|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
cadw mewn cysylltiady cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd GwaithRhifyn 6 - Mawrth 2008Croeso i rifyn mis Mawrth o cadw mewn cysylltiadBob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys canlyniadau ein harolwg Boddhad Cwsmeriaid diweddar, a newyddion ar sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i ryddhau potensial ein cwsmeriaid blaenoriaeth nad yw'n cael ei ddefnyddio. Mae rhywfaint o wybodaeth bwysig a wella'r cymorth sydd ar gael ar gyfer rhieni unigol, a newidiadau sydd wedi'u cynllunio i fod yn gymwys i gael budd-dal. Hefyd, peidiwch â cholli'r cyfle i ymuno â'r Ganolfan Byd Gwaith yn ein rhaglen Community 5000 newydd. Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni. Y newyddion diweddarafArolwg Boddhad Cwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith 2007Yr haf diwethaf cyfwelwyd â thros 4000 o gwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith fel rhan o Arolwg Boddhad Cwsmeriaid 2007. Roedd y canlyniadau'n galonogol:
Mae'r adroddiad llawn, a gyhoeddwyd ar 4 Mawrth, ar gael ar-lein ar wefan DWP. Mae canlyniadau'r adroddiad yn adlewyrchu'r cynnydd a wnaed o ran gwella gwasanaeth cwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith. Mae gwybodaeth reoli'n dangos bod dros 90 y cant o alwadau ffôn cwsmeriaid bellach yn cael eu hateb y tro cyntaf. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn treialu ffyrdd newydd o helpu ei chwsmeriaid mwy diamddiffyn i gael gafael ar ei gwasanaethau'n gyflym ac yn hawdd. Gwneir gwaith ymchwil pellach i wella barn ein cwsmeriaid er mwyn gwella profiad cwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith – mae'r gwaith hwn yn cynnwys trafodaethau grŵp ffocws manwl ac archwilio boddhad cwsmeriaid gyda'r broses Cyswllt Cyntaf. Disgwylir canlyniadau'r astudiaethau hyn yn ystod 2008. Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn dechrau cyflawniMae tua 3000 o'r bobl sydd fwyaf dan anfantais yn y farchnad lafur eisoes wedi dod o hyd i waith gyda mwy na 90 o gyflogwyr drwy Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol. Mae dros 500 o gyflogwyr wedi ymrwymo i Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol hyd yma ac mae dros eu hanner eisoes yn gweithredu ar eu cytundebau, gan helpu i wireddu potensial nad yw'n cael ei ddefnyddio pobl na chawsant eu hystyried yn y farchnad swyddi yn y gorffennol. Y newyddion diweddaraf ar Bartneriaeth Cyflogaeth Lleol. Yn ddiweddar lansiodd y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, Stephen Timms, y Gwobrau Partneriaeth Cyflogaeth Lleol Cenedlaethol blynyddol cyntaf a fydd yn dathlu llwyddiant ac arloesedd cyflogwyr, cyflogeion a phartneriaid sy'n ymwneud â Phartneriaethau Cyflogaeth Lleol. Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi yn yr Oval yn Llundain ar 1 Gorffennaf. Rhagor o wybodaeth am gategorïau'r wobr a'r meini prawf. Newyddion rhanddeiliaidCrynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaidCytundebau Ardal Lleol NewyddMae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi croesawu'r Cytundebau Ardal Lleol tair blynedd o hyd newydd yn Lloegr a fydd yn disodli'r fframweithiau perfformiad cenedlaethol lluosog y bu awdurdodau lleol ac eraill yn gweithio gyda hwy er mwyn gosod y blaenoriaethau ar gyfer eu hardaloedd. Mae Cytundebau Ardal Lleol yn golygu proses gwneud penderfyniadau am flaenoriaethau lleol wedi'i datganoli fwy, yn ogystal â rhai elfennau o gyllid llywodraeth ganolog a datblygu dull mwy 'cydgysylltiedig', hyblyg ac effeithlon i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol. Wrth i ddyddiad gweithredu'r Cytundebau Ardal Lleol, sef 1 Mehefin agosáu, mae Swyddfeydd y Llywodraeth ledled Lloegr wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid i gytuno ar y Cytundebau. Un o'r newidiadau amlycaf yw cyflwyno ‘Dyletswydd i Gydweithio’ statudol newydd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ac ‘awdurdodau partner’ a enwir (megis y Ganolfan Byd Gwaith a'r GIG) gydweithio â'i gilydd i ddatblygu targedau Gwelliannau Lleol ar gyfer y cytundebau newydd. Yn ogystal, mae ‘Dyletswydd i Gydweithio’ yn ategu'r ymrwymiad y mae awdurdodau partner yn ei wneud i gefnogi'r gwaith o gyflawni pob un o'r targedau Gwella Lleol y maent wedi cytuno iddynt, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol a'u busnes. