|
|
||||
| Partneriaid | ||||
| ||||
Cynnydd at Waith - Contractiocynnydd at waith3. ContractioC1: Beth y bydd y trefniadau anfonebu a thalu? A: Bydd angen cyflwyno ffurflenni hawlio i’r Ganolfan Byd Gwaith yn fisol – mewn ôl-ddyledion ac ar y dyddiadau a nodir gan Dîm Taliadau Rhanbarthol y Ganolfan Byd Gwaith. Cynhwysir manylion llawn ar ffurflenni a gweithdrefnau anfonebu a thalu yn arweiniad y Darparwr a ddosberthir i gynigwyr llwyddiannus. C2: A ddylai prif sefydliad gyflwyno cynigion ar gyfer partneriaethau? A: Rydym am i bob contract gwmpasu’r broses o ddarparu’r gwasanaeth cyfan mewn Dosbarth, er y gallem ddyfarnu mwy nag un contract os oes angen er mwyn cynorthwyo’r nifer ddisgwyliedig o gwsmeriaid. Gallai hyn olygu contract gydag un sefydliad a fydd yn darparu’r gwasanaeth cyfan. Gallai hefyd olygu contract gyda sefydliad a fydd yn is-gontractio rhan o’r ddarpariaeth i sefydliad arall sy’n amlwg yn ychwanegu gwerth. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn derbyn cynnig gan Gonsortiwm er y bydd angen enw prif sefydliad arnom i weithio â hwy. Yn yr achos hwn, byddem yn disgwyl i’r cynnig amlinellu rôl a chyfrifoldebau pob partner yn glir gyda rhesymeg ategol o sut y bydd y gwasanaeth yn gweithio. Pan fydd unrhyw fylchau mewn partneriaeth oherwydd pwysau amser, yna dylai cynigion fod yn glir o ran y bylchau hyn a sut y cânt eu llenwi. C3: Pa mor wahanol yw’r fanyleb hon o gymharu â darpariaeth y brif ffrwd? A: Yn gyffredinol, mae darpariaeth y brif ffrwd yn cynnwys darparu gwasanaethau penodol i gwsmeriaid, er enghraifft, i ddarparu hyfforddiant yn y diwydiant adeiladu o fewn Dosbarth y Ganolfan Byd Gwaith o dan Opsiwn y Fargen Newydd. Nid yw cynnydd at waith yn rhaglen ynddi’i hun ac ni ddylai ailadrodd y ddarpariaeth sydd eisoes ar gael. Ei diben yw darparu gwasanaeth cymorth ychwanegol ond gwasanaeth sy’n cydweddu hefyd i gwsmeriaid na fyddent fel arall o bosibl yn goroesi eu rhwystrau tuag at gynnydd drwy ddarpariaeth y brif ffrwd ac i mewn i waith oherwydd iddynt gamddefnyddio cyffuriau yn y gorffennol. C4: A fydd contractau yn cael eu dyfarnu ar sail ariannol yn unig? A: Na – caiff pob cynnig ei asesu yn erbyn y meini prawf a ddisgrifir yn yr ITT. Bydd hyn yn cynnwys asesu pa mor dda y mae’r cynigion yn diwallu anghenion cwsmeriaid ac anghenion busnes y Ganolfan Byd Gwaith o fewn y gofynion polisi a’r arian sydd ar gael a ddisgrifir o fewn yr ITT ac sy’n cynrychioli gwerth am arian. C5: Os bydd cyfranogwr yn cael swydd a hoffech weld darparwyr cynnydd at waith yn cynnig cymorth ôl-leoliad am gyfnod o hyd at 13 wythnos ar gyfer y cwsmer hwnnw? A: Hoffem. Un o’r canlyniadau a nodir yn yr ITT yw cynnal cyflogaeth am isafswm o 13 wythnos sy’n cydnabod y gwaith y gall darparwyr ei wneud gyda chwsmeriaid unwaith y byddant mewn gwaith. Fodd bynnag, bydd y lefel o gymorth sydd ei hangen yn dibynnu’n llwyr ar anghenion y