|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
|
Rhifyn 4 - Ionawr 2008 Croeso i rifyn mis Ionawr o cadw mewn cysylltiad Y mis hwn rydym yn rhoi newyddion am y gwaith o ehangu'r rhaglen Llwybrau at Waith yn genedlaethol, a fydd yn helpu'r rhai sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd i wella eu cyfleoedd o ddod o hyd i waith. Ceir hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf yng nghynlluniau Diwygio Lles. Hefyd yn y rhifyn hwn ceir newyddion am sut y bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ymwneud â Gemau Olympaidd 2012, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gyfres gyntaf o raddedigion o'r rhaglen Personal Best. Ac ar ôl y Nadolig, darllenwch sut rydym yn annog pobl i ddod o hyd i sicrwydd ariannol drwy ein hymgyrch Yn ôl yn y du. Y newyddion diweddaraf Y wybodaeth ddiweddaraf am Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi cyrraedd ei charreg milltir Partneriaeth Cyflogaeth Lleol gyntaf gyda thros 300 o gyflogwyr bellach wedi'u hymrwymo i weithio gyda ni. Mae mwy na 140 o gwmnïau eisoes wedi dechrau gweithredu eu cynlluniau, gan gynnwys Centerparcs, HBOS, First Bus, HSBC a John Lewis. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda thua 500 o gyflogwyr eraill. Mae'r cytundeb Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn annog cyflogwyr i gydnabod y potensial nad yw'n cael ei ddefnyddio ymhlith pobl a gaiff eu diystyru yn aml yn y farchnad lafur. Cânt gyfle i gael cymorth gan gynnwys hyfforddiant cyn-recriwtio a threialon gwaith i gynyddu'r gronfa o recriwtiaid lleol, tra y bydd gan unigolion fwy o gyfleoedd i baratoi at ddychwelyd i'r gwaith. Dysgwch ragor am Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol ar-lein Pen-blwydd y Fargen Newydd yn ddeg oed Dathlodd y Prif Weinidog, Gordon Brown a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Peter Hain, ddeng mlynedd o'r Fargen Newydd yn gynharach yn ystod y mis hwn gan ymweld â'r Ganolfan Byd Gwaith yn Marylebone. Siaradodd y Prif Weinidog yn y digwyddiad gan egluro bod y rhaglen - sy'n cynnig cymysgedd o sgiliau, hyfforddiant, profiad gwaith a chyngor wedi'i deilwra i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am chwe mis neu fwy - wedi helpu dros 1.8 miliwn o bobl i ddod o hyd i swyddi. Mae hyn yn cynnwys 300,000 o rieni unigol, sydd wedi arwain at helpu i godi 600,000 o blant allan o dlodi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Fargen Newydd a'r cynllun at y dyfodol drwy ddarllen 'Transofrming Britain's Labour Maret' ar-lein Newyddion rhanddeiliaid Crynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaid Ehangu Llwybrau at Waith yn genedlaethol Bydd gan bobl â chyflyrau iechyd ac anableddau sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd gyfle i wella eu cyfleoedd o ddod o hyd i waith wrth i'r Ganolfan Byd Gwaith gyflwyno'r rhaglen Llwybrau at Waith yn genedlaethol. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi bod yn cyflenwi cymorth Llwybrau mewn 18 o Ddosbarthau. Ehangwyd hyn i 15 Dosbarth Canolfan Byd Gwaith arall drwy gontractau gyda darparwyr y sector preifat a'r sector gwirfoddol o 3 Rhagfyr 2007. Cwblheir cyflwyno'r rhaglen yn genedlaethol o 28 Ebrill 2008. Cyhoeddwyd y dyfarniad contract ar gyfer cyflenwi'r cam olaf hwn ar 20 Rhagfyr 2006. Caiff ei gyflenwi'n bennaf gan y sector preifat a'r sector gwirfoddol. Rhagor o wybodaeth am Lwybrau at Waith, neu edrychwch ar y rhai sydd wedi ennill contract. Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio Lles Ar 13 Rhagfyr cyhoeddodd Peter Hain, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau 'Yn barod i weithio: cyflogaeth lawn yn ystod ein cenhedlaeth ni’. Mae'r papur hwn yn nodi'r cam nesaf o ran diwygio lles ac mae'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion a nodwyd yn 'Mewn Gwaith, Gwell eich Byd' (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2007):