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn benderfynol o gyflawni'r dyletswyddau newydd hyn a bod yn bartner gweithredol o fewn y Cytundebau Ardal Lleol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gytundebau Ardal Lleol ar-lein. Cynhadledd Cyflogwyr yn rhyddhau potensialMynychodd cyflogwyr a phartneriaid allweddol o bob cwr o'r wlad Gynhadledd y Llywodraeth ar 28 Ionawr, a lansiodd Yn Barod am Waith, Sgiliau ar gyfer Gweithio: Datgloi Dawn Prydain. Mae'r cyhoeddiad yn gosod cynnig y Llywodraeth i gyflogwyr gydweithio er mwyn helpu pobl i ddod oddi ar fudd-daliadau a rhoi'r sgiliau sydd eu hangen iddynt er mwyn gwneud y gorau o'u potensial. Mae'n addo:
Yn gyfnewid am hynny, gofynnir i gyflogwyr:
Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol y Ganolfan Byd Gwaith yn ffordd allweddol o gyflawni hyn. Rhagor o wybodaeth am y gynhadledd a'i nodau neu dysgu rhagor am Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol Ymgyrch Gwerth DysguMae mis Mawrth yn fis allweddol i ddarparwyr Addysg Bellach (AB) gan fod ymholiadau ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi ddechrau cael eu cyflwyno. Felly, bydd y Cyngor Dysgu a Sgiliau yn lansio cam arall o'i ymgyrch Gwerth Dysgu llwyddiannus i gydfynd â'r ymchwydd hwn mewn diddordeb. Bydd yr ymgyrch yn Lloegr yn unig yn cynnwys hysbysebion ar radio rhanbarthol ac yn y wasg genedlaethol hyd 16 Mawrth, a bydd pecyn cymorth yr ymgyrch ar gael i ddarparwyr AB hefyd i gefnogi eu gweithrediadau marchnata. Mae hwn ar gael o wefan Adnoddau'r Ymgyrch, ac mae'n cynnwys delweddau, copi o'r hysbyseb yn y wasg, cwestiynau cyffredin, prif ffeithiau, templed o ddatganiad i'r wasg a mwy. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan yr ymgyrch, ffoniwch linell gymorth Sgiliau Cyfranddeiliaid ar 0207 413 3400 neu anfonwch neges e-bost skillscampaign@lsc.gov.uk. Community 5000 - ein helpu ni i'ch helpu chiMae DWP am wybod mwy am ei chwsmeriaid ac mae'n ymrwymedig i ddysgu sut y gallwn eu gwasanaethu'n well. Rydym hefyd am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar ran elusennau a grwpiau gwirfoddol. Ar ôl llwyddiant mawr rhaglen debyg o fewn y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr y llynedd, mae DWP wedi datblygu Community 5000 i roi rhagor o brofiadau gwirfoddoli i staff. Er mwyn cefnogi'r fenter hon, mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi addo rhoi tua 3000 o ddiwrnodau erbyn mis Gorffennaf 2008 i sefydliadau cymunedol lleol sydd â chysylltiadau agos â'n cwsmeriaid. Ein bwriad yw parhau gyda'r fenter mewn blynyddoedd i ddod hefyd. Rydym yn bwriadu creu cysylltiadau â phartneriaid cymunedol y gallwn helpu i'w cefnogi drwy'r cynllun hwn. Os ydych o'r farn y gallai eich sefydliad elwa, hoffem glywed gennych. Gallwn gynnig:
Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn cael:
Hefyd rydym yn gobeithio y bydd rhoi cipolwg i staff ar wirfoddoli yn gweithredu fel catalydd ar gyfer parhau â'u cyfranogiad yn eu cymunedau. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru'ch diddordeb, anfonwch neges e-bost at Sue Bell. Newyddion cwsmeriaidCrynodeb o wybodaeth sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaidNewidiadau ar gyfer rhieni unigolMae tua hanner y 2.8 miliwn o blant sy'n byw mewn tlodi yn y DU yn dod o deuluoedd diwaith, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn deuluoedd rhiant unigol. Drwy gael rhieni i mewn i waith, a'u helpu i aros mewn gwaith, gallwn wella bywydau plant. O fis Ebrill ymlaen, bydd rhieni unigol yn gallu cael rhagor o gyngor a chymorth ariannol o'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae'r gwasanaethau newydd yn cynnwys:
