|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
Croeso i rifyn Mawrth o cadw mewn cysylltiadBob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi’r wybodaeth a newyddion diweddaraf i chi o’r Ganolfan Byd Gwaith. Yn rhifyn y mis hwn cewch chi ddysgu mwy am estyn newidiadau i fudd-daliadau rhieni unigol, yn ogystal â’r cynnydd yng nghefnogaeth Canolfan Byd Gwaith mewn Canolfannau Plant lleol. Hefyd mae newyddion am gyflwyno cynghorwyr a chydlynwyr cyffuriau er mwyn adnabod ac ymdrin â defnyddwyr cyffuriau problemus, cyflwyno llinell ffôn bwrpasol am geisiadau am ffurflen hawlio’r Gronfa Gymdeithasol, a datblygu gwefan Directgov a’r wybodaeth am y Ganolfan Byd Gwaith sydd i’w gweld yno. Y Newyddion DiweddarafLlinell ffurflen hawlio’r Gronfa GymdeithasolCafodd llinell ffôn newydd i gwsmeriaid sy’n ymdrin yn benodol â cheisiadau ffurflen hawlio’r Gronfa Gymdeithasol ei chyflwyno y mis diwethaf. Pan fydd y galw ar ei anterth, gall pobl sydd am defnyddio’r rhif 0845 i wneud ymholiadau am y Gronfa Gymdeithasol ddioddef oedi. Gan mai dim ond gofyn am ffurflen hawlio yw llawer o’r galwadau hyn, mae’r Ganolfan Byd Gwaith wedi sefydlu Llinell Ffurflen Hawlio bwrpasol y bydd cwsmeriaid yn mynd ati drwy eu rhif ffôn 0845 arferol. Bydd galwadau cwsmeriaid sydd ond eisiau cael ffurflen hawlio am Grantiau Gofal Cymunedol, Benthyciadau Cyllidebu, Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn a Thaliadau Angladd yn cael eu cyfeirio at dîm a fydd yn delio â’u cais. Bydd cael timau penodol ar waith yn caniatáu i’r timau ffôn yn y Canolfannau Cyflwyno Budd-daliadau (BDCs) ganolbwyntio ar ymholiadau mwy cymhleth cwsmeriaid, ac yn cynnig y gallu i ateb mwy o ymholiadau. Bydd rhaglen dreigl o symud o safleoedd y Gronfa Gymdeithasol. Bydd yn dechrau gyda Milton Keynes ac yn cael ei chyflwyno’n raddol ar draws BDCs eraill mewn pryd am y cyfnod galw uchaf fis Tachwedd nesaf. Newyddion CwsmeriaidMwy o gefnogaeth drwy Ganolfannau PlantMae rhieni di-waith erbyn hyn yn gallu manteisio ar fwy o gefnogaeth Canolfan Byd Gwaith drwy eu Canolfan Blant leol. Ochr yn ochr â’r gwasanaethau presennol, bydd gan rieni nad ydynt yn gweithio fynediad i gynghorwyr a gwasanaethau â ffocws ar waith fel hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli, wedi eu brocera drwy law Canolfannau Plant. Mae presenoldeb uwch y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnwys: hyfforddiant sgiliau â ffocws ar waith i feithrin sgiliau sylfaenol, hyder a chyflogadwyedd rhieni; a chyfleoedd i wirfoddoli, hyfforddiant galwedigaethol a phrofiad gwaith. Caiff ei gyflwyno yn amgylchedd y Ganolfan Blant sy’n gysurus i deuluoedd a lle mae mynediad i ddarpariaeth gofal plant. Mae’r Ganolfan Byd Gwaith eisoes yn rhan o’r cynnig craidd ym mhob Canolfan Blant. Ond i gryfhau’r rôl, sefydlodd raglen beilot dair blynedd, £7.8m, a ddechreuwyd ym mis Hydref 2008. Mae’r peilot ar waith mewn 30 o Ganolfannau Plant ar draws 10 awdurdod lleol yn Lloegr. Am fwy o wybodaeth am hyn a chynlluniau peilot tlodi plant eraill, ewch i http://www.everychildmatters.gov.uk/ Estyn newidiadau i fudd-daliadau rhieni unigolMae newidiadau i fudd-daliadau sy’n effeithio ar gwsmeriaid sy’n rhieni unigol wedi cael eu hestyn. Roedd y newidiadau cychwynnol, a gyflwynwyd fis Tachwedd