Department for Work and Pensions
. .
* * *
* Partners
*
*in touchBack up a level (javascript:nodelink(94))
     
   *

cadw mewn cysylltiad

y cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd Gwaith

Rhifyn 7 - Ebrill 2008

Croeso i rifyn mis Ebrill o cadw mewn cysylltiad

Bob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion gwych am adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gyflwyno ein rhwydwaith; a chipolwg diddorol ar sut mae Nissan yn manteisio ar ymgyrch recriwtio'r Bartneriaeth Cyflogaeth Leol.

Mae gwybodaeth bwysig hefyd am gyfraddau newydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth; cyflwyno cyfweliadau gorfodol sy'n canolbwyntio ar waith; a manylion afiechyd penodol ychwanegol o dan y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol.

Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni.

Y newyddion diweddaraf

Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn canmol cyflwyno rhwydwaith Swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith

Ym mis Chwefror cyhoeddwyd adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar gyflwyno rhwydwaith Swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith.  Roedd hynny'n newyddion da ar gyfer y Ganolfan Byd Gwaith, oherwydd i'r adroddiad ddod i'r casgliad i'r rhaglen gael ei chyflwyno'n llwyddiannus, o fewn y gyllideb a chydag enillion sylweddol yn erbyn y gyllideb a gytunwyd o £2.2 biliwn.

Mae cwblhau'r cyflwyniad yn golygu bod gan y Ganolfan Byd Gwaith rwydwaith o Ganolfannau Gwaith, Canolfannau Cyswllt a Chanolfannau Trafod Budd-daliadau modern nawr.  Gan ddechrau gyda 56 o ardaloedd arbrofi  ar ddiwedd 2001, arweiniodd at gyflwyno dros 800 o ganolfannau - un o'r rhaglenni adeiladu mwyaf yr ymgymerwyd â hi yn y wlad hon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae Prif Weithredwr y Ganolfan Byd Gwaith, Lesley Strathie wedi canmol cyfraniad ei staff at y cyflawniad, “Mae ein pobl wedi gwneud gwaith gwych. Mae llwyddiant y rhaglen yn adlewyrchu sgil ac ymroddiad llawer o bobl – ymdrech fawr gan dîm y Ganolfan Byd Gwaith a DWP.”

Strategaeth a Chynllun Busnes y Ganolfan Byd Gwaith

Mae Cynllun Busnes diweddaraf y Ganolfan Byd Gwaith yn amlinellu sut y bydd y sefydliad wrth galon y system o fudd-dal i waith. Byddwn yn parhau i helpu pobl i ddod o hyd i waith; yn helpu cyflogwyr i lenwi'u swyddi gwag; yn talu budd-daliadau; ac yn cynnig gwasanaethau ymgynghorydd personol a chymorth cyflogaeth drwy rwydwaith o swyddfeydd lleol. Ond byddwn yn gwneud mwy.

Drwy weithio gyda chyflogwr ac ystod ehangach o bartneriaid, byddwn yn helpu mwy o gwsmeriaid, a allai fod yn cael eu hesgeuluso gan y farchnad lafur ar hyn o bryd, i ddod o hyd i waith a gwneud cynnydd yn eu gwaith drwy:

  • Gyflwyno Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – cyfundrefn newydd o gymorth ariannol a chymorth yn ôl i weithio ar gyfer pobl sydd â chyflwr iechyd neu anabledd.
  • Helpu cwsmeriaid i wella sgiliau a chyflogadwyedd drwy wasanaeth cyflogaeth a sgiliau integredig.
  • Cefnogi mwy o rieni i symud i gyflogaeth gynaliadwy a chodi eu teuluoedd allan o dlodi.
  • Trwy drawsnewid ein gwasanaethau byddwn yn helpu ein cwsmeriaid i gael gafael ar y gwasanaethau, y budd-daliadau a'r cymorth ariannol sydd eu hangen arnynt drwy:
  • Gydgysylltu'r broses o gyflwyno budd-daliadau/credydau treth a gwasanaethau gan DWP, Cyllid a Thollau EM ac awdurdodau lleol
  • Datblygu gwasanaeth ffôn ac opsiynau rhyngrwyd DWP drwy Directgov sy'n hawdd ac yn gyfleus i'w defnyddio.

