Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Cwsmeriaid
     
   *

Nodiadau canllaw cyffredinol

Dylid ond cwblhau’r ffurflen hon (sydd ar gael ar yr ochr dde):

  • os ydych wedi trafod y swydd wag y mae gennych ddiddordeb ynddi ag aelod o staff y Ganolfan Byd Gwaith; neu
  • os oes angen i chi wneud hynny ar gyfer y swydd wag.

Mae’n rhaid i chi gadw copi o’r ffurflen hon i’ch cyfrifiadur cyn ei chwblhau. Ni ddylid ei chwblhau ar-lein.

Bydd naill ai aelod o staff y Ganolfan Byd Gwaith neu'r swydd wag ei hun yn dweud wrthych sut i anfon eich ffurflen wedi’i chwblhau ac i ble y dylid ei hanfon. Cofiwch gadw copi o’ch ffurflen, gan y bydd yn nodyn atgoffa defnyddiol os byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad.

Nodiadau cyffredinol ar gwblhau ffurflen gais y Ganolfan Byd Gwaith

  • Atebwch bob cwestiwn, drwy roi gwybodaeth benodol sy’n berthnasol i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani, gan osgoi ysgrifennu ‘ddim yn berthnasol’ (d d/g).
  • Os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r ffurflen gais hon, gall eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol eich helpu.
  • Cwblhewch y ffurflen ar eich cyfrifiadur, argraffwch hi cyn ei llofnodi a’i hanfon i’r cyfeiriad a ddangosir ar fanylion y swydd wag neu a roddwyd i chi gan aelod o staff y Ganolfan Byd Gwaith.
  • Peidiwch ag anfon y ffurflen dros yr ebost at y cyflogwr na’r Ganolfan Byd Gwaith oni roddwyd cyfarwyddyd i chi wneud hynny gan y cyflogwr neu aelod o staff y Ganolfan Byd Gwaith. Rhaid dychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau yn bersonol neu yn y post i naill ai’r Ganolfan Gwaith neu’r cyflogwr - cewch wybod pa un.
  • Ar gyfer swyddi gwag tramor yn unig - mae’n rhaid bod gennych basbort neu gerdyn Adnabod yr AEE dilys. Gallwch amgáu CV yn lle cwblhau adran 6 a 7. Os gofynnir am ddogfennau neu dystysgrifau, PEIDIWCH Â chynnwys rhai gwreiddiol.

Canllaw ar gyfer cwblhau’r ffurflen gais hon

Manylion y Swydd Wag: Sicrhewch fod gennych yr holl fanylion gan y Ganolfan Gwaith, Ceiswyr Gwaith Uniongyrchol neu gan y sawl sy’n hysbysebu’r swydd wag cyn cwblhau.

Adran 1-4: Cwblhewch gyda gwybodaeth ffeithiol.

Adran 5: Rhowch fanylion unrhyw drwyddedau gyrru sydd gennych e.e. Beic modur, car, HGV, PSV. Dylech hefyd ddatgan manylion unrhyw bwyntiau sydd ar eich trwydded.

Adran 6: Rhowch fanylion unrhyw gyflogaeth flaenorol gan ddechrau gyda’r swydd ddiweddaraf . Dylech roi cymaint o fanylion â phosibl ynglyn â’ch dyletswyddau ym mhob swydd.

Adran 7: Rhowch fanylion ysgolion, colegau, prifysgolion neu sefydliadau hyfforddiant arall a fynychwyd gennych gan ddechrau gyda’r un ddiweddaraf . Dylech restru unrhyw arholiadau a wnaed ac unrhyw gyrsiau a fynychwyd, yn ogystal â’r graddau a’r canlyniadau a ddyfarnwyd.

Adran 8: Mae’n rhaid i chi gwblhau’r adran hon os ydych yn gwneud cais am swydd wag dramor

Adran 9: Mae’r adran hon yn bwysig iawn ar y ffurflen oherwydd mae’n rhoi’r cyfle i chi werthu eich sgiliau i’r cyflogwr. Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth berthnasol y credwch sy’n eich gwneud yn arbennig o addas ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani. Gallai hyn gynnwys profiad blaenorol, gwaith gwirfoddol, diddordebau a chymwysterau perthnasol eraill. Os nad oes gennych unrhyw gymwysterau ffurfiol, hwyrach y gallwch gynnwys unrhyw beth roeddech yn ei wneud yn dda yn yr ysgol.

Adran 10: Os oes cyfyngiad oedran ar y swydd wag mae’n rhaid i chi gadarnhau eich bod yn cwrdd â’r anghenion oedran.

Adran 11: Mae’r adran hon yn gofyn p’un a ydych yn ystyried eich hun yn anabl fel y nodir gan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995. O dan y Ddeddf hon, ystyrir bod person yn anabl os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar eu gallu i ymgymryd â gweithgareddau bob dydd. Hefyd soniwch yn yr adran hon os oes angen unrhyw drefniadau arbennig arnoch os cewch eich gwahodd am gyfweliad.

Adran 12: Dylech darparu enwau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a galwedigaethau dau berson i fod yn ganolwyr ar eich rhan. Fel arfer, bydd un o’r rhain yn gyn-gyflogwr a rhywun sydd wedi eich adnabod ers 5 mlynedd o leiaf fel ffrind i’r teulu neu gymydog, ond nid perthynas. Sicrhewch fod eich canolwyr yn fodlon darparu geirda ar eich cyfer cyn i chi roi eu henw ar eich ffurflen gais.

Adran 13: Cyn cwblhau’r adran hon dylech argraffu’r ffurflen o’ch cyfrifiadur. Yna dylech ei llofnodi, nodi’r dyddiad a rhoi eich enw mewn llythrennau bras yn y blychau a ddarparwyd.

Nodyn ar argraffu: Wrth argraffu, efallai y gwelwch y neges system ganlynol “the margins of section 1 are set outside the printable area of the page. Do you want to continue?: Cliciwch ‘Yes’ i barhau.

   


* *
*
 
Cais am gyflogaeth








*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Swyddi a Sgiliau...
  * cysylffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfaoeddltu
  *  
*    
  * ffordd wahanol i chwilio am swyddi, hyfforddiant a gyrfoedd
 
  *  
*   Cysylltwch a'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*