Gwasanaethau Newydd i Rieni Unigol
Cyflwynir mesurau newydd yn genedlaethol o fis Ebrill 2008:
Rydym wedi lansio'r rhain o fis Ionawr 2008 mewn dwy ardal newydd i helpu i lywio'r cynllun terfynol - dosbarthau'r Ganolfan Byd Gwaith yng Ngogledd a Gogledd-ddwyrain Llundain a Birmingham a Solihull. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy anfon e-bost at Gordon Calvert Manteisio ar Wasanaethau'r Ganolfan Byd Gwaith Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau cwsmeriaid rydym ar hyn o bryd yn ystyried y ffordd rydym yn trin pobl sy'n dod i'r Ganolfan Byd Gwaith heb apwyntiadau. Y nod yw sicrhau bod y Ganolfan Byd Gwaith yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau sydd yn helpu pobl i ddychwelyd i'r gwaith. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal profion a fydd yn cryfhau a gwella'r rôl hon, ac yn adfywio'r ffordd rydym yn rhoi cymorth wyneb yn wyneb i gwsmeriaid y mae angen ein help arnynt ond sy'n cael anhawster wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd neu'r ffôn. Bydd hyn yn golygu y gellir gofyn i gwsmeriaid sydd heb apwyntiadau sy'n gallu cael gafael ar ffôn ffonio canolfan gyswllt, lle gallant wneud cais neu gael cyngor ar hawliadau budd-daliadau a gwasanaethau chwilio am waith. Gellir ailgyfeirio cwsmeriaid a all ddefnyddio'r rhyngrwyd i wefan y Ganolfan Byd Gwaith, lle gallant gael gafael ar dros 600,000 o swyddi yn genedlaethol a chael rhagor o wybodaeth am fudd-daliadau a gwasanaethau'r Ganolfan Byd Gwaith. Felly gall y staff yn y Ganolfan Gwaith ganolbwyntio eu hamser a'u cymorth ar y rheini sydd angen ein help fwyaf. Byddwn yn rhoi gwybod am ein canfyddiadau mewn rhifyn diweddarach o cadw mewn cysylltiad. Y Ganolfan Byd Gwaith a Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd 2012 Llundain< Mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi llofnodi Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Awdurdod Darparu Olympaidd er mwyn bod yn frocer swyddi blaenllaw ar gyfer Gemau 2012. Mae'r cytundeb yn nodi'r broses recriwtio ar gyfer llenwi swyddi gwag yr Awdurdod Darparu Olympaidd drwy Dîm Cyflenwi, sy'n cynnwys pobl o'r pum Bwrdeistref Gwadd a'r Awdurdod Darparu Olympaidd.< Bydd swyddi gwag ar gael drwy ein mannau swyddi sgrîn cyffwrdd yn ein Canolfannau Gwaith, drwy ein gwasanaeth ffôn paru swyddi ar 0845 60 60 234 a thrwy ein gwefan fewnol yn www.canolfanbydgwaith.gov.uk. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith bellach wedi helpu i leoli 252 o bobl i mewn i waith ar y safle Olympaidd - mae hyn yn cynnwys 138 o bobl a gyflogir ym maes gwaith diogelwch a 114 mewn rolau eraill fel twnela. Mae'r rhaglen Personal Best wedi'i chynllunio i annog unigolion di-waith a'r rhai sydd wedi'u heithrio'n gymdeithasol i gael sgiliau newydd, a allai eu galluogi i weithredu fel gwirfoddolwyr ar gyfer Gemau 2012 a dod â hwy yn agosach i'r farchnad lafur. Cafodd y rhaglen ei seremoni raddio gyntaf i gyfranogwyr yn Stadiwm Wembley ym mis Tachwedd. Lansio ymgynghoriad ar wasanaethau Gwaith i Bobl Anabl Lansiodd DWP ymgynghoriad ar 3 Rhagfyr i ofyn am farn ar gynigion i helpu mwy o bobl anabl i gael gwaith a datblygu mewn gwaith, drwy wella ein cymorth cyflogaeth iddynt. Roedd y cynigion canolog yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:
