|
|
||
| Cwsmeriaid | ||
|
Rhieni unigol nad ydynt yn cael Lwfans Ceisio Gwaith Bydd gan bob person sy’n cymryd rhan Ymgynghorydd Personol wedi’i benodi gan eu contractwr Ardal Gyflogaeth. Pobl sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith Bydd gan bob person sy’n cymryd rhan Ymgynghorydd Personol wedi’i benodi gan eu contractwr Ardal Gyflogaeth. Y Cam Cyntaf Bydd pob person yn gweithio ar Gynllun Gweithredu gyda’u Hymgynghorydd Personol. Bydd hyn yn edrych ar eu hanghenion ac yn eu helpu i ddelio ag unrhyw anawsterau sy’n eu hatal rhag dod o hyd i waith a gall bara am hyd at 4 wythnos. Yr Ail Gam Mae hwn yn seiliedig ar y Cynllun Gweithredu a gall bara am hyd at 26 wythnos. Bydd y person sy’n cymryd rhan yn dilyn y cynllun ac yn cynnal chwiliad swydd trylwyr. Bydd y contractwr yn darparu’r help y cytunwyd arno yn y Cynllun Gweithredu. Y Trydydd Cam Bydd hwn yn dechrau unwaith bydd y person sy’n cymryd rhan wedi dechrau gweithio. Yn ystod y cyfnod 13 wythnos, bydd cymorth mewn swydd ar gael i helpu’r person i aros yn y gwaith. Dilyniant Bydd pobl y mae’n rhaid iddynt gymryd rhan ac nad ydynt wedi dod o hyd i swydd erbyn diwedd Cam 2, yn dychwelyd i’w Canolfan Gwaith i wneud cais am fudd-dal. Ond gallant wirfoddoli i gael help gan yr Ardal Gyflogaeth am 22 wythnos arall. Budd-daliadau a hawliadau Tra’u bod yng Ngham 1, mae pobl sy’n rhaid iddynt gymryd rhan yn parhau i gael eu budd-daliadau neu eu hawliadau gan y Ganolfan Byd Gwaith. Cosbau Mae’n rhaid i bobl y mae’n rhaid iddynt gymryd rhan mewn Ardal Gyflogaeth wneud pethau arbennig y disgwylir iddynt eu gwneud fel rhan o’r ffordd y mae Ardaloedd Cyflogaeth yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys pethau fel mynychu apwyntiadau a chynnal gweithgareddau a restrir ar eu Cynllun Gweithredu. Cwynion Gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion rhwng y person sy’n cymryd rhan yn yr Ardal Gyflogaeth a’u Hymgynghorydd Personol. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd tîm rheoli lleol y contractwr yn delio ag ef. |