Ni fyddwn yn gallu gwneud y cyfan ein hunain. Byddwn yn chwilio'n gynyddol am arbenigedd ein partneriaid yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflwyno cymorth arbenigol i gwsmeriaid sy'n wynebu diweithdra yn y tymor hwy ac i gyflogwyr er mwyn creu Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn llwyddiannus.

Darllenwch Gynllun Busnes y Ganolfan Byd Gwaith ar-lein, neu gallwch gael ragor o wybodaeth yng Nghynllun Tair Blynedd DWP.

Y Diweddaraf ar reoliadau a chyfraddau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Cyhoeddwyd y cyfraddau a'r rheoliadau ar gyfer y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar 27 Mawrth.

Caiff y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ei gyflwyno ym mis Hydref 2008, a bydd yn disodli'r Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail analluogrwydd i gwsmeriaid newydd yn unig. 

Mae asesiad meddygol newydd yn ganolog i'r lwfans ac mae'n edrych ar yr hyn y gall pobl ei wneud, nid yr hyn na allant ei wneud yn unig. I bobl sydd â lefelau mwy difrifol o anabledd, penderfynir ar yr hawl i fudd-dal ar sail tystiolaeth ar bapur, er enghraifft gan eu meddygon teulu neu rywun yn y gymuned sy'n ymwneud â gofalu amdanynt, yn hytrach na chyfweliad. 

Bydd y rhai sy'n cael y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn perthyn i ddau grwp.  Bydd y rhan fwyaf yn y Grwp Gweithgarwch yn Seiliedig ar Waith a disgwylir iddynt gymryd camau rhesymol i helpu i baratoi i ddychwelyd i'r gwaith. Er mwyn gwneud hyn, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn adeiladu ar y cynllun Llwybrau at Waith llwyddiannus.

Ni ddisgwylir i'r rhai sydd ag anabledd difrifol - y rhai yn y Grwp Cymorth - baratoi'n weithredol ar gyfer gwaith, ond bydd cymorth ar gael i'r rhai sy'n dymuno cael gafael ar hyn ar sail wirfoddol o hyd. 

Yn ystod y Cam Asesu - 13 wythnos gyntaf cais - £60.50 fydd y gyfradd sylfaenol ar gyfer pobl sengl dros 25 oed.  Ar ôl y cam hwn, prif gyfradd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gyfer y rhai yn y Grwp Gweithgarwch yn Seiliedig ar Waith fydd £84.50 yr wythnos. Bydd y brif gyfradd ar gyfer y Grwp Cymorth yn uwch ar £89.50 yr wythnos gyda £12.60 yn cael ei dalu'n awtomatig ar ben hynny lle nad oes gan hawlwyr incwm arall. Bydd hyn yn rhoi isafswm o warant incwm o £102.10 yr wythnos i'r rhai yn y Grwp Cymorth. 

Bydd pobl sy'n cael Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal Incwm ar hyn o bryd oherwydd analluogrwydd yn parhau i gael eu budd-daliadau presennol, yn amodol ar fodloni'r amodau hawliad.  I ddechrau bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gyfer cwsmeriaid newydd yn unig.

Asesiad Gallu i Weithio

Caiff Asesiad Gallu i Weithio newydd ei gyflwyno fel rhan o'r gyfundrefn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.  Bydd yn disodli’r Asesiad Gallu Personol.

Yn ei araith ar y Gyllideb, cyhoeddodd y Canghellor y bydd cwsmeriaid Budd-dal Analluogrwydd, o 2010, yn destun Asesiad Gallu i Weithio pan ddaw'r amser i ailasesu eu hawliad i'w budd-dal. Dros gyfnod o dair blynedd, bydd hawliad budd-dal pob cwsmer Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei ail-asesu gan ddefnyddio'r disgrifwyr a'r sgorau yn y prawf newydd.

