Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Partneriaid
*
*Partneriaid1098Back up a level (javascript:nodelink(299))
     
   *

Cynnydd at Waith - Gweithrediadau

cynnydd at waith

6. Gweithrediadau

C1: A all darparwyr nodi darpar gwsmeriaid cynnydd at waith ei hunain?

A: Gallant.

C2: A fydd hawl gan ddarparwyr llwyddiannus i ddefnyddio adeiladau’r Ganolfan Gwaith i gyfweld â chwsmeriaid?

A: Byddai angen trafod hyn yn lleol a byddai’n amodol ar gyfyngiadau gweithredol y Ganolfan Byd Gwaith.

C3: A all darparwyr gael mynediad i System y Farchnad Lafur (LMS) y Ganolfan Byd Gwaith o bell fel nad oes angen i’r grwp cwsmeriaid hwn fynychu Canolfan Gwaith?

A: Na. Bwriad y gwasanaethau yw cynorthwyo cwsmeriaid i gymryd rhan mewn darpariaeth y brif ffrwd yn hytrach nac fel gwasanaethau annibynnol.

C4: A fydd darparwyr yn gallu cynnig cymhelliant (ariannol neu fel arall) i gwsmeriaid er mwyn eu hannog i aros gyda cynnydd at waith?

A: Gallant, os dymunant wneud hynny ac os nad yw’n amharu ar gymhwyster budd-dal cwsmer. Fodd bynnag, byddai angen i gynigion o’r fath gynnwys manylion llawn a rhesymeg ategol. Ariennir unrhyw fentrau o fewn y pris darparu a gytunwyd.

C5: Crybwyllir cyfeiriadau at ddarpariaeth arbenigol. A yw hyn yn cyfrif tuag at dargedau? Beth yw eich diffiniad chi o ddarpariaeth arbenigol.

A: At ddibenion canlyniadau, efallai y bydd angen darpariaeth arbenigol er mwyn diwallu anghenion unigol cwsmeriaid, nad yw eisoes ar gael drwy ddarpariaeth brif ffrwd y Ganolfan Byd Gwaith. Os nodir bylchau o’r fath, byddai angen eu trafod gyda’r cydlynydd cynnydd at waith cyn trefnu’r ddarpariaeth. Mae hyn yn wahanol i gyfeirio cwsmeriaid at Asiantaethau Trin Cyffuriau statudol na fyddai’n cyfrif fel canlyniad at ddibenion taliadau.

C6: Beth ydym yn ei wneud gyda’r rhai hynny a gyfeirir atom ac a asesir fel cwsmeriaid anaddas ar gyfer y ddarpariaeth?

A: Os cyfeirir cwsmer atoch sy’n anaddas ar gyfer y ddarpariaeth hon, yna byddech yn eu cyfeirio at ddarpariaeth fwy addas neu os yn briodol, at asiantaeth trin cyffuriau, meddyg teulu ac ati. Byddai hefyd angen i chi gysylltu â ffynhonnell y cyfeiriad (a allai fod yn y Ganolfan Byd Gwaith neu asiantaethau cyfeirio eraill) a thrafod pam yr ystyriwyd y cwsmer yn anaddas er mwyn helpu i leihau’r risg o gyfeiriadau amhriodol tebyg yn y dyfodol.

C7: Allwn ni weithio gyda throseddwyr yn ystod y cyfnod cyn eu rhyddhau, gan fynd i garchardai cyn iddynt gael eu rhyddhau a gweithio gyda hwy?

A: Yn amodol ar gytundeb lleol y carchar, gellir gwneud unrhyw waith cyn eu rhyddhau yn y cyfnod byr sy’n arwain at eu rhyddhau yn hytrach na chyfnod hir cyn eu rhyddhau.

C8: Pa help rydych chi’n bwriadu ei gynnig i gyflogwyr sy’n derbyn cwsmeriaid o’r ddarpariaeth hon?

A: Dylai Rheolwyr Cyfrifon Lleol sy’n gweithio o fewn Dosbarth y Ganolfan Byd Gwaith fod yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol o ran hyn. Os oes gennych rai cynigion o ran cysylltu cyflogwyr â’r grwp cwsmeriaid hwn yna cynhwyswch hwy yn eich cynigion. Un o’r mesurau canlyniadau yw cyflogaeth barhaus sy’n cydnabod y gwaith y gall darparwyr ei wneud gyda chyflogwyr.

C9: Sut y rheolir cyfeiriadau?

A: Disgwyliwn i’r darparwr cynnydd at waith reoli cyfeiriadau. Bydd nifer gan y Ganolfan Byd Gwaith, ond disgwyliwn gyfeiriadau hefyd gan sefydliadau eraill, fel asiantaethau trin cyffuriau, carchardai a gwasanaethau prawf ac ati, sydd eisoes yn gweithio gyda’r cwsmeriaid hyn.

C10: Ai’r darparwr cynnydd at waith neu ddarparwr y brif ffrwd a fydd yn dewis a ddylent barhau, os yw cwsmer yn profi’n anodd yn ystod ei gyfnod ar y ddarpariaeth?

A: Os bydd cwsmer yn creu gormod o broblemau, nid yw’n realistig iddynt barhau ar y cwrs. Y darparwr cynnydd at waith sy’n gyfrifol am ddarparu cynnydd at waith. Darparwr y brif ffrwd sy’n gyfrifol am eu darpariaeth y brif ffrwd. Rhagwelir y bydd y darparwr cynnydd at waith a chydlynydd y Ganolfan Gwaith yn cydweithio, os bydd sefyllfa fel hon yn codi, er mwyn cytuno ar y camau mwyaf priodol ar gyfer y cwsmer o fewn eu meysydd arbenigedd priodol.

   


* *
*

Sesiwn Holi ac Ateb

  1. Arian
  2. Canlyniadau
  3. Contractio
  4. Polisiau a Darparu Gwasanaethau
  5. Cwmhwyster
  6. Gweithrediadau
  7. Gwerthuso a Gwybodaeth Reoli









*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cysylltiadau Allanol
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Cylchgronau...
  * cysylltu
  *  
*   Chwiliwch am...
  * Swyddfa agosaf
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * DfES
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*