Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cyflogwyr
*
*Partneriaethau Cyflogaeth LleolBack up a level (javascript:nodelink(145))
 
Y Newyddion Diweddaraf A DigwyddiadauWedi cofrestruCyflenwi canlyniadau
Gwobr 2008Gwobr 2009 
 
     
   *

Canllaw i fusnesau llai

Mae chwilio am y person iawn i’ch busnes bob amser wedi bod yn her – mae’n cymryd amser ac arian, ac weithiau gall fod yn rhwystredig.

Bellach mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r person cywir ar gyfer y swydd gywir. Does dim cymhlethdodau, dim biliau i’w talu, dim risg, a digon o gymorth.

Mae nifer o bobl â gwir botensial na allwch eu cyrraedd drwy ddulliau recriwtio traddodiadol fel hysbysebu mewn papur newydd neu ar lafar. Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn eich cysylltu â hwy.

Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn cynnwys y Ganolfan Byd Gwaith a chyflogwyr fel chi yn cytuno i gydweithio er mwyn manteisio ar y dalent sydd ar gael yn y gymuned leol.

Canfyddwch sut y gall Partneriaethau Cyflogaeth Lleol fod o fudd i'ch busnes PDF icon (958KB).

Beth mae wedi ei wneud i fusnesau eraill eisoes

Mae nifer y Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn cynyddu’n gyflym wrth i gannoedd o gyflogwyr gofrestru, gweithio gyda ni, a phrofi’r buddiannau eu hunain.

Mae’r cyflogwyr sy’n cael budd o Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol yn dweud wrthym eu bod yn syml, yn effeithiol ac yn arbed amser ac arian.

Mae SNO!zone yn rhedeg tri llethr sgio dan do poblogaidd. Dywedodd Zoe Fenner, y Rheolwr Gweithrediadau:

“Roeddem am feithrin ein cysylltiadau â’r gymuned leol yn ardal Castleford ac am roi rhywbeth yn ôl.

Rydym wedi ein plesio’n fawr â’r ffordd y mae’r Bartneriaeth Cyflogaeth Leol wedi gweithio. Y peth allweddol yw bod y Ganolfan Byd Gwaith wedi anfon pobl wedi’u dewis yn ofalus atom sy’n ymgeiswyr gwirioneddol.”

Dywedodd Melanie Baker, Rheolwr Gyfarwyddwyr Tulip Cleaning Services:

“Roedd hysbysebion yn y wasg leol yn ddrud a heb ddwyn ffrwyth. Awgrymodd y Ganolfan Byd Gwaith sefydlu Partneriaeth Cyflogaeth Leol, ac mae’n gweithio’n dda iawn. Maent yn dewis ymgeiswyr sydd o ddifrif ac rydym yn eu cyfweld am dreialon gwaith. Maent yn ein galluogi i asesu a yw unigolyn yn gywir ar gyfer y swydd, ac yn galluogi’r ymgeisydd i benderfynu ai dyma’r swydd gywir ar eu cyfer. Mae meithrin perthynas â’r Ganolfan Byd Gwaith wedi bod yn werth chweil.

Maent wedi ein helpu i ddeall anghenion y farchnad lafur a sut y gallwn apelio’n well i ddarpar gyflogeion.”

Beth am ymuno â hwy a manteisio ar yr un cyfleoedd a buddiannau ar gyfer eich busnes eich hun?

Am ragor o wybodaeth neu am drafodaeth ddiymrwymiad: 0845 600 8192, Ffôn testun 0845 601 2002. Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am–5pm.

   


* Potensial heb ei Wireddu
*

Gemau Olympaidd Llundain 2012 a’r Gemau Paralympaidd

Gwobrau PCL 2008

Gwobrau PCL 2008

Canfyddwch pam fod mwy na 10,000 o gyflogwyr blaengar y DU wedi recriwtio drwy'r Partneriaethau Cyflogaeth Lleol

Canllaw i fusnesau llai











*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*