|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
cadw mewn cysylltiad - Rhifyn 11, Awst 2008y cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd Gwaith Croeso i rifyn mis Awst o cadw mewn cysylltiadBob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae'r rhifyn hwn yn egluro sut y gallwch ddweud eich dweud am y Papur Gwyrdd Diwygio Lles: 'Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb' a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wrth agosáu at y diwrnod lansio a manylion am y nifer cynyddol o bobl sy'n dod o hyd i waith gyda help Partneriaethau Cyflogaeth Lleol. Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth ar cadw mewn cysylltiad, rhowch wybod i ni. Y newyddion diweddarafPartneriaethau cyflogaeth ar waithMae'r mwy na mil o bobl yr wythnos bellach yn cychwyn gwaith trwy Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol (LEPs) - ac mae'r duedd ar i fyny yn parhau. Erbyn diwedd mis Gorffennaf roedd mwy na 18,500 o bobl wedi dod o hyd i waith drwy LEPs. Yn yr un mis cyflwynodd y Ganolfan Byd Gwaith fwy na 233,000 o ymgeiswyr am swyddi gwag cyflogwyr LEP, sy'n gynnydd o 250% ers mis Mai. Fel rhan o LEP, mae'r cyflogwr yn cytuno i sicrhau bod mwy o swyddi ar gael i bobl ddi-waith hirdymor, rhieni unigol, pobl â chyflyrau iechyd a grwpiau eraill sy'n aml yn cael eu hesgeuluso yn y farchnad lafur. Yn gyfnewid am hyn bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn paratoi'r bobl hynny i gyfateb anghenion sgiliau'r cyflogwr a'u cael yn barod i fynd i mewn i fyd gwaith. Mae manteision LEPs yn sylweddol i'r cyflogwyr ac i'r ceiswyr gwaith. I gael tystiolaeth ysbrydoledig, edrychwch ar y fideos byr am gyflogwyr a gweithwyr a oedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau cenedlaethol LEP mis Gorffennaf 2008 a chanfod pwy a enillodd. Am ragor o wybodaeth am enillwyr y Gwobrau a LEPS yn gyffredinol, ewch i wefan LEP. Mewn ffocwsDweud eich dweud am y diwygiadau lles arfaethedigMae'r Llywodraeth yn awyddus i gael eich barn ar gynlluniau i ddiwygio'r wladwriaeth les, fel y nodir yn y Papur Gwyrdd 'Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb'. Bwriad y cynigion yw symleiddio budd-daliadau a rhoi cymorth mwy personol i bobl yn gyfnewid am fwy o gyfrifoldeb. Ni fydd y rhan fwyaf o bobl o oedran gweithio - a all weithio nawr neu ar ryw adeg yn y dyfodol - yn cael budd-daliadau am oes mwyach. Bydd yn ofynnol i'r rhan fwyaf o bobl ar fudd-daliadau gyfrannu'n weithredol yn gyfnewid am eu budd-daliadau. Hefyd bydd cymorth mwy personol ar gael i bawb sydd ei angen er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle i fynd i mewn i waith. Croesewir eich barn ar yr holl gynigion cyn i'r ymgynghoriad gau ar 22 Hydref 2008. Er enghraifft:
Gallwch gael y rhestr lawn o gwestiynau'r ymgynghoriad ar-lein, gan gynnwys mwy o fanylion ar y cynigion a gwybodaeth ar sut y gallwch gyfrannu. Hyrwyddo'r ymgynghoriadRydym eisiau sicrhau fod gan bawb y cyfle i gyfrannu eu sylwadau am gynigion y diwygo lles erbyn 22 Hydref. Gallwch helpu drwy hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad yn ehangach, ac annog cydweithwyr, aelodau, cefnogwyr, gwirfoddolwyr, ffrindiau a theulu i gymryd rhan.
Os felly, lawrlwythwch ein pecyn ymgynghori - mae'n rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Newyddion rhanddeiliaidCrynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaidLwfans Cyflogaeth a ChymorthCaiff y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) newydd ei lansio ar 27 Hydref 2008. Fel y nodwyd mewn rhifynnau blaenorol o cadw mewn cysylltiad, mae ESA yn newid sylfaenol yn y ffordd mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â'i chwsmeriaid sydd â salwch neu anableddau. Bydd ESA yn disodli Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail analluogrwydd i gwsmeriaid newydd. Yr egwyddor sylfaenol i'r newid hwn yw y dylai pawb gael y cyfle i weithio, ac y dylai pobl â salwch neu anabledd gael mwy o'r help a'r gefnogaeth sy'n angenrheidiol iddynt gael cyswllt â chyflogaeth berthnasol, os gallant a phan fônt yn barod i wneud hynny. Yn graidd i ESA mae asesiadau meddygol newydd sy'n ystyried yr hyn y gall cwsmeriaid ei wneud, yn hytrach na'r hyn na allant ei wneud. Mae ESA yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen 'Llwybrau at Waith', sydd wedi helpu mwy na 64,000 o bobl i mewn i waith ers mis Hydref 2003. Mis diwethaf, amlinellodd cadw mewn cysylltiad y cynlluniau ar gyfer yr ymgyrch yn y cyfryngau a fydd yn cefnogi cyflwyno'r lwfans newydd. Mae'r cynlluniau hyn nawr wedi'u rhoi ar waith, gan ddechrau â chyfres o hysbysebion a fydd yn ymddangos mewn cyhoeddiadau masnach perthnasol ac ar wefannau penodol o'r mis hwn ymlaen. Cewch ragor o wybodaeth am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar wefan DWP. Bydd y wefan hon yn parhau i gael ei diweddaru a'i datblygu wrth agosáu at y cyfnod lansio. Mae ymgysylltu a deialog am ESA hefyd yn parhau â Fforwm Grwp Cynrychiolwyr Cwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith. cadw mewn cysylltiadNod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhaglen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth i chi am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod. |