Mae rhieni unigol â phlant hŷn eisoes yn cael budd o gyswllt rheolaidd ag ymgynghorydd. O fis Ebrill, bydd rhieni unigol gyda phlentyn ieuengaf hyd at bedair oed yn dechrau cael cyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith bob chwe mis, yn ogystal â phartneriaid rhieni sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Daw'r Ddeddf Gofal Plant i rym ym mis Ebrill yng Nghymru a Lloegr, a fydd yn golygu y bydd gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i roi gofal plant digonol i fodloni'r galw. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau ar-lein. Newidiadau i Gymhorthdal IncwmYm mis Rhagfyr, mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn nodi ei bwriad i wneud newidiadau i'r budd-daliadau y gall rhieni unigol eu cael. O fis Hydref 2008, ni fydd hawl gan rieni unigol y mae eu plentyn ieuengaf yn 12 oed neu drosodd i gael Cymhorthdal Incwm ar y sail eu bod yn rhiant unigol yn unig mwyach. Dros amser caiff hyn ei ymestyn i rieni unigol gyda phlentyn ieuengaf sy'n 10 oed neu drosodd (o fis Hydref 2009) a gyda phlentyn ieuengaf sy'n 7 oed neu drosodd (o fis Hydref 2010). Bydd Ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith yn trafod opsiynau rhieni unigol gyda hwy cyn i'r newidiadau ddod i rym, a allai gynnwys gwaith, hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, neu hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os oes ganddynt gyflwr iechyd neu anabledd. Mae'n ofynnol gwneud newidiadau deddfwriaethol ar gyfer y newidiadau hyn ac maent yn destun ystyriaeth gan y Pwyllgor Cynghori ar Nawdd Cymdeithasol. Cyflwyno'r Lwfans Tai LleolDim ond ychydig wythnosau sydd bellach cyn y caiff y Lwfans Tai Lleol - y ffordd newydd o gyfrif Budd-dal Tai ar gyfer pobl sy'n rhentu eu cartrefi gan landlordiaid y sector preifat - ei gyflwyno'n genedlaethol. Caiff y Lwfans Tai Lleol ei gyflwyno ar gyfer hawliadau Budd-dal Tai newydd o 7 Ebrill 2008, ac mae'n decach, yn fwy tryloyw ac mae'n hyrwyddo gwell cyfrifoldeb ariannol. Ond ni fydd y Lwfans yn berthnasol i bob cwsmer ar unwaith – caiff ei gyflwyno'n raddol i'r rhai sy'n gwneud ceisiadau newydd am fudd-dal neu sy'n newid cyfeiriad. Rhagor o wybodaeth am y Lwfans ar-lein neu anfonwch neges e-bost at lhaadviceline@dwp.gsi.gov.uk Pecyn Swyddi Newydd ar gael i gwsmeriaid Lwfans Ceisio GwaithMae Pecyn Swyddi newydd ar gael i helpu cwsmeriaid wrth iddynt chwilio am swyddi ar gael bellach a chaiff ei hyrwyddo mewn ymgyrch Chwiliad Gwaith genedlaethol. Nod y Pecyn Swyddi - ffolder gyda chyfres o daflenni ffeithiau - yw ennyn cwsmeriaid i feddwl yn fwy eang am chwilio am swyddi ac mae'n eu cefnogi drwy roi cyngor am ddod o hyd i swyddi, gwneud ceisiadau am swyddi, mynd i gyfweliadau a dechrau gwaith. Yn ystod cyfnod o brofi'r pecyn yn Norfolk, croesawyd y Pecyn Swyddi gan bartneriaid, staff a chwsmeriaid a chaiff ei ddisgwyl yn eiddgar gan ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith sy'n gweithio gyda phobl ddi-waith. Bydd ar gael yn fwy eang yn y dyfodol agos fel pecyn i'w lawrlwytho o wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Lansiwyd ymgyrch genedlaethol Chwiliad Gwaith y Ganolfan Byd Gwaith ym mis Chwefror 2008, ac mae'n cynnwys post uniongyrchol i holl gwsmeriaid Lwfans Ceisio Gwaith rhwng 18 a 49 oed sy'n ddi-waith am chwe mis neu fwy. Caiff cwsmeriaid dros 50 oed eu targedu drwy ymgyrch ar wahân sy'n cael ei rhedeg ar y cyd. Ynglŷn â cadw mewn cysylltiad – nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhaglen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod. |