Ni fydd cwsmeriaid Budd-dal Analluogrwydd yn cymryd yr asesiad canolbwyntio ar waith sy'n gysylltiedig ag iechyd sy'n rhan arall o'r gyfundrefn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Bydd y rhai sy'n bodloni'r Asesiad Gallu i Weithio yn aros ar Fudd-dal Analluogrwydd a byddant yn gallu gwirfoddoli ar gyfer Llwybrau.

Bydd hawliad Budd-dal Analluogrwydd cwsmeriaid sy'n methu â bodloni'r Asesiad Gallu i Weithio ac y pennir eu bod yn gallu gweithio yn cael ei derfynu - a byddant yn gallu gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith.

Y sectorau preifat a gwirfoddol yn helpu i fynd i'r afael â diweithdra

Cyhoeddwyd dull newydd o weithio gyda darparwyr er mwyn cynyddu nifer y bobl sy'n cael gwaith ac sy'n aros mewn gwaith yn Strategaeth Gomisiynu DWP.

Caiff sefydliadau'r sector preifat a gwirfoddol eu talu bellach nid yn unig i helpu i gefnogi cwsmeriaid sydd wedi bod yn ddi-waith yn yr hirdymor i gael gwaith, ond eu helpu i gael gwaith cynaliadwy.

Ar ôl Adroddiad Interim mis Tachwedd, mae'r strategaeth bellach yn rhoi mwy o eglurhad o'r cynigion gwreiddiol ac mae'n ehangu arnynt.  Mae'n disgrifio sut y bydd DWP yn llofnodi cytundebau mwy, tymor hwy gyda darparwyr fydd â mwy o ryddid o ran sut y byddant yn cyflwyno darpariaeth, gan alluogi gwasanaeth sy'n ymateb yn well i'n cwsmeriaid ac sy'n codi ansawdd.  Bydd y darparwyr lefel uchaf yn rheoli rhwydwaith o ddarparwyr cyflwyno hyd at lefel leol, i helpu'r cwsmeriaid sydd o dan yr anfantais fwyaf i weithio a chyflawni'r canlyniad gorau iddynt hwy.

Mae hon yn garreg filltir bwysig yn rhaglen diwygio lles DWP, ac mae'n llwyfan i ddatblygu'r weledigaeth a ddisgrifir yn adroddiad David Freud ‘Reducing Dependency, Increasing Opportunity’.

Y Diweddaraf ar brofion technoleg newydd y Ganolfan Byd Gwaith

Yn rhifyn mis Ionawr o cadw mewn cysylltiad rhoesom adroddiad ar ein cynlluniau i brofi meddalwedd Dadansoddi Risg Llais.  Bydd hyn yn ein helpu i benderfynu a all y dechnoleg newydd hon ein helpu i fynd i'r afael â thwyll budd-dal a gwella safonau gwasanaeth cwsmeriaid.

Dechreuwyd y prawf yn ein Canolfan Gyswllt yn Lincoln a thair Canolfan Waith yn Nottingham ar 28 Ionawr a chaiff ei gynnal am gyfnod o dri mis. Bydd Ystadegwyr Adrannol yn cynnal gwerthusiad, a bydd y canlyniadau ar gael ar ddiwedd mis Awst.

Mewn ffocws

Y Diweddaraf ar welliannau i'r gwasanaeth Benthyciad Argyfwng

Mae'r twf mewn ceisiadau am Fenthyciad Argyfwng yn cyflymu o hyd.  Ym mis Ionawr a mis Chwefror 2008 cafodd y Ganolfan Byd Gwaith dros 434,000 o geisiadau - sef cynnydd o 128 y cant ers mis Ebrill 2006.

Ni fu'n hawdd mynd i'r afael â'r twf parhaus ac annisgwyl hwn. Mae'r broses o ganoli bron wedi'i chwblhau bellach ac mae hyn wedi rhoi'r capasiti a'r gallu i ni fynd i'r afael â'r dylifiad o geisiadau.  Rydym yn bwydo adnoddau ychwanegol i mewn hefyd i helpu.  Mae staff yn ein canolfannau cyswllt yn cymryd galwadau Benthyciad Argyfwng ac yn eu trosglwyddo i'n Canolfannau Trafod Budd-daliadau ar gyfer penderfyniadau.  Mae hyn wedi golygu bod y problemau i gysylltu ar y ffôn ar gyfer Benthyciad Argyfwng bron â diflannu.

