Department for Work and Pensions
. .
* * *
* Partners
*
*in touchBack up a level (javascript:nodelink(94))
     
   *

cadw mewn cysylltiad

y cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd Gwaith

Croeso i rifyn mis Chwefror o cadw mewn cysylltiad

Bob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys llwyddiant cynnar Partneriaethau Cyflogaeth Lleol, a chyfle i chi gyflwyno eich sylwadau am ein gwasanaeth cyflogaeth arbenigol i bobl anabl.

Mae gennym fanylion hefyd am newidiadau i dîm gweinidogion DWP a newyddion am gynlluniau peilot i leoli canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM mewn rhai Canolfannau Gwaith.

Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni.

Y newyddion diweddaraf

Tîm Gweinidogion Newydd

Yn dilyn penodi y Gwir Anrh. James Purnell yn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar 24 Ionawr, cyhoeddwyd y penodwyd y Gwir Anrh. Stephen Timms yn Weinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Stephen Timms a James Purnell ar-lein.

Cyflogwyr yn canmol llwyddiannau cynnar Partneriaeth Cyflogaeth Lleol

Mae dros 400 o gyflogwyr wedi ymrwymo i Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, ac mae tua hanner ohonynt eisoes yn gweithredu ar eu cytundebau. O ganlyniad mae brwdfrydedd gwirioneddol ynghylch manteision a photensial Partneriaethau Cyflogaeth Lleol.

Dywedodd Mark Leis, Rheolwr Gyfarwyddwr John Lewis yn Sheffield, "Rydym yn falch dros ben gyda llwyddiant ein cynllun peilot. Rydym bellach yn siarad â manwerthwyr eraill mewn dinasoedd mawr am ein profiadau".

Dywedodd Ceri Williams o Tesco, "Rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb recriwtio yn siop Maesteg ac wedi ein synnu ar yr ochr orau gan safon y ceisiadau".

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn paratoi pobl, na allant ddod o hyd i waith am amryw resymau, i ymgymryd â chyfleoedd swyddi yn llwyddiannus gan gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol.  Yn gyfnewid am hynny, mae cyflogwyr yn rhoi cynnig teg iddynt i'r swydd drwy gynnig mesurau fel treialon gwaith, oriau gweithio hyblyg sy'n addas i rieni unigol a mentora.

Dysgwch ragor am Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol ar-lein

Mewn ffocws

Newyddion rhanddeiliaid

Crynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaid

Ehangu Llwybrau at Waith yn genedlaethol

Bydd gan bobl â chyflyrau iechyd ac anableddau sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd gyfle i wella eu cyfleoedd o ddod o hyd i waith wrth i'r rhaglen Llwybrau at Waith gael ei chyflwyno yn genedlaethol.

Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cyflenwi cymorth Llwybrau mewn 18 o Ddosbarthau.  Yn sgîl lansio Cam 1 o'r Llwybrau at Waith a Arweinir gan Ddarparwyr ar 3 Rhagfyr 2007 ehangwyd Llwybrau at Waith i 15 Dosbarth Canolfan Byd Gwaith arall.  Caiff Llwybrau at Waith a arweinir gan ddarparwyr ei gyflenwi'n bennaf gan y sector preifat a'r sector gwirfoddol mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd Cam 2 yn cwmpasu'r 16 Dosbarth Canolfan Byd Gwaith sy'n weddill o 28 Ebrill 2008.  Cyhoeddwyd y contractwyr ar gyfer Cam 2 ym mis Rhagfyr - gallwch weld y contractau buddugol ar-lein, ynghyd â manylion contractwyr Cam 1.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Ganolfan Byd Gwaith - Llwybrau at Waith.

Canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM yn y Canolfannau Gwaith

Mae cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt i brofi ymarferoldeb lleoli canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (EM) mewn rhai Canolfannau Gwaith.

Mae Cyllid a Thollau EM yn y broses o gau rhai o'u swyddfeydd, sy'n cynnwys cau rhai canolfannau ymholiadau. Mae Gweinidogion yn awyddus i gadw'r gwasanaeth hwn ble bynnag y bo'n bosibl, ac ymchwilir i'r syniad o leoli canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM mewn Canolfannau Gwaith. Mae cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt yn Alfreton yn Swydd Derby a Widnes yn Swydd Caer.  Bwriedir ymgymryd â thrydydd cynllun yn Buckie ym Moray, yr Alban.