Mae'r cynigion hyn yn ategu cynigion diwygio blaenllaw eraill wedi'u hanelu at roi cymorth i'r rheini sydd angen help arnynt fwyaf, gan gynnwys moderneiddio Remploy, rhoi Llwybrau at Waith ar waith fesul cam a chyflwyno y Fargen Newydd Hyblyg. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar-lein, gan gynnwys sut y gallwch gyfrannu. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 10 Mawrth 2008. Ceisiadau cyflymach, gwasanaeth gwell i gwsmeriaid Mae ein gwasanaeth i gwsmeriaid sy’n hawlio budd-daliadau yn parhau i wella, gyda gostyngiadau pellach yn yr amser y byddwn yn ei gymryd i brosesu ceisiadau, ac mae’r perfformiad yn rhagori ar y targed. I gymharu a’r adeg hon y llynedd, rydym wedi gweld llawer o welliannau gwirioneddol mewn amseroedd prosesu ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith a Budd-dal Analluogrwydd – gyda gostyngiadau o 2.5, 3.8 a 2.9 o ddiwrnodau yn y drefn honno. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ein holl dargedau a’r lefelau perfformiad presennol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Newyddion cwsmeriaid Crynodeb o wybodaeth sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaid Y Ganolfan Byd Gwaith i brofi system sy'n mynd i'r afael â thwyll budd-daliadau Fel rhan o ymgyrch DWP i fynd i'r afael â thwyll budd-daliadau a gwella Gwasanaeth Cwsmeriaid, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn profi meddalwedd Dadansoddiad Risg Llais (VRA). Nod y prawf yw sefydlu p'un a yw galwadau a nodwyd yn rhai risg uchel, mewn gwirionedd yn cyflwyno risg uwch na'r galwadau hynny a nodwyd yn rhai risg isel. Bydd y prawf yn dechrau ddiwedd mis Ionawr ac yn cynnwys Canolfan Gyswllt Lincoln a phedair Canolfan Gwaith yn ardal Swydd Nottingham. Caiff y canlyniadau eu dadansoddi’n ofalus cyn gwneud unrhyw benderfyniadau o ran ei ddefnydd yn y dyfodol. Mynegwyd pryderon ynghylch effeithiolrwydd technoleg 'datgelydd celwyddau'. Nid system datgelydd celwyddau yw VRA, offeryn ydyw i helpu i nodi risg bosibl. Mewn Canolfannau Byd Gwaith, ni ddefnyddir VRA i wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau am fudd-daliadau ond caiff ei defnyddio i nodi p'un a yw cais galwr yn cyflwyno risg uwch o ddiffyg cywirdeb. Gofynnir i rai cwsmeriaid fynd i gyfweliad cadarnhad er mwyn dilysu'r darlleniad risg cychwynnol. Bu pryderon hefyd ynghylch sut y bydd meddalwedd VRA yn ymdopi gydag acenion, nerfusrwydd naturiol ac oedran. Mae rhan gyntaf yr alwad yn sefydlu lefel 'naturiol' o straen y galwr unigolyn drwy ofyn cyfres o gwestiynau niwtral. Mae hyn yn gosod y safon er mwyn mesur atebion pellach yn ei erbyn. Cyfrifiadau rhent newydd ar gyfer tenantiaid preifat yn 2008 Mae Lwfans Tai Lleol yn ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai i denantiaid y sector preifat. Bydd yn gymwys i unrhyw un a fydd yn gwneud cais newydd am fudd-dal tai ar 7 Ebrill 2008 neu ar ôl hynny, neu i denantiaid presennol y sector preifat a fydd yn newid cyfeiriad ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny. Mae Lwfans Tai Lleol yn seiliedig ar faint a lleoliad tai, ac nid