cynnydd at waith
cynnydd at waith
Datblygwyd y fenter cynnydd at waith i helpu pobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon i symud i mewn i waith fel rhan o ymagwedd ehangach y Llywodraeth i helpu’r rhai sydd o dan yr anfantais fwyaf. Mae cynnydd at waith yn rhoi cymorth i gwsmeriaid sydd wedi gwneud cynnydd digonol wrth wella i fod yn rhydd o gyffuriau neu’n sefydlog, ond mae eu hanes o gamddefnyddio cyffuriau yn debygol o fod yn ffactor sylweddol wrth eu hatal rhag cael gwaith neu gadw swydd.
Menter traws-lywodraethol a gynghorir gan grwp rhyng-adrannol yw hon. Mae’r cynrychiolwyr yn cynnwys swyddogion o’r Swyddfa Gartref, y Gwasanaeth Iechyd, yr Asiantaeth Driniaeth Genedlaethol, Cynulliad Cymru a Gweithrediaeth yr Alban.
Mae gan cynnydd at waith ddwy elfen allweddol:
- cymorth arbenigol a gontractiwyd er mwyn helpu cwsmeriaid i gael mynediad i waith a’i gadw ynghyd â mesurau cyflogaeth a hyfforddiant y brif ffrwd.
- hyfforddiant/ymwybyddiaeth ar gyfer staff y Ganolfan Byd Gwaith er mwyn iddynt allu nodi a chyfeirio cwsmeriaid addas yn well.
Cyflwynwyd cynnydd at waith ar ddechrau 2002, mewn 27 o ardaloedd arbrofol i ddechrau a nodwyd fel rhai:
- â lefelau sylweddol o gamddefnyddio cyffuriau a gofnodwyd;
- sy’n cynrychioli amrywiaeth o nodweddion y farchnad lafur sy’n adlewyrchu’n nodweddiadol yr heriau gwahanol sy’n wynebu darparwyr gwasanaethau hyfforddiant, cyflogaeth a gwasanaethau trin cyffuriau;
- â mynediad i amrywiaeth eang o ddarpariaeth gydweddus a ffynonellau ariannu.
Bydd cynnydd at waith ar gael mewn tua 60 o ddosbarthau’r Ganolfan Byd Gwaith erbyn mis Ebrill 2003 a chaiff ei gyflwyno yn y 31 o ddosbarthau sy’n weddill erbyn mis Mawrth 2004. Mae’r darparwyr yn tarddu o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys y sector preifat a’r sector gwirfoddol a’r rhai hynny â chysylltiad traddodiadol â’r sector trin cyffuriau. Daw’r cyfeiriadau o amrywiaeth eang o ffynonellau yn enwedig gwasanaethau trin cyffuriau ac asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Cymorth cynnydd at waith
Bydd pob cwsmer a gyfeirir at cynnydd at waith yn cael ei gysylltu â gweithiwr cymorth cyflogaeth a fydd yn:
- asesu eu hanes cyflogaeth a chamddefnyddio cyffuriau ynghyd â ffactorau eraill a fydd yn effeithio ar eu rhagolygon o ddod o hyd i waith a’i gadw;
- creu cynllun gweithredu wedi’i deilwra’n unigol a fydd yn eu symud tuag at waith;
- rhoi unrhyw help paratoadol a allai fod ei angen arnynt cyn dechrau mesur cyflogaeth, fel adeiladu hyder a phendantrwydd, a sgiliau bywyd:
- helpu i gael mynediad i asiantaethau arbenigol er mwyn sicrhau yr eir i’r afael yn briodol â materion eraill a allai fod yn rhwystr i gyflogaeth. Gallai’r rhain gynnwys dyledion, tai, iechyd a materion cyfiawnder troseddol sy’n weddill.
Bydd cynllun gweithredu unigol y cwsmer yn cynnwys nid yn unig y camau i symud i mewn i waith ond hefyd y gweithgaredd ychwanegol sydd ei angen er mwyn ategu’r gweithgaredd hwn. Bydd hwn yn amrywio yn ôl eu hanghenion a’u hamgylchiadau penodol, ond gallai gynnwys help i:
- gael mynediad i hyfforddiant ac adnoddau chwiliad gwaith;
- datblygu eu ‘sgiliau meddal’;
- nodi gwaith addas;
- datgelu eu hanes cyffuriau;
- cael mynediad i ragflasau gwaith neu brofiad gwaith;
- ymdopi ag unrhyw ofynion profi cyffuriau gan gyflogwyr;
- datgelu collfarnau troseddol;
- ymdopi â’r trawsnewidiad i gyflogaeth a chyflog;
- rheoli materion budd-daliadau trosiannol.
Bydd y gweithiwr cyflogaeth yn parhau i gynorthwyo’r cwsmer er mwyn sicrhau eu bod yn glynu at eu cynllun gweithredu unigol ac yn ei gwblhau, gan chwarae rôl eiriolaeth lle y bo angen. Byddant yn nodi pethau a allai arwain at atgwympo neu adael y cynllun a byddant yn rhoi cymorth ac anogaeth ychwanegol yn ystod y camau hyn. Bydd y pwyntiau trosiannol amrywiol, fel dechrau ar y ddarpariaeth gyflogaeth, symud o un cyfnod o ddarpariaeth i gyfnod arall, dechrau profiad gwaith, cwblhau’r ddarpariaeth ac ati, yn bwyntiau a allai achosi atgwympo neu adael y cynllun, fel y bydd amrywiaeth o ffactorau personol y bydd yr asesiad wedi tynnu sylw atynt.
Bydd y cymorth yn parhau am hyd at 13 wythnos ar ôl iddynt gael swydd er mwyn lleihau’r risgiau a ragwelir i’r cyflogwr a helpu i atal atgwympo.
Cyllidebau a gwerthuso
Gwnaed buddsoddiad cychwynnol o £40m dros dair blynedd er mwyn datblygu a gweithredu cynnydd at waith. Yna, bydd yn sefydlog ar £20m y flwyddyn
Caiff y fenter ei gwerthuso’n llawn. Yn ôl yr arwyddion cynnar, mynegwyd llawer o ddiddordeb yn y fenter ac mae’n llwyddo i helpu pobl sy’n gwella ar ôl camddefnyddio cyffuriau yn ôl i mewn i’r farchnad lafur ac i oresgyn rhwystrau ychwanegol at waith fel cartref ansefydlog a chofnod troseddol.
|