cwsmer unigol. C6: Mae’r model a amlinellir yn yr ITT yn ôl y baich achosion. A all darparwyr is-gontractio neu ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol? A: Rydym yn edrych am gynigion sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid orau. Mae’r model ymgynghorydd personol yn fodel effeithiol yn ôl rhaglenni peilot Cynnydd. Gall cynigwyr gynnig modelau darparu gwahanol sy’n bodloni’r gofynion gwasanaeth a ddisgrifir yn yr ITT er y dylid nodi sut y bodlonir yr holl ofynion gwasanaeth yn eu cynigion. Os bydd cynigwyr yn cynnig is-gontractio rhan o’r ddarpariaeth, mae’n rhaid i’r cynnig nodi’n glir sut y bydd hyn yn gweithio, y rhesymeg a fydd yn ategu’r ymagwedd hon a sut y bydd yn ychwanegu gwerth. C7: Efallai y bydd ffordd o fyw rhai cwsmeriaid yn “rhy anhrefnus” i gymryd rhan mewn gwaith sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ac y dylid eu cyfeirio i raglenni triniaeth statudol. Sut y caiff “yn rhy anhrefnus” ei ddiffinio ac a fydd gan ddarparwyr y rhyddid i asesu a yw darpar gwsmeriaid yn “rhy anhrefnus” i gymryd rhan? A: Datblygwyd cynnydd at waith er mwyn helpu’r cwsmeriaid hynny nad ydynt yn gallu defnyddio darpariaeth prif ffrwd y Ganolfan Byd Gwaith yn llwyddiannus ond a fyddai’n gallu gwneud hynny gyda chymorth ychwanegol y darparwyr cynnydd at waith. Disgwylir i ddarparwyr ddefnyddio eu barn arbenigol er mwyn penderfynu pa gwsmeriaid sydd fwyaf addas ac sy’n gallu cael eu cynorthwyo. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i ddarparwyr gyfeirio’r cwsmeriaid na allant elwa ar wasanaethau cynnydd at waith at ddarpariaeth arall fwy addas. Gallai hyn hefyd gynnwys eu helpu i sicrhau help sefydliad trin cyffuriau, lle y bo’n briodol/ar gael. C8: Rydym yn pryderu y gallai darparwyr hefyd gael anhawster i amcangyfrif niferoedd a chanlyniadau, o gofio’r ansicrwydd ynglyn â’r grwp cwsmeriaid hwn Faint o bwysigrwydd a roddir ar flaenamcanu niferoedd, yn ystod y broses o asesu cynigion? A: Rydym yn cydnabod y gall fod rhywfaint o ansicrwydd ynglyn â darparu gwasanaethau i’r cwsmeriaid hyn, er bod cynigwyr wedi dweud wrthym eu bod yn gweithio gyda’r cwsmeriaid hyn eisoes a’u bod mewn sefyllfa well o lawer i farnu beth sy’n gweithio ac i amcangyfrif pa alw a fydd yn y Dosbarthau. Rydym am gael cynigion sy’n disgrifio pa wasanaethau y bydd cwsmeriaid yn eu derbyn, faint o gwsmeriaid a fydd yn derbyn y gwasanaethau, pa mor dda y bydd y gwasanaethau yn diwallu anghenion cwsmeriaid o ran cyfranogiad a chanlyniadau a sut y datblygir y nifer amcangyfrifedig o gwsmeriaid ar y rhaglen wirfoddol hon. Bydd angen gwybodaeth am y gwasanaethau arfaethedig yn y cynnig, y galw cyffredinol a’r lefelau o ganlyniadau er mwyn gallu penderfynu a yw’r cynnig cyfan yn cefnogi’r broses ddarparu. C9: A oes yn rhaid i ddarparwyr wneud cynnig ar wahân os oes ganddynt ddiddordeb mewn mwy nag un Dosbarth? A: Oes. Gall