rhenti unigol. Bydd yn ystyried faint o arian sydd gan tenantiaid yn dod i mewn a'r cynilion sydd ganddynt. Gall tenantiaid gadw unrhyw fudd-dal sy'n weddill o hyd at uchafswm o £15 yr wythnos sy'n fwy na chost eu rhent. Os yw eu rhent yn uwch na'u hawliad Lwfans Tai Lleol mae'n rhaid iddynt wneud y gwahaniaeth o ffynonellau incwm eraill neu chwilio am eiddo fforddiadwy arall. Gwneir taliadau yn uniongyrchol i'r tenant fel arfer (drwy ddebyd uniongyrchol), sydd wedyn yn gyfrifol am dalu eu landlord. Fodd bynnag, yn ôl disgresiwn yr awdurdod lleol lle byddant yn penderfynu bod tenant naill ai'n debygol o gael anhawster yn rheoli eu materion ariannol neu'n annhebygol o dalu eu rhent, gellir gwneud y taliad yn uniongyrchol i'r landlord. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar-lein neu drwy anfon e-bost at lhaadviceline@dwp.gsi.gov.uk Yn ôl yn y du- hyrwyddo diogelwch ariannol drwy waith Mae pobl yn nodweddiadol yn dueddol o fod o dan y pwysau ariannol mwyaf ar ôl y Nadolig. I'r rheini sydd rhwng 25 a 49 oed mae materion ariannol yn bryder mawr gan fod ganddynt bobl yn dibynnu arnynt am gymorth yn aml hefyd. Fodd bynnag, mae'r grŵp oedran hwn yn fwy tebygol na'r unigolyn cyffredin ar gyfartaledd i wario ar gardiau credyd. Mae'r bobl ifancaf sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (18-24 oed) yn dweud bod arian yn gymhelliad mawr o ran cael swydd yn ogystal â mesur allweddol o lwyddiant y maent yn beirniadu eu hunain yn ei erbyn. Ar 9 Ionawr gwnaethom lansio ymgyrch newydd o'r enw ‘Yn ôl yn y du’ sy'n ceisio annog pobl i ystyried gwaith yn ddatrysiad hirdymor i broblemau ariannol a'u helpu i wneud dewisiadau hyddysg ar eu cyfleoedd i ddod o hyd i waith. Cefnogir yr ymgyrch gan y gyflwynwraig deledu a'r awdur Philippa Forester. Y prif negeseuon yw:
Defnyddir astudiaethau achos i helpu i ddarbwyllo cwsmeriaid bod cael swydd wir yn golygu mwy o arian yn eich poced a mwy o ryddid i brynu pethau arbennig i chi eich hun a'ch teulu. Cânt eu cyfeirio at wefan y Ganolfan Byd Gwaith neu drwy ein gwasanaeth ffôn paru swyddi (ar 0845 60 60 234) i gynnal chwiliad gwaith. Hysbysiadau Darllenwyr Ein dyfodol. Mae yn ein dwylo ni. Yn y dyfodol, bydd dwy allan o bob tair swydd yn gofyn am sgiliau a chymwysterau lefel uwch, ac felly mae’n hanfodol ein bod yn gwella’n sgiliau i helpu i sicrhau bod ein gweithlu a’r economi yn aros yn gystadleuol. Nod ymgyrch ‘Ein dyfodo. Mae yn ein dwylo ni’ y Cyngor Dysgu a Sgiliau (LSC) yw ysgogi cyflogwyr a chyflogeion i gymryd rheolaeth o’u dyfodol drwy fuddsoddi yn eu sgiliau nawr. Mae economi lwyddiannus, fedrus yn ddibynnol ar gyflogwyr, darparwyr a rhanddeiliaid yn gweithio gyda’u gilydd i gwrdd â’r her – ac mae’r LSC angen eich mewnbwn, cymorth a chydweithrediad. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Safle Adnoddau’r Ymgyrch neu ffoniwch y llinell gymorth Rhanddeiliaid ar 0207 413 3400. cadw mewn cysylltiad - Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhaglen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwynti'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi unrhyw fanylion i drydydd parti. Caich eich manylion ond ei ddefnyddio ar gyfer eich darparu â gwybodaeth am fusnes y Ganolfan Byd Gwaith a DWP. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (yn cynnwys eich enw, eich swydd a’ch sefydliad). Os nid ydych bellach eisiau dderbyn cadw mewn cysylltiad, gwelwch y cyswllt isod. |






