|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
cadw mewn cysylltiady cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd GwaithRhifyn 8 - Mai 2008Croeso i rifyn mis Mai o cadw mewn cysylltiadBob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ein perfformiad wrth brosesu ceisiadau am fudd-dal a sut y mae ein cwsmeriaid yn cael gwasanaeth cyflymach, yn ogystal â gwybodaeth bwysig am argaeledd budd-daliadau anabledd y DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd. Mae hefyd newyddion am gwblhau'r broses o gyflwyno'r rhaglen Llwybrau at Waith, a gwybodaeth am y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodi newydd a'r gwaith y bydd yn ei wneud. Ac yn olaf, rydym yn awyddus i wybod eich barn am cadw mewn cysylltiad, felly rydym wedi datblygu arolwg ar-lein byr, a fydd ar agor am y mis nesaf. Cymerwch yr amser i'w gwblhau os gallwch, gan fod eich barn yn wirioneddol bwysig i ni. Y newyddion diweddarafY Diweddaraf am berfformiad y Ganolfan Byd GwaithYm mis Ebrill 2006 gwnaethom gyflwyno targed perfformiad o'r enw Amser Clirio Gwirioneddol ar Gyfartaledd fel ffordd o fesur pa mor hir yr oedd yn cymryd i ni brosesu budd-daliadau pobl. Yn y flwyddyn cyn cyflwyno'r targed, yr amser ar gyfer prosesu Lwfans Ceisio Gwaith oedd 14.5 diwrnod ar gyfartaledd. Bellach mae'n 10.6 diwrnod, sy'n golygu bod cwsmeriaid yn cael eu budd-daliadau yn gynt nag erioed o'r blaen. Mae Cymhorthdal Incwm a Budd-dal Analluogrwydd yn dangos gwelliannau tebyg. Mae'r ffigurau diweddaraf (blwyddyn lawn 2007/8) yn dangos bod Cymhorthdal Incwm yn 9.2 diwrnod o gymharu â 11.3 diwrnod gynt, a bod Budd-dal Analluogrwydd yn 13.1 diwrnod ar hyn o bryd o gymharu 16.3 diwrnod. Mae'r gwelliant sylweddol hwn i'n gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ar adeg hanfodol. Budd-daliadau Anabledd yn yr Ardal Economaidd EwropeaiddHydref diwethaf, penderfynodd Llys Cyfiawnder Ewrop bod yn rhaid i rai o fudd-daliadau anabledd y DU bellach gael eu hystyried yn fudd-daliadau salwch. Mae hyn yn golygu y cânt eu talu i rai pobl a fydd yn gadael y DU i fyw mewn un o wladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu'r Swistir. Mae'r penderfyniad yn effeithio ar Lwfans Byw i'r Anabl (yr elfen ofal), Lwfans Gweini a Lwfans Gofalwr. Mae DWP yn parhau i drafod amodau cymhwyso i bobl sydd eisoes yn byw yn un o wledydd eraill yr AAE neu'r Swistir sydd am wneud cais o dramor gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Directgov Meddyliwch yn fach, dywed ymgyrch Partneriaeth Cyflogaeth Leol.Ym mis Mai, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn lansio ymgyrch gydlynol i annog busnesau bach a chanolig eu maint i ymuno â Phartneriaethau Cyflogaeth Lleol, sef cynllun partneriaeth rhwng y Llywodraeth a busnes i fynd i'r afael â'r heriau recriwtio a sgiliau cynyddol ym marchnad lafur heddiw. Yn y cychwyn prif ffocws y partneriaethau hyn oedd gweithio gyda chyflogwyr cenedlaethol mawr, pob un â channoedd o swyddi gwag. Ond gall Partneriaethau Cyflogaeth Lleol fod o fudd i fusnes o unrhyw faint, mewn unrhyw sector, sydd am recriwtio, drwy gynnig dewis llawer ehangach o ddarpar recriwtiaid sy'n barod i weithio. Yn hanfodol, o safbwynt cyflogwyr llai, nid oes tâp coch na risg ynghlwm wrthynt. O safbwynt ceiswyr gwaith, mae'n newyddion da iawn y bydd Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn gynyddol annog eu cyflogwyr lleol llai i recriwtio pobl, gan gynnwys pobl ddi-waith hirdymor a phobl anabl, na fyddent wedi eu hystyried yn flaenorol. Yn ei dro mae hyn yn creu hyfforddiant sgiliau lleol a chyfleoedd swyddi newid na fyddai wedi bodoli fel arall. Bydd yr ymgyrch hon, y caiff ei chanolbwyntio'n lleol ac yn rhanbarthol, yn cynnwys post uniongyrchol, hysbysebu, gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus ac ymgysylltu'n uniongyrchol â chyflogwyr. I gael rhagor o wybodaeth am Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol a sut y gallant helpu ceiswyr gwaith, cyflogwyr a chymunedau lleol, ewch i wefan cyflogwyr y Ganolfan Byd Gwaith. Mewn ffocwsCwblhau'r broses o gyflwyno Llwybrau at Waith yn genedlaetholBellach mae Llwybrau at Waith ar gael ledled Cymru, yr Alban a Lloegr, yn dilyn y gwaith llwyddiannus o gyflwyno ail gam yr ardaloedd a arweinir gan ddarparwyr ar 28 Ebrill. Mae Llwybrau yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl â phroblemau iechyd ac anableddau i'w helpu i ddod o hyd i waith neu symud yn agosach at fod yn barod i ystyried cael swydd. Mae eisoes wedi helpu bron i 70,000 o bobl i symud i mewn i waith. Bellach gall unrhyw gwsmer sy'n gwneud cais newydd neu ail gais am Fudd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Gymhorthdal Incwm ar sail analluogrwydd fanteisio ar y cymorth ychwanegol hwn. Mae hefyd ar gael i gwsmeriaid presennol sy'n cael y budd-daliadau hyn ac sy'n gwirfoddoli i gymryd rhan. Mae hyn yn golygu y gall yr holl bobl, 2.5 miliwn ohonynt, sydd ar y budd-daliadau hyn fanteisio ar Llwybrau at Waith. Mae cynnig y gwasanaeth ledled Prydain yn gam pwysig ymlaen yn Rhaglen Diwygio Lles y Llywodraeth gan mai Llwybrau fydd un o gonglfeini'r drefn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth pan gaiff ei gyflwyno yn nes ymlaen eleni. