Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Partneriaid
*
*Partneriaid1097Back up a level (javascript:nodelink(299))
     
   *

Cynnydd at Waith - Cymhwyster

cynnydd at waith

5. Cymhwyster

C1: Beth a olygir wrth gyffuriau anghyfreithlon? Allwch chi egluro beth a olygir wrth ‘sefydlogi’? Beth am y rhai hynny sy’n cymryd methadon a ragnodir?

A: Defnyddir cyffuriau anghyfreithlon i ddisgrifio’r rhai hynny sy’n torri’r gyfraith drwy gamddefnyddio cyffuriau. Rhagwelwn y bydd llawer o gwsmeriaid yn barod am y cymorth sydd ar gael drwy cynnydd at waith pan fydd eu problem gyffuriau o dan reolaeth (h.y. yn gyfreithlon ac yn sefydlog) ac y bydd rhai ar gynlluniau triniaeth (e.e. presgripsiwn methadon) a allai olygu eu bod yn gallu gweithio.

C2: A fydd cwsmeriaid yn gymwys ar gyfer cynnydd at waith o ddiwrnod cyntaf cais am fudd-dal?

A: Byddant. Mae’r rhai hynny sy’n cael budd-daliadau oedran gweithio yn gymwys ac mewn rhai achosion eithriadol efallai na fydd cwsmeriaid yn hawlio budd-dal o gwbl.

C3: Sut y bydd y darparwr yn profi bod y cyfranogwr yn camddefnyddio cyffuriau?

A: Ar hyn o bryd, ni ddisgwylir y bydd angen tystiolaeth bod cyfranogwr yn camddefnyddio cyffuriau ar hyn o bryd neu ei fod wedi gwella. Derbyniwn farn broffesiynol bod gan y cwsmer hanes o gamddefnyddio cyffuriau. I’r diben hwnnw, disgwyliwn gyfeiriadau gan asiantaethau sy’n gweithio gyda chamddefnyddwyr cyffuriau, e.e. darparwyr triniaeth, CARATs carchardai, y Gwasanaethau Prawf ac ati. Neu gan staff y Ganolfan Byd Gwaith neu staff yr adran Gwaith a Phensiynau sydd wedi nodi’r cwsmeriaid fel cwsmeriaid nad ydynt yn debygol o gael gwaith, hyfforddiant neu ddechrau ar opsiwn y Fargen Newydd, heb gymorth ychwanegol, oherwydd camddefnyddio cyffuriau. Felly, mewn ffaith, nodwyd y cwsmer fel un sy’n profi problemau oherwydd camddefnyddio cyffuriau.

C4: Efallai y bydd rhai cwsmeriaid yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon nad ydynt o reidrwydd yn cael eu hystyried fel rhwystr at waith – a fydd y gwahaniaeth hwn yn cael ei ystyried?

A: Dim ond cwsmeriaid â phroblem, sy’n eu hatal rhag cymryd rhan yn effeithiol yn y farchnad lafur, a ddylai gael eu derbyn ar y ddarpariaeth hon. Nid yw defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, nad yw’n atal y cwsmer rhag dod o hyd i waith neu gadw swydd, yn berthnasol. Barn broffesiynol y darparwr cynnydd at waith fydd hyn.

   


* *
*

Sesiwn Holi ac Ateb

  1. Arian
  2. Canlyniadau
  3. Contractio
  4. Polisiau a Darparu Gwasanaethau
  5. Cwmhwyster
  6. Gweithrediadau
  7. Gwerthuso a Gwybodaeth Reoli









*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cysylltiadau Allanol
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Cylchgronau...
  * cysylltu
  *  
*   Chwiliwch am...
  * Swyddfa agosaf
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * DfES
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*