Ond gwyddom mai'r hyn yr ydym ni a'n cwsmeriaid am ei gael yw proses sy'n ymdrin â cheisiadau a phenderfyniadau mewn un alwad.  Felly, ers mis Hydref 2007, mae Canolfan Gyswllt Lowestoft wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun peilot lle mae staff yn cefnogi'r broses galwad unigol o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer cwsmeriaid yn ardal Caint.  Mae'r staff yno wedi'u hailhyfforddi a'u huwchraddio i ymgymryd â'r rôl o wneud penderfyniadau.

Bu'r cynllun peilot yn llwyddiannus wrth sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid wedi gwella'n fawr. Caiff ychydig llai na 90 y cant o alwadau eu hateb a gwneir penderfyniad arnynt o fewn yr alwad gyntaf.  O ganlyniad, ymestynnwyd y cynllun peilot hwn i Ganolfan Gyswllt Middlesbrough i ddelio â chwsmeriaid o Ranbarth Glasgow a Rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr - ardaloedd yr ydym wedi'u nodi fel y rhai sydd â'r angen mwyaf am gymorth.

Rydym yn parhau i fonitro nifer y ceisiadau am Fenthyciad Argyfwng yn agos ac yn ymateb i'r twf hwnnw.  Ers y Nadolig rydym hefyd wedi adfer y sefyllfa ar Grantiau Gofal Cymunedol ac Adolygiadau lle y bu ôl-groniadau wrth i ni ymateb i'r cynnydd mewn ceisiadau am Fenthyciad Argyfwng.  Mae niferoedd Grantiau Gofal Cymunedol ac Adolygiadau bellach wedi gostwng o'u brig a byddwn yn parhau i weithio i leihau'r niferoedd hyn ymhellach.

Nissan yn lansio ymgyrch recriwtio Partneriaeth Cyflogaeth Leol

Yn ddiweddar bu Stephen Timms, y Gweinidog dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, ar ymweliad â safle Nissan yn Washington, Tyne and Wear lle y llofnododd gytundeb Cyflogaeth Leol gyda'r cwmni.  Aeth ar daith tywys o amgylch llinell gynhyrchu'r model Qashqai a llofnododd y cytundeb â Chyfarwyddwr Adnoddau Dynol Nissan, Danny Griffiths.

Oherwydd llwyddiant y Qashqai, mae Nissan yn cyflwyno sifft ychwanegol, gan greu 800 o swyddi ychwanegol, y bwriedir nifer sylweddol ohonynt ar gyfer pobl sydd ar fudd-daliadau. Er mwyn helpu darpar recriwtiaid i gystadlu'n llwyddiannus am y swyddi, mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi is-gontractio Academi Sgiliau Coleg Gateshead ar gyfer Cerbydau, Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Logisteg i redeg cynllun hyfforddi Routeway Nissan.

Dywedodd Mr Timms, “Nid y diffyg swyddi yw'r rhwystr mwyaf i gyflogaeth lawn ond y prinder sgiliau ymhlith y di-waith. Drwy Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol fel yr un yn Nissan, ein nod yw cefnogi 6,000 o bobl ychwanegol yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr i ddod oddi ar fudd-daliadau ac i mewn i waith erbyn mis Mawrth 2009.”

Gwyliwch y fideo o'i ymweliad a darllennwch newyddion arall Partneriaeth Cyflogaeth Leol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.

Newyddion rhanddeiliaid

Crynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaid

Y Diweddaraf ar ymgynghoriad cyhoeddus Gwasanaethau Cyflogaeth i Bobl Anabl

Ar 3 Rhagfyr lansiodd Anne McGuire, y Gweinidog dros Bobl Anabl, ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol 'Helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn: Gwella Gwasanaethau Cyflogaeth Arbenigol i Bobl Anabl'. Canolbwyntiodd yr ymgynghoriad ar gynigion i ddiwygio ein hystod bresennol o wasanaethau cyflogaeth arbenigol i bobl anabl, gan wneud y cymorth rydym yn ei gynnig yn fwy personol, yn fwy hyblyg ac yn haws i'w ddefnyddio - nid ar gyfer ein cwsmeriaid yn unig, ond ar gyfer cyflogwyr hefyd.
 
Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 10 Mawrth 2008.

Rydym wedi cael dros 400 o ymatebion gan amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd (gan gynnwys sefydliadau cynrychioliadol, darparwyr gwasanaethau, awdurdodau lleol, cyflogwyr a phobl anabl). Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd, ac mae'n amlwg bod y nifer uchel o ymatebion yn adlewyrchu'r lefel uchel o ddiddordeb yn y maes pwnc hwn.

Rydym bellach yn dadansoddi'r holl ymatebion gyda'r bwriad o gyhoeddi dogfen ymateb yn yr Haf, a fydd yn cynnwys y camau nesaf.

Newyddion cwsmeriaid

Crynodeb o wybodaeth sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaid

Cyfweliadau sy'n Canolbwyntio ar Waith i bartneriaid cwsmeriaid Lwfans Ceisio Gwaith

O 28 Ebrill bydd yn ofynnol i bartneriaid cwsmeriaid Lwfans Ceisio Gwaith gymryd rhan mewn Cyfweliad sy'n Canolbwyntio ar Waith gorfodol bob chwe mis.  Bydd hyn yn berthnasol i'r rhai â phlentyn dibynnol neu berson ifanc yn eu cartref sy'n 19 oed neu'n iau (mewn addysg llawn amser ac sy'n cael budd-dal plant), sydd wedi bod yn cael Lwfans Ceisio Gwaith am 26 wythnos o leiaf.

Bydd cyfweliadau rheolaidd yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i bartneriaid drafod buddiannau gwaith ac mae'n galluogi ymgynghorwyr i nodi'r cymorth sydd ar gael.

Bydd y fenter yn helpu i gynorthwyo partneriaid i symud i waith, gan helpu i godi mwy o blant allan o dlodi a thrwy hynny'n cyfrannu at darged y Llywodraeth o ddileu tlodi plant.

Afiechyd Penodol newydd ar gyfer Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol

Ar 7 Ebrill 2008, caiff afiechyd diwydiannol penodol newydd, Carsinoma Sylfaenol y Ffaryncs trwynol , (PD D13), ei ychwanegu at y rhestr o afiechydon yn y cynllun Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol.

Y swyddi a gwmpesir gan y newid fydd y rhai sy'n cynnwys amlygiad i lwch pren tra'n gweithio gyda phren dros gyfnod o ddeng mlynedd o leiaf.

Mae afiechyd penodol D6, sy'n cwmpasu carsinoma'r ceudod trwynol a'r sinysau, eisoes yn afiechyd penodol sefydledig ac mae'r afiechyd newydd yn ategu hyn drwy gwmpasu safleoedd sy'n wahanol yn anatomegol o fewn y trwyn.

Dylid gwneud ceisiadau Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol gan ddefnyddio pecyn cais BI 100PD sydd ar gael o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith. Yn ogystal, mae cyngor budd-dal a chyfeiriad a rhif ffôn swyddfa Budd-dal Anabledd Rhanbarthol cwsmer ar gael o'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau (ar gyfer pobl ag anableddau)ar 0800 88 22 00.

Y Fargen Newydd Hyblyg

Bydd y  Fargen Newydd Hyblyg, a gefnogir gan gyfundrefn Lwfans Ceisio Gwaith well, yn cynnig mwy o gymorth i bobl po hiraf y maent yn ddi-waith, gyda mwy o ffocws ar sgiliau a hyfforddiant. Ni chaiff cymorth yn ôl i waith ei benderfynu mwyach gan grwp oedran ceiswyr gwaith, ond yn hytrach caiff ei lywio gan anghenion unigol cwsmer.