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Ganolfan Byd Gwaith - Llwybrau at Waith. Newyddion rhanddeiliaidCrynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaidY Ganolfan Byd Gwaith yn sefydlu tîm recriwtio ymrwymedig y Gemau OlympaiddLlofnododd y Ganolfan Byd Gwaith gytundeb gydag Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd ym mis Rhagfyr 2007 sy'n ein gosod fel partner recriwtio allweddol. O ganlyniad mae 'Tîm Recriwtio Llundain 2012' bellach ar waith. Mae'r gan y tîm brif flaenoriaeth ar gyfer dosbarthu swyddi gwag y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd, gan gynnwys cyfateb a sgrinio ymgeiswyr. Gellir cael manylion am y cyfleoedd swyddi o uned gydlynu Llundain 2012 ar 08457 1552012. Gall cwsmeriaid hefyd chwilio am swyddi drwy ddefnyddio gwefan y Ganolfan Byd Gwaith. Hyd yn hyn mae eisoes 2,488 o weithwyr ar safle'r Gemau, gyda deg y cant ohonynt yn ddi-waith yn flaenorol. Mae 469 o'r gweithwyr hyn yn byw yn y pum bwrdeistref sy'n cynnal y Gemau, ac roedd 21 y cant ohonynt yn ddi-waith yn flaenorol. Newyddion cwsmeriaidCrynodeb o wybodaeth sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaidAil-lunio Cynhaliaeth PlantYn dilyn adroddiad Syr David Henshaw yn 2006 a argymhellodd y dylid ail-lunio'r system ar gyfer cynhaliaeth plant, ymatebodd y Llywodraeth gyda Phapur Gwyn a gydnabu'r angen am ailwampio'r system bresennol yn helaeth, i gefnogi ei hymrwymiad i leihau tlodi plant. Nod y system newydd yw bod yn symlach, yn llai biwrocrataidd ac yn fwy cost-effeithiol. Bydd cyflawni hyn yn sicrhau rhagor o arian cynhaliaeth i deuluoedd, gan helpu i godi rhagor o blant allan o dlodi. Caiff y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodi newydd ei sefydlu yn ystod 2008 a fydd yn cymryd cyfrifoldebau'r Asiantaeth Cynnal Plant (CSA). Bydd y Comisiwn yn gweithredu dwy gangen weithredu. Bydd yn rhedeg y ddau gynllun cynhaliaeth statudol presennol, a fydd yn parhau i gael eu galw'n CSA. Bydd hefyd yn cyflwyno gwasanaeth newydd - Dewisiadau Cynhaliaeth Plant - a fydd yn rhoi gwybodaeth ddiduedd o safon uchel i rieni, gan eu galluogi i wneud dewisiadau hyddysg am y trefniadau cynhaliaeth sydd fwyaf addas i'w teuluoedd. Un o'r prif ffocysau fydd annog rhieni i wneud eu cytundeb cynhaliaeth eu hunain yn wirfoddol lle bynnag y bo'n bosibl. Bydd y gwasanaeth cynhaliaeth statudol yn parhau i gefnogi'r rhai sydd angen rhagor o help i roi'r trefniant ar waith. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau ar-lein Arolwg ar-lein cadw mewn cysylltiadMae gan cadw mewn cysylltiad wir ddiddordeb yn eich barn - sut rydych yn ei ddefnyddio, pa mor ddefnyddiol ydyw wrth roi'r newyddion diweddaraf i chi am y Ganolfan Byd Gwaith a beth yw eich barn am y pynciau y mae'n eu cynnwys. Felly, rydym wedi llunio holiadur ar-lein byr yr hoffem i chi ei gwblhau. Dylai ond cymryd ychydig funudau o'ch amser a bydd yr holl wybodaeth yn ein helpu i wella rhifynnau o cadw mewn cysylltiad yn y dyfodol. Cofiwch y gallwch hefyd anfon e-bost at y golygydd os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau. Cadwch lygad allan am rifyn mis Mehefin o TouchbaseBydd rhifyn Mehefin Touchbase - cylchgrawn newyddion DWP i randdeiliaid - yn cynnwys erthygl pedair tudalen ar fynd i'r afael â thlodi plant drwy ddiwygio gwaith a lles. Bydd yn bwrw golwg ar sut y mae cyngor personol, Partneriaethau Cyflogaeth Lleol a rhaglenni cymorth fel Llwybrau at Waith eisoes yn helpu pobl sydd â rhwystrau i waith i wella ansawdd bywyd eu hunain a'u teuluoedd. Bydd Touchbase ar gael ar ddechrau mis Mehefin, a gellir ei ddarllen ar-lein - ynghyd â rhifynnau blaenorol - yng ngwefan DWP. Ar y safle, cewch hefyd gofrestru i gael rhifynnau yn awtomatig yn y dyfodol. cadw mewn cysylltiadNod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhagfen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod. |