gofynion lleol fel y’u disgrifir yn y ddogfen Gwybodaeth Leol am Ddosbarthau ac anghenion lleol eraill hefyd ddylanwadu ar y broses o asesu anghenion. C10: Pwy fydd yn monitro’r contractau? A: Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn monitro contractau yn lleol. C11: I ba raddau ydych chi’n disgwyl gweithio gyda’r rhai hynny ar Gofrestr Darparwyr Cymeradwy’r Ganolfan Byd Gwaith? A: Nid oes gennym unrhyw ddisgwyliadau o ran pwy fydd am wneud cynnig ar gyfer cynnydd at waith a phwy fydd yn llwyddiannus yn y broses asesu cynigion. Rydym felly yn chwilio am sefydliadau y tu hwnt i’r Gofrestr Darparwyr Cymeradwy. Byddwn yn ystyried pob cynnig yn gyfartal ac rydym am ddyfarnu’r contractau sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid orau, o fewn polisi cyffredinol cynnydd at waith. Ni fydd y ffaith bod cynigiwr yn ddarparwr wedi’i gymeradwyo gan y Ganolfan Byd Gwaith yn rhan o’r broses o asesu cynigion heblaw fod darparwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan y Ganolfan Byd Gwaith eisoes wedi darparu gwybodaeth, er enghraifft o ran iechyd a diogelwch, lle gofynnir i ddarparwyr nad ydynt yn rhai wedi’u cymeradwyo ddarparu hyn. Gellir defnyddio gwybodaeth o’r fath wrth asesu cynigion. C12: A fydd yn rhaid i gynigwyr nad ydynt yn ddarparwyr wedi’u cymeradwyo gan y Ganolfan Byd Gwaith roi rhagor o wybodaeth na’r rhai hynny sydd eisoes ar y rhestr o ddarparwyr cymeradwy’r Ganolfan Byd Gwaith? A: Os bydd darparwyr cymeradwy’r Ganolfan Byd Gwaith eisoes wedi cyflwyno gwybodaeth benodol (e.e. polisi cyfle cyfartal, holiadur iechyd a diogelwch) fel rhan o’r broses gymeradwyo yna ni fyddem yn gofyn iddynt ei darparu eto os yw’n parhau i fod yn gyfoes ac yn berthnasol. Gofynnwyd i ddarparwyr nad ydynt wedi’u cymeradwyo gan y Ganolfan Byd Gwaith gynnwys hyn yn eu hymateb. C13: A all darpar gynigwyr gael manylion am sefydliadau eraill sydd â diddordeb, naill ai’n lleol neu’n genedlaethol? A: At ddibenion y gystadleuaeth hon, ni ellir rhannu’r wybodaeth hon yn ystod y cam hwn. C14: Sut caiff y cynigion eu hasesu? A: System gaffael a arweinir gan y Ganolfan Byd Gwaith yw hon a bydd y broses o asesu cynigion yn gweithredu mewn ffordd sy’n gyson â pholisïau a gweithdrefnau caffael y llywodraeth ganolog y mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn agored iddynt. Caiff sefydliadau eu hasesu o ran sut y mae eu cynigion yn bodloni gofynion y gwasanaeth. Asesir yr holl gynigion yn gyfartal ac ar sail eu teilyngdod yn llwyr. Disgwylir i’r ITT a’r datganiad dull a ddatblygwyd ar gyfer y Dosbarthau cynnydd at waith yn unig roi’r cyfle i’r sefydliadau ddangos pa mor dda y byddent yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Bydd y tîm asesu cynigion yn asesu’r cynigion er mwyn nodi’r cynigion hynny sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid, eto o fewn polisi cyffredinol cynnydd at waith. |





