Rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau
. .
* * *
* Partneriaid
*
*Partneriaid1096Back up a level (javascript:nodelink(299))
     
   *

Cynnydd at Waith - Polisïau a Darparu Gwasanaethau

cynnydd at waith

4. Polisïau a Darparu Gwasanaethau

C1: Sut y bydd cynnydd at waith yn effeithio ar y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd?

A: Cynlluniwyd y ddarpariaeth cynnydd at waith yn benodol i gydweddu â darpariaeth brif ffrwd bresennol y Ganolfan Byd Gwaith. Rhagwelwn y bydd darparwyr cynnydd at waith yn gweithio gyda darparwyr eraill er mwyn sicrhau gwasanaeth llyfn i’r cwsmer.

C2: A ydych yn targedu cwsmeriaid tebyg i’r New Futures Fund yn yr Alban?

A: Ariennir y fenter hon gan y Ganolfan Byd Gwaith ac mae’n canolbwyntio’n benodol ar ymyriadau cyflogaeth ar gyfer camddefnyddwyr cyffuriau. Ar hyn o bryd, nid yw projectau New Futures yn canolbwyntio llawer ar helpu camddefnyddwyr cyffuriau drwy ddarpariaeth y brif ffrwd ac i mewn i waith. Fodd bynnag, efallai y bydd projectau presennol New Futures am wneud cynnig ar gyfer y project hwn oherwydd gallai gydweddu â’r ddarpariaeth sydd eisoes ar waith ganddynt.

C3: Sut eir i’r afael â materion budd-daliadau cyfranogwyr os ydynt yn atgwympo ar ôl dechrau gweithio? Pa gamau hyblyg a fydd ar gael i ‘stopio’r cloc’, yn enwedig ar gyfer y rhai hynny sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)?

A: Oherwydd natur y problemau, gallai cwsmeriaid sy’n mynychu cynnydd at waith elwa ar rai llaciadau i reolau’r rhaglenni presennol. Y bwriad yw eu helpu i gynnal cyfranogiad ac ailgysylltu â darparwyr y brif ffrwd/y Fargen Newydd ar ôl cyfnod o atgwympo. Hefyd, eu galluogi i adael darpariaeth y Brif Ffrwd/y Fargen Newydd/Porth/Dilyniant a heb fygythiad sancsiynau (lle cynhelir cyswllt â’r darparwr cynnydd at waith). O ran darpariaeth y Porth a’r Dilyniant bydd angen i’r cwsmer barhau i fynychu’r Ganolfan Gwaith bob pythefnos er mwyn cofrestru ar gyfer y Lwfans Ceisio Gwaith.

Os bydd cwsmer yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith o ganlyniad i gyfnod o atgwympo a awdurdodwyd (gweler yr arweiniad i ddarparwyr) ni cheir sancsiynau budd-daliadau. Dylid ystyried bod y cwsmer wedi gadael y ddarpariaeth yn wirfoddol. Yn unol â hynny, ni ddylid gwneud penderfyniadau camau gweithredu. Mae’r gwrthwyneb yn wir ar gyfer absenoldebau nas awdurdodwyd o’r rhaglen.

C4: A fydd oedi yn y broses o gymryd rhan yn y Fargen Newydd os yw’r cwsmer ar ddarpariaeth cynnydd at waith (h.y. oedi cyfranogiad yn y Cyfnod o Weithgaredd Dwys (IAP) neu opsiwn y Fargen Newydd?

A: Na fydd. Y nod yw darparu’r ddarpariaeth fwyaf addas yn amodol ar anghenion y cwsmer.

C5: A fydd cyfranogwyr yn colli eu budd-daliadau os nad ydynt yn mynychu cynnydd at waith?

A: Na fyddant, mae’r cymorth sydd ar gael drwy cynnydd at waith yn hollol wirfoddol. Dim ond os bydd cwsmer yn methu â bodloni amodau’r budd-dal penodol a hawlir ganddynt y bydd y budd-dal yn cael ei effeithio.

C6: A fydd disgwyl i ddarparwyr ddarbwyllo cwsmeriaid i symud o fudd-daliadau eraill i Lwfans Ceisio Gwaith er mwyn cael mynediad i’r ddarpariaeth? Efallai y bydd rhai cwsmeriaid yn ofni colli Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Analluogrwydd.

A: Na fydd. Disgwyliwn y bydd cwsmeriaid yn parhau i hawlio’r budd-dal roeddent yn ei gael pan oeddent yn ymuno â’r ddarpariaeth, oni fydd y cwsmer yn dewis newid budd-dal.

Nid oes gan y Ganolfan Byd Gwaith gylch gorchwyl i symud cwsmeriaid o fudd-daliadau person nad yw’n weithgar i Lwfans Ceisio Gwaith, ond efallai y bydd amrywiaeth ehangach o ddarpariaeth ar gael i rai gwsmeriaid pan fyddant yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Ni fyddwn yn annog cwsmeriaid diamddiffyn a allai fod yn waeth eu byd yn ariannol pe byddent yn newid budd-daliadau. Lle na fydd cwsmer yn gymwys ar gyfer rhai mathau o ddarpariaeth y brif ffrwd, hwn fydd yr achos o hyd. Bydd angen i’r darparwr cynnydd at waith ddefnyddio dulliau eraill i’w paratoi ar gyfer gwaith.