Bydd Ceiswyr Gwaith yn cael cymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith am hyd at 12 mis ac yna byddant yn symud i'r Fargen Newydd hyblyg.  Gyda hyn bydd pecyn cymorth wedi'i deilwra a gyflenwir gan ddarparwyr eraill am 12 mis pellach, oni fyddant yn dod o hyd i waith yn gynharach. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn parhau i fod yn ganolog i'r system, gan weithio mewn partneriaeth â darparwyr arbenigol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno mewn dau gam, gyda Cham Un yn cael ei gyflwyno o fis Hydref 2009 a Cham Dau o fis Hydref 2010.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd cyflwyno ar-lein.

Mae'r Fargen Newydd Hyblyg yn rhan o'r cynlluniau ehangach ar gyfer diwygio lles a nodir yn ‘Yn barod am waith: cyflogaeth lawn yn ein cenhedlaeth’.

Cynllun peilot Mewn ac Allan o Waith

Mae'r Cynllun peilot Mewn ac Allan o Waith yn edrych ar ffyrdd o sicrhau y caiff yr holl fudd-daliadau y gallai fod angen i gwsmer eu hawlio wrth symud i mewn ac allan o waith yn cael eu prosesu mor gyflym â phosibl, gan rannu cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn gwneud y prosesau cyffredinol yn llawer mwy effeithlon a syml.

Dechreuodd y cynllun peilot ym mis Medi y llynedd yng Nghanolfannau Cyswllt Coventry a Telford. Mae pum Awdurdodau Lleol yn cymryd rhan, sef Lambeth, Lerpwl, Gorllewin Lothian, Sedgemoor a Gorllewin Gwlad yr Haf, a Merthyr Tudful, <DQ - that’s six?>yn ogystal â'r Canolfannau Gwaith a'r Canolfannau Trafod Budd-daliadau cyfatebol.

Mae Canolfannau Gwaith a Chanolfannau Trafod Budd-daliadau yn gweithredu'r broses ‘i mewn i waith’ hefyd.  Mae hyn yn ymwneud â sicrhau y caiff yr holl wybodaeth am fudd-daliadau i mewn i waith ei chasglu mewn un pwynt unigol.  Mae hyn yn golygu bod y broses o drosglwyddo taliadau ar gyfer budd-daliadau na chânt eu gweinyddu gan y Ganolfan Byd Gwaith, h.y. budd-dal tai, budd-dal treth cyngor a chredydau treth, yn llawer cyflymach.

Mae'r cynllun peilot yn ymateb i adborth gan gwsmeriaid sy'n dweud bod yr amser a gymerir i dalu, addasu neu roi'r gorau i fudd-daliadau yn gwneud y broses o ymgymryd â chyflogaeth fyrdymor yn anodd.  Mae'r adborth am y cynllun peilot gan staff a chwsmeriaid fel ei gilydd, wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn. 

cadw mewn cysylltiad

Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhagfen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir.  Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod.

<DQ – change email to you>

   


* Man in orange shirt.
*

Newsletters


About in touch

November 2008 - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2008]

October 2008 - [Welsh/Cymraeg Hydref 2008]

September 2008 - [Welsh/Cymraeg Medi 2008]

August 2008 - [Welsh/Cymraeg Awst 2008]

July 2008 - [Welsh/Cymraeg Gorffennaf 2008]

June 2008 - [Welsh/Cymraeg Mehefin 2008]

May 2008 - [Welsh/Cymraeg Mai 2008]

April 2008 - [Welsh/Cymraeg Ebrill 2008]

March 2008 - [Welsh/Cymraeg Mawrth 2008]

February 2008 - [Welsh/Cymraeg Chwefror 2008]

January 2008 - [Welsh/Cymraeg Ionawr 2008]

December 2007

October 2007

August 2007










*
* * * *
*    Go to...
  * Help
  * About Us
  * Site Search
  * Site Map
  *  
*   View...  
  * Find your way back to work
  * News
  * Local Events
  * Frequently Asked Questions
  * Privacy Policy
  * Terms and Conditions
  * Freedom of Information
  *  
*   Jobsearch...

Search for a job now

  *  
*    
  * Jobs and Skills, a different way to search for jobs, training and careers
Directgov logo
  *  
*   Contact...
  * Jobcentre Plus
  *  
*   Useful Contacts
  * DWP
  * Directgov
  *  
 
Cymraeg
Text Only
Disclaimer
 
*