diwethaf, yn effeithio ar y mwyafrif o gwsmeriaid sy’n rhieni unigol sydd â phlentyn ieuaf sy’n 12 oed neu drosodd sy’n gwneud hawliad newydd neu hawliad arall am Gymhorthdal Incwm. O Fawrth mae’r rhain wedi cael eu hestyn i gwsmeriaid presennol sy’n rhieni unigol sydd â phlentyn 14 oed neu drosodd. Mae cwsmeriaid sydd ag anhwylder iechyd yn cael eu cefnogi i hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, tra bod y rhai sy’n gallu gweithio yn gallu hawlio’r Lwfans Chwilio am Waith a byddant yn derbyn cyngor a chefnogaeth i’w helpu wrth chwilio am swydd ac i ddod o hyd i ofal plant addas. Bydd cwsmeriaid presennol sy’n rhieni unigol gyda phlentyn dros 12 oed yn dechrau colli eu Cymhorthdal Incwm o ddechrau Gorffennaf ymlaen. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu at gwsmeriaid wyth wythnos cyn maent i fod i golli eu Cymhorthdal Incwm, yn eu gwahodd i gyfweliad i drafod y newidiadau ac i gael help i wneud hawliad newydd. Ni fydd y newidiadau hyn yn berthnasol i rieni unigol sydd â hawl i gael Cymhorthdal Incwm am resymau eraill. Er enghraifft, os ydynt:
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr a gofynnir i rieni unigol siarad â chynghorydd os ydynt yn ansicr a yw’r newidiadau yn berthnasol iddyn nhw. Mae cyfnod dau y newidiadau yn dechrau ar 26 Hydref 2009 ar gyfer cwsmeriaid newydd a rhai sydd eisoes wedi hawlio sydd â phlentyn ieuaf sy’n 10 oed neu drosodd. Bydd cwsmeriaid presennol sydd â phlentyn ieuaf sy’n 11 oed neu drosodd yn cael eu gwahodd o gyfweliad o 30 Tachwedd 2009 ymlaen, ac o 12 Ebrill 2010 ymlaen bydd yr un peth yn wir am gwsmeriaid sydd â phlentyn ieuaf sy’n 10 oed neu drosodd. Cydlynwyr cyffuriau i ymdrin â defnyddwyr cyffuriau problemusI gefnogi cynigion a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Llywodraeth ar gyfer ymagwedd newydd at ddefnyddwyr cyffuriau problemus, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cyflwyno cydlynwyr cyffuriau yn Lloegr o fis Ebrill. Roedd y Papur Gwyn Diwygio Lles diweddar yn cynnwys cyhoeddiadau am sut, o Ebrill ymlaen, y bydd Canolfannau Byd Gwaith – yn Lloegr yn unig – yn cyflwyno mesurau gyda’r nod o adnabod camddefnyddwyr cyffuriau a’u cyfeirio at asiantaethau sy’n gallu eu cefnogi i oresgyn eu problem cyffuriau. Mae 73 o swyddi newydd wedi cael eu hariannu gan yr Adran Iechyd hyd at 2010/11, a dylai’r mwyafrif o’r cydlynwyr fod yn eu swydd erbyn Ebrill. Bydd cydlynydd cyffuriau Canolfan Byd Gwaith ym mhob rhanbarth yn Lloegr a fydd yn gyfrifol am weithio ar lefel strategol a gweithredol gyda phartneriaethau rhyngasiantaeth a chyd-bartneriaethau strategol. Bydd cydlynydd Canolfan Byd Gwaith ym mhob rhanbarth yn Lloegr. Eu rôl fydd: diffinio set glir o gysylltiadau rhwng unigolion, timau ac asiantaethau allweddol ym maes cyffuriau; meithrin ac annog cysylltiadau ag asiantaethau allanol; a chodi ymwybyddiaeth o’r Ganolfan Byd Gwaith a’i rhaglenni a’i gwasanaethau. Bydd y cydlynwyr yn gweithio gyda phartneriaethau cyffuriau lleol i fapio darpariaeth a chynhyrchu cynllun gweithredu lleol ar gyfer ymyriadau effeithiol ar gyffuriau a chyflogaeth sy’n cael eu cyd-drefnu. Byddant yn sicrhau hefyd bod gan gynghorwyr personol yn y Ganolfan Byd Gwaith yr offer llawn i nodi a chyfeirio cwsmeriaid at y ddarpariaeth leol briodol drwy