C7: Mae’r rhagdybiaethau cynllunio yn nodi mai chwe mis fyddai’r arhosiad ar y baich achos ar gyfartaledd. Beth am gwsmeriaid y bydd angen cymorth arnynt am gyfnod yn hwy na hyn?

A: Dim ond hyd arhosiad disgwyliedig ar gyfartaledd yw’r rhagdybiaeth gynllunio a roddwyd gennym. Disgwyliwn y bydd angen cyfnod cymharol fyr o gymorth o bosibl ar gwsmeriaid sydd bron â bod yn barod ar gyfer swydd, tra bydd angen cyfnod o gymorth sy’n hwy na 6 mis ar rai gwsmeriaid. Y darparwr cynnydd at waith fydd yn penderfynu ar hyd yr arhosiad, yn seiliedig ar anghenion unigol pob cwsmer. Fodd bynnag, nid yw’r ddarpariaeth cynnydd at waith yn addas ar gyfer cwsmeriaid sydd angen cymorth dwysach, er enghraifft y rhai hynny sydd â ffordd o fyw llawer mwy anhrefnus, ond i gau’r bwlch rhwng unrhyw ddarpariaeth bresennol ar gyfer y cwsmeriaid hyn a gwasanaethau’r brif ffrwd ar gyfer holl gwsmeriaid y Gwasanaeth Cyflogi.

C8: Rhowch ragor o wybodaeth am y 30 awr o ddarpariaeth yr wythnos y disgwylir i gwsmeriaid gymryd rhan ynddynt. A all darparwyr weithio tuag at 30 awr, am na fydd yn ymarferol i rai gwsmeriaid wneud cymaint o oriau â hyn?

A: Disgwyliwn y bydd cyfanswm y gweithgareddau a nodir yng nghynllun gweithredu cwsmeriaid yn amser llawn (h.y. 30 awr yr wythnos). Mewn llawer o achosion, bydd y cwsmer yn cymryd rhan mewn darpariaeth y brif ffrwd ar gyfer rhai o’r oriau hyn, gyda chymorth ychwanegol gan y darparwr cynnydd at waith fel y bo angen.

I rai cwsmeriaid, mae gweithgaredd rhan amser cychwynnol gan arwain at gyfranogiad amser llawn ar fesurau’r brif ffrwd yn dderbyniol lle bo’n briodol. Fodd bynnag, byddai angen i ddarparwyr sicrhau bod amodau budd-daliadau cwsmeriaid yn parhau i gael eu bodloni.

C9: Dywedwch y dylai cwsmeriaid gymryd rhan am 30 awr yr wythnos – beth am gwsmeriaid nad ydynt yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (h.y. y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer rhaglenni’r Ganolfan Byd Gwaith) beth fyddai cynnwys eu 30 awr hwy? A fyddai’n rhaid i ddarparwyr cynnydd at waith gwmpasu 30 awr?

A: Disgwyliwn y byddai’r rhan fwyaf o gyfranogwyr yn symud i ddarpariaeth y brif ffrwd o fewn cyfnod byr ac yn cymryd rhan yn y rhaglen y maent yn ymuno â hi fel y bo’n briodol. Bydd yn bwysig darparu digon o weithgaredd o fewn cynllun gweithredu pob cwsmer er mwyn lleihau’r risg o atgwympo. Fel hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith, disgwylir i’r bobl nad ydynt yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith gymryd rhan mewn gweithgareddau addas. Wrth gwrs, ni fyddant yn gymwys ar gyfer yr union raglenni â’u cymheiriaid sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith, ond byddant serch hynny yn gallu cael mynediad i weithgareddau ac ymyriadau a fydd yn eu helpu tuag at waith.

C10: A gaiff Marchnadoedd Llafur Canolradd (ILM) neu brentisiaethau eu cyfrif fel canlyniadau swydd?

A: Diffinnir mynediad i’r ILM fel mynediad i swydd lle y mae contract ffurfiol o gyflogaeth ar waith. (Pan fo cwsmer wedi cael mynediad i’r ILM drwy opsiwn y Fargen Newydd ac felly yn parhau i gael Taliadau Lwfans y Fargen Newydd, ni fydd hyn yn cyfrif fel canlyniad swydd at ddibenion taliadau darparwyr).

C11: A allwn wneud y rhaglen yn un gorfodol ar gyfer cwsmeriaid arbennig?

A: Na allwn, mae’r cymorth sydd ar gael drwy cynnydd at waith yn hollol wirfoddol.

C12: Os na fyddai’r cwsmer yn dymuno i’w darparwr y brif ffrwd neu ei gyflogwr i wybod eu bod yn cael cymorth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau a allai hwn fod yn fater o gyfrinachedd.

