|
|
||
| Cwsmeriaid | ||
Ffeiriau Gwaith - Digwyddiadau LleolFel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu’r lefel uchaf o wasanaeth i geiswyr gwaith a chyflogwyr, rydym yn trefnu digwyddiadau rheolaidd ledled y rhanbarth. Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi’r cyfle i geiswyr gwaith siarad yn uniongyrchol â chyflogwyr am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, ac i gyflogwyr ddosbarthu ffurflenni cais neu gyfweld â darpar ymgeiswyr yn y digwyddiad. Mae nifer o’r digwyddiadau hyn yn rhoi’r cyfle i gyflogwyr siarad yn uniongyrchol â cyflogwyr sydd yn yr un maes busnes ac i gael cyngor arbennigol gan sefydliadau eraill. Mae croeso i bawb - nid oes yn rhaid i chi fod wedi cofrestru’n ddi-waith i ymweld ag un. Os ydych yn ystyried dychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o absenoldeb, os ydych yn chwilio am swydd ran-amser neu yn ystyried newid eich gyrfa, mae croeso i chi ddod i weld beth sydd ar gael. Gall cyflogwyr sydd â swyddi gwag, neu allai fod â swyddi gwag yn y dyfodol agos gysylltu â Cyflogwyr Uniongyrchol. |




