Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Partneriaid
*
*Partneriaid1099Back up a level (javascript:nodelink(299))
     
   *

cynnydd at waith - Gwerthuso a Gwybodaeth Reoli

cynnydd at waith

7. Gwerthuso a Gwybodaeth Reoli

C1: A gaiff cynnydd at waith ei fonitro’n lleol. A fydd un system Gwybodaeth Reoli?

A: Bydd. Ceir un system Gwybodaeth Reoli. Mae hon yn cynnwys taenlen yn excel ’97 a gwblheir gan ddarparwyr bob mis. Mae darparwyr yn casglu data ar bob cyfranogwr cynnydd at waith ac yn rhoi’r data hwn ar y daenlen. Bob mis, dylid diweddaru’r daenlen gyda gwybodaeth am gyfranogwyr a restrir eisoes a dylid ychwanegu manylion am gyfranogwyr newydd. Dylai darparwyr gasglu’r data hwn hyd a chan gynnwys dydd Gwener olaf bob mis. Yna, dylid cadw’r daenlen a gwblhawyd ar ddisg a’i rhoi i’w henw cyswllt yn y Ganolfan Byd Gwaith leol.

Rhoddir arweiniad clir i ddarparwyr sy’n esbonio sut i gwblhau taenlen Gwybodaeth Reoli a pha wybodaeth sydd ei hangen.

C2: A fyddwch yn nodi dangosyddion meddal?

A: Byddwn, ond nid o ran taliadau canlyniadau. Nodir a thrafodir canlyniadau meddal yn ystod y broses o werthuso cynnydd at waith.

C3: A fydd gwybodaeth reoli yn ystyried canlyniadau meddal gan eu bod yn bwysig iawn i’r grwp cwsmeriaid hwn?

A: Mae gennym ddiddordeb mewn canlyniadau meddal ac felly, yn ystod y broses werthuso, byddwn yn nodi ac yn adolygu defnydd a phrofiad darparwyr o offer mesur canlyniadau meddal. Fodd bynnag, ni fydd yn rhaid i ddarparwyr gofnodi canlyniadau meddal cyfranogwyr ar eu taenlen Gwybodaeth Reoli. Y prif reswm am hyn yw’r amrywiaeth cymhleth o offer sydd ar gael i fesur canlyniadau meddal. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i greu newidyn Gwybodaeth Reoli a fyddai’n dal yr holl ganlyniadau posibl o’r holl offer gwahanol yn effeithiol.

C4: A allwch gynnal ymchwil gyda phobl sy’n gadael y ddarpariaeth?

A: Rydym yn ystyried y maes hwn ar hyn o bryd.

C5: A oes yn rhaid i ddarparwyr gynnal unrhyw ymchwil ansoddol gyda’r grŵp cwsmeriaid hwn?

A: Nac oes. Bydd Is-adran Werthuso yr Adran Gwaith a Phensiynau yn contractio cwmni ymchwil annibynnol i gynnal yr ymchwil. Bydd Gwybodaeth Reoli’r darparwr yn chwarae rhan bwysig yn y broses werthuso hon a bydd angen i’r darparwr cynnydd at waith gynorthwyo’r broses o gynnal yr ymchwil.

C6: A oes disgwyl i staff y Ganolfan Byd Gwaith gasglu Gwybodaeth Reoli yn weinyddol?

A: Bydd darparwyr yn casglu’r rhan fwyaf o’r Wybodaeth Reoli; bydd angen i’r Ganolfan Byd Gwaith gasglu gwybodaeth am gyfeiriadau/dechreuadau. Bydd angen proses gydlynu leol er mwyn casglu’r disgiau gyda’r taenlenni misol arnynt cyn eu e-bostio’n fewnol i bencadlys y Ganolfan Byd Gwaith.

C7: Sut y defnyddir yr ymchwil?

A: Bydd yr ymchwil yn bwydo i mewn yn uniongyrchol i’r broses o ddatblygu’r polisi cynnydd at waith ac unrhyw bolisïau yn y dyfodol sydd wedi’u hanelu at gynorthwyo unigolion â hanes o gamddefnyddio cyffuriau yn y gorffennol i gael gwaith.

C8: A oes angen i ddarparwyr gynnwys y gost weinyddol o gwblhau’r Gwybodaeth Reoli yn eu cynigion?

A: Oes. Bydd angen ei chynnwys ym mhris darparu’r gwasanaeth.

C9: Faint o wybodaeth sydd angen i ni ei rhoi i staff y Ganolfan Byd Gwaith, oherwydd mae angen i ni sicrhau cyfrinachedd cwsmeriaid?

A: Ni fyddem yn disgwyl i unrhyw ddarparwyr dorri cyfrinachedd cwsmeriaid. Rhoddir arweiniad i staff y Ganolfan Byd Gwaith ar ofyn am wybodaeth amhriodol neu sensitif am gwsmeriaid.

   


* *
*

Sesiwn Holi ac Ateb

  1. Arian
  2. Canlyniadau
  3. Contractio
  4. Polisiau a Darparu Gwasanaethau
  5. Cwmhwyster
  6. Gweithrediadau
  7. Gwerthuso a Gwybodaeth Reoli









*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cysylltiadau Allanol
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Cylchgronau...
  * cysylltu
  *  
*   Chwiliwch am...
  * Swyddfa agosaf
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * DfES
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*