A: Er mwyn defnyddio’r ddarpariaeth hon yn effeithiol, byddem yn annog cyfranogwyr i fod yn agored ynglŷn â’u problemau. Fodd bynnag, os nad yw cwsmer am i ddarparwr y brif ffrwd wybod eu bod wedi camddefnyddio cyffuriau, mae’n rhaid i’r darparwr cynnydd at waith gadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Bydd Pencadlys y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig cymorth ar sail achosion unigol mewn amgylchiadau o’r fath.

C13: Mae Canolfannau Triniaeth yn darparu gwasanaeth sy’n berthnasol i’r ddarpariaeth hon. A fyddai’r Ganolfan Byd Gwaith yn disgwyl i gynigwyr weithio’n agos gyda sefydliadau o’r fath?

A: Byddwn yn disgwyl i ddarparwyr weithio’n agos gydag amrywiaeth eang o sefydliadau lleol sy’n gweithio gyda chamddefnyddwyr cyffuriau, er mwyn sicrhau’r gwasanaeth gorau posibl i’r cwsmer. Bydd hyn yn cynnwys Canolfannau Triniaeth, a fydd yn ffynhonnell bosibl o gyfeiriadau ddwy ffordd. Efallai y bydd sefydliadau o’r fath hefyd yn gallu cynnig help a chyngor i ddarparwyr pe byddai cwsmer yn dychwelyd i’w hen arferion.

C14: Pa hyfforddiant a roddir i ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith ar gynnydd at waith? A fydd unrhyw help yn cael ei roi i’r ymgynghorwyr wrth nodi cwsmeriaid, oherwydd ar hyn o bryd efallai eu bod yn ei chael yn anodd i nodi’r grŵp cwsmeriaid hwn?

A: Bydd, fel rhan o’r gyllideb cynnydd at waith ar gyfer hyfforddi staff y Ganolfan Byd Gwaith.

C15: A fydd asiantaethau eraill yn cymryd rhan yn y broses o hyfforddi staff y Ganolfan Byd Gwaith?

A: Trefnir yr holl hyfforddiant gan staff y Ganolfan Byd Gwaith a chroesawn gymorth a mewnbwn darparwyr gwasanaethau cyffuriau lleol ac eraill. Gallai fod yn ofynnol i’r darparwr cynnydd at waith gynorthwyo’r broses o hyfforddi staff lleol y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn sicrhau eu bod yn deall y gwasanaeth y mae’r darparwr yn ei gynnig i gwsmeriaid ac i sicrhau cyfeiriadau priodol. Disgwylir i’r darparwr gytuno ar y trefniadau yn lleol gyda chydlynydd cynnydd at waith y Ganolfan Byd Gwaith.

C16: Ymddengys bod y fenter hon yn dibynnu ar gydweithrediad darparwyr y brif ffrwd – pa waith a wneir gyda darparwyr y brif ffrwd er mwyn cynorthwyo darparwyr cynnydd at waith?

A: Byddai er budd darparwyr y brif ffrwd i weithio gyda sefydliadau eraill er mwyn gwella cyfranogiad a llwyddiant cwsmeriaid. Gallai’r rhain fod yn gwsmeriaid y mae darparwyr y brif ffrwd yn gweithio gyda hwy ar hyn o bryd ond nad ydynt yn cyflawni canlyniadau ac felly taliadau i ddarparwyr y brif ffrwd a gyflawnir gan bobl nad ydynt yn camddefnyddio cyffuriau. Efallai y bydd y cydlynydd cynnydd at waith hefyd ar gael i weithio gyda darparwyr yn y Dosbarth er mwyn cynorthwyo darparwyr sy’n gweithio gyda’i gilydd. Cymhelliant arall o ran y grŵp cwsmeriaid hwn yw y byddai darparwr y brif ffrwd a’r darparwr cynnydd at waith yn gallu hawlio canlyniad swydd ar gyfer cwsmer unigol.

   


* *
*

Sesiwn Holi ac Ateb

  1. Arian
  2. Canlyniadau
  3. Contractio
  4. Polisiau a Darparu Gwasanaethau
  5. Cwmhwyster
  6. Gweithrediadau
  7. Gwerthuso a Gwybodaeth Reoli









*
* * * *
*    Ewch i
  * Help
  * Amdanom Ni
  * Chwiliad Safle
  * Map Safle
  * Cysylltiadau Allanol
  * Cais am gyflogaeth
  *  
*   Edrychwch ar...  
  * Sut i fynd yno
  * Digwyddiadau Lleol
  * Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml
  * Rhyddid Gwybodaeth
  *  
*   Cylchgronau...
  * cysylltu
  *  
*   Chwiliwch am...
  * Swyddfa agosaf
  *  
*   Cysylltwch â'r...
  * Ganolfan Byd Gwaith
  *  
*   Cysylltiadau Defnyddiol...
  * DWP
  * Asiantaeth Cynnal Plant
  * DfES
  * Targedu Lladron Budd-dal
  * Y Gwasanaeth Penswin
  * Directgov
  *  
 
English
Testun yn unig
Ymwadiad
 
*