Bydd y canolfannau ymholiadau ar y cyd hyn yn ein galluogi i wneud y gorau o'n hadnoddau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i'r cyhoedd. Byddant hefyd yn caniatáu i ni ddarparu siop un stop i gwsmeriaid ar gyfer eu hanghenion treth a budd-daliadau.

Bydd gan ganolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM eu derbynfa eu hunain gydag arwyddion clir, yn ogystal ag arwyddion y tu allan i'r Ganolfan Gwaith.

Dim ond ar ôl gwerthuso'r cynlluniau peilot hyn y gwneir penderfyniadau am gyflwyno canolfannau ymholiadau a'r Ganolfan Byd Gwaith ar y cyd yn y dyfodol.

Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop Newydd ar gyfer 2007 i 2013

Sefydlwyd Cronfa Gymdeithasol Ewrop gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) i helpu pobl i wireddu eu potensial drwy roi sgiliau a rhagolygon swyddi gwell iddynt. Yn 2007, lansiodd yr UE gyfres newydd o raglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer y saith mlynedd nesaf hyd at 2013.

Yn Lloegr, mae'n bosibl y bydd hyd at £80 miliwn ar gael yn flynyddol i roi cymorth i gwsmeriaid blaenoriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae DWP yn gweithio ym mhob Rhanbarth yn Lloegr i sicrhau arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Yng Nghymru a'r Alban bydd y Cynulliad a Gweithrediaeth yr Alban yn gweinyddu'r arian ac yn cymeradwyo rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Bydd yr arian a geir o Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn cyfrannu at strategaeth DWP i gyflawni targed y Llywodraeth o gyfradd cyflogaeth o 80 y cant.

Mae timau rhanbarthol y Ganolfan Byd Gwaith wedi chwarae rôl allweddol o ran datblygu contractau newydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop.  Y nod yw canolbwyntio defnydd rhanbarthol contractau Cronfa Gymdeithasol Ewrop i ategu rhaglenni cyflogaeth ar gontract yn lleol, gan roi darpariaeth arbenigol a llenwi blychau ar gyfer grwpiau blaenoriaeth.

Dyfernir contractau newydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop o fis Ebrill 2008, a byddant yn rhedeg o 23 Mehefin 2008.

Newyddion cwsmeriaid

Gwasanaethau Cyflogaeth Arbenigol i Bobl Anabl - Ymgynghoriad Cyhoeddus

Fel y nodwyd yn rhifyn y mis diwethaf, lansiodd y Gweinidog dros Bobl Anabl ymgynghoriad cyhoeddus 'Helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn: Gwella Gwasanaethau cyflogaeth arbenigol i bobl anabl' ddechrau mis Rhagfyr 2007.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, a chyflwyno eich sylwadau ar-lein.  Croesewir barn staff DWP, ein cwsmeriaid, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth, yn enwedig y rhai sy'n helpu pobl anabl i ddod o hyd i waith a'i gadw.  Daw'r ymgynghoriad i ben ar 10 Mawrth 2008.  

cadw mewn cysylltiad – Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhagfen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir.  Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwynti'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod.

   


* Man in orange shirt.
*

Newsletters


About in touch

November 2008 - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2008]

October 2008 - [Welsh/Cymraeg Hydref 2008]

September 2008 - [Welsh/Cymraeg Medi 2008]

August 2008 - [Welsh/Cymraeg Awst 2008]

July 2008 - [Welsh/Cymraeg Gorffennaf 2008]

June 2008 - [Welsh/Cymraeg Mehefin 2008]

May 2008 - [Welsh/Cymraeg Mai 2008]

April 2008 - [Welsh/Cymraeg Ebrill 2008]

March 2008 - [Welsh/Cymraeg Mawrth 2008]

February 2008 - [Welsh/Cymraeg Chwefror 2008]

January 2008 - [Welsh/Cymraeg Ionawr 2008]

December 2007

October 2007

August 2007










*
* * * *
*    Go to...
  * Help
  * About Us
  * Site Search
  * Site Map
  *  
*   View...  
  * Find your way back to work
  * News
  * Local Events
  * Frequently Asked Questions
  * Privacy Policy
  * Terms and Conditions
  * Freedom of Information
  *  
*   Jobsearch...

Search for a job now

  *  
*    
  * Jobs and Skills, a different way to search for jobs, training and careers
Directgov logo
  *  
*   Contact...
  * Jobcentre Plus
  *  
*   Useful Contacts
  * DWP
  * Directgov
  *  
 
Cymraeg
Text Only
Disclaimer
 
*