflogeion a phartneriaid sy’n gysylltiedig â’r Partneriaethau Cyflogaeth Lleol - ymagwedd bartneriaeth newydd y Llywodraeth i helpu ceiswyr gwaith o dan anfantais i ddychwelyd i waith.

Ymhlith yr uchafbwyntiau o ran enillwyr roedd Tesco, yn Aston, a recriwtiodd 64 y cant o’i weithlu drwy ei Bartneriaeth Cyflogaeth Lleol â Nissan Motors, y mae ei raglen cyn-hyfforddiant bwrpasol, y Nissan Routeway, ar gyfer pobl sydd angen mwy o gymorth gyda hyfforddiant sgiliau.

Enillodd Mark Farrell, cyflogai yn Asda yn Harrogate un o ddwy wobr unigol i ddathlu ei lwyddiant wrth oresgyn rhwystrau tuag at gyflogaeth. Roedd Mark, sydd ag anableddau dysgu, wedi bod yn ddi-waith am 12 mlynedd ond yn awr mae’n gweithio’n llwyddiannus yn yr adran groser ac yn teimlo bod ei fywyd wedi cael ei “drawsnewid” gan ei swydd newydd.

Dywedodd Stephen Timms, y Gweinidog dros Gyflogaeth a Diwygio Lles:

“Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i bob un o’r enillwyr. Mae pob un o’r cyflogwyr buddugol wedi mynd un cam ymhellach i helpu rhai o’r ceiswyr gwaith sydd o dan yr anfantais fwyaf i ddychwelyd i waith, ac maent yn esiampl i gyflogwyr eraill o’r ffordd y gall busnesau lleol a chymunedau elwa o’r Partneriaethau Cyflogaeth Lleol. Hoffwn longyfarch Mark Farrell a Gary Fuller yn arbennig ar y cyflawniadau personol a wnaethant i ennill eu gwobrau, sy’n ysbrydoliaeth wirioneddol i eraill.”

Dyma enillwyr yn y chwe chategori:

  • Tesco, Haydock - Gwobr y cyflogwr am gydbwyso rhwng bywyd gwaith
  • Debenhams, Gogledd Cymru a Tesco, Aston - Gwobr y cyflogwr am arfer gorau wrth recriwtio (enillwyr ar y cyd)
  • Marriott Hotels, Caerdydd a St Pierre- Gwobr y cyflogwr am arfer gorau mewn datblygiad gyrfa
  • Nissan Motors, Sunderland - Gwobr partneriaeth am arfer gorau mewn gwaith partneriaeth
  • Mark Farrell (Asda Harrogate) – Gwobr Unigol am lwyddiant wrth oresgyn rhwystrau tuag at gyflogaeth
  • Gary Fuller (Exemplar Health Care) - Gwobr Unigol am gyflawniad rhagorol mewn dysgu a hyfforddiant

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn seremoni gyflwyno yn y Brit Oval yn Llundain ddydd Mawrth 1af Gorffennaf. Dewiswyd yr enillwyr gan banel o feirniaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys John Cridland, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol CBI a Jackie Orme, Prif Weithredwr CIPD, ac fe’i cadeiriwyd gan Stephen Timms.

Darllenwch y trawsgrifiadau o’r fideos gwobrau LEP o’n ymgeiswyr sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr fer

Darllenwch drawsgrifiad o’r fideo seremoni wobrwyo Partneriaethau Cyflogaeth Lleol

   


* Potensial heb ei Wireddu
*

Gemau Olympaidd Llundain 2012 a’r Gemau Paralympaidd

Gwobrau LEP 2009

Gwybodaeth cwsmeriaid am PCL

Gwobrau PCL 2009

Canfyddwch pam fod mwy na 20,000 o gyflogwyr blaengar y DU wedi recriwtio drwy'r Partneriaethau Cyflogaeth Lleol

Canllaw i fusnesau llai

Canllaw i fusnesau llai











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*