|
|
||||
| Partneriaid | ||||
| ||||
Cynnydd at Waith - ArianSesiwn Holi ac Ateb1. ArianC1: A oes disgwyl i ddarparwyr dalu costau teithio cwsmeriaid a chostau eraill, o’r arian a ddisgrifir yn yr ITT. A: Oes. Disgwylir i ddarparwyr dalu costau teithio cwsmeriaid yn unol â pholisi’r Ganolfan Byd Gwaith. Dylai cynigwyr gynnwys y costau hyn o fewn eu prisiau ar gyfer darparu gwasanaethau. C2: Beth fyddai goblygiadau cyfranogiad isel gan gwsmeriaid? A: Gwarentir 75% o gyfanswm gwerth y contract ac fe’i telir yn fisol. Dylai hyn gynorthwyo’r ddarpariaeth a gynigir gan ddarparwyr er y byddem yn disgwyl o hyd i ddarparwyr ddatblygu cysylltiadau gyda ffynonellau cyfeirio eraill ac i weithio i adeiladu cyfranogiad cwsmeriaid. Bydd y darparwyr yn gyfrifol am y nifer o gwsmeriaid ar y baich achosion. Mae’r galw am y gwasanaethau yn uchel yn ôl yr arwyddion cynnar. Hefyd, gan mai gwasanaeth gwirfoddol yw hwn, bydd y cwsmeriaid sy’n cymryd rhan yn debygol o fod yn llawn cymhelliant i lwyddo. Gyda’i gilydd, dylai’r rhain gyfrannu at lwyddiant cynnydd at waith. Bydd gan y Ganolfan Byd Gwaith rôl i’w chwarae hefyd o ran annog pobl i ddefnyddio’r gwasanaethau. C3: A fydd yr wythnosau sy’n weddill yn berthnasol er mwyn cynorthwyo darparwyr i gyflawni 100%? A: Mae’r dull ariannu yn wahanol i’r trefniadau ariannu a sefydlwyd gan y Ganolfan Byd Gwaith ac a ddefnyddir gan ein darparwyr ar gyfer gwasanaethau’r prif ffrwd. Gyda’r taliadau a warentir a thaliadau canlyniadau, nid oes rôl ar gyfer talu am yr wythnosau sy’n weddill. C4: A fydd y darparwyr yn cyflwyno ceisiadau misol neu a ddefnyddir arian fformiwla? Os felly, pa mor aml y bydd cysoniadau? A: Bydd arian a threfniadau talu cynnydd at waith yn amrywio o’r arian fformiwla i’r ymagwedd taliadau proffil a ddefnyddir ar gyfer darpariaeth prif ffrwd y Ganolfan Byd Gwaith. Telir y 75% a warentir mewn rhandaliadau misol. Gwneir taliadau sy’n gysylltiedig â chanlyniadau a gyflawnwyd drwy gais ac anfoneb misol. Rhoddir y trefniadau manwl ar gyfer y broses hawlio, gan gynnwys y trefniadau anfonebu a gofynion o ran tystiolaeth i’r cynigwyr dethol yn ystod y Trafodaethau ar ôl Pennu Tendr. C5: Beth os yw’r galw am ddarpariaeth yn fwy na’r arian sydd ar gael? A: O fewn y Dosbarthau, rydym am ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r galw am y gwasanaethau hyn a pha ymagweddau sy’n gweithio gyda’r cwsmeriaid hyn. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’r arian sydd ar gael ar hyn o bryd. Pe gallem ddangos bod y fenter yn effeithiol, gallem ystyried ceisio am arian ychwanegol gan Drysorlys Ei Mawrhydi. C6: A ystyriwyd rhoi un taliad i ddarparwyr pan fo cwsmeriaid yn atgwympo ar raglen a ariennir gan y brif ffrwd? A: Nid yw’r arian ar gyfer Dosbarthau cynnydd at waith yn gysylltiedig â’r nifer o gwsmeriaid sy’n dechrau ar y rhaglen. O dan y drefn ariannu, bydd darparwyr cynnydd at waith eisoes wedi derbyn taliad ar gyfer y cwsmer drwy’r arian baich achosion ac efallai eu bod hefyd wedi derbyn taliad canlyniadau sy’n gysylltiedig â’r cwsmer sy’n cael mynediad i ddarpariaeth y brif ffrwd. Mae’r darparwr cynnydd at waith yn gyfrifol am annog a thrafod er mwyn i’r cwsmer ddychwelyd i’r rhaglen. Byddai disgwyl i’r darparwr reoli a chynorthwyo’r cwsmeriaid sy’n atgwympo. Er y gallai’r cwsmer atgwympo a gadael darpariaeth y brif ffrwd, ni fyddent o reidrwydd wedi gadael y ddarpariaeth cynnydd at waith. C7: A ddylai sefydliad sy’n gwneud cynnig nodi eu bod yn defnyddio arian o ffynonellau eraill i gynorthwyo’r broses o ddarparu cynnydd at waith? A: Dylent, gofynnir i gynigwyr roi gwybodaeth am eu costau darparu er mwyn gallu eu hystyried wrth asesu’r cynnig a’u cymharu â’r prisiau er mwyn cael sicrwydd y bydd y gwasanaeth yn gweithredu’n ddichonol. Os bydd cynigiwr yn defnyddio cronfeydd ychwanegol i refeniw’r Ganolfan Byd Gwaith, dylid rhoi gwybodaeth am hyn yn eu tendr. Byddai hyn yn osgoi ymddangosiad problemau posibl wrth asesu’r cynnig, lle cynigir gwasanaeth mwy dwys gyda chostau cymharol uwch a lle nad yw refeniw’r Ganolfan Byd Gwaith yn ddigonol i’w gynorthwyo er bod y gwasanaeth yn ddichonadwy oherwydd yr arian ychwanegol. C8: A oes cronfeydd adeiladu capasiti ar gael i farchnata cynnydd at waith gyda chyflogwyr? A: Bwriad cronfeydd datblygu yw mynd i’r afael â’r bylchau penodol sydd angen eu llenwi cyn dechrau darparu’r gwasanaeth, yn hytrach nag ar gyfer gweithgareddau penodol fel marchnata yn ystod y broses ddarparu barhaus. Byddem yn disgwyl i’r refeniw ar gyfer darparu gwasanaethau gwmpasu gweithgaredd marchnata i gyflogwyr. Efallai y bydd y darparwr cynnydd at waith yn gallu cael mynediad i weithgaredd marchnata Dosbarth y Ganolfan Byd Gwaith leol a mentrau eraill sy’n gysylltiedig â chyflogwyr neu yn gallu eu cydlynu, yn amodol ar argaeledd a chytundeb. C9: A dderbyniwch gostau ar gyfer pethau fel sefydlu/cynnal llinell gymorth? A: Yn eu hargymhellion, dylai’r cynigwyr gynnwys y gweithgareddau hynny a fyddai’n diwallu anghenion cwsmeriaid ac yn bodloni gofynion polisi orau o fewn y polisi cyffredinol a’r arian a ddisgrifir yn yr ITT, yn eu barn hwy. Byddwn yn ystyried dyrannu arian datblygu yn seiliedig ar fylchau a nodwyd yn glir, gyda rhesymeg ategol ar sut y llenwir y bylchau hynny. Byddem yn disgwyl i unrhyw gostau rhedeg ar gyfer elfennau o’r gwasanaeth parhaus gael eu cynnwys yn y prisiau darparu. C10: A all sefydliadau bach gael arian ymlaen llaw er mwyn eu helpu i sefydlu eu busnesau? A: Mae arian datblygu cyfyngedig ar gael er mwyn helpu darparwyr i lenwi unrhyw fylchau a fyddai, fel arall, yn eu hatal rhag darparu’r gwasanaethau. Rydym wedi gofyn i gynigwyr roi gwybodaeth am y bylchau a’r costau y mae angen eu talu. Byddwn yn ystyried ariannu hyd at uchafswm o £9000. Gall y cyfnod datblygu bara hyd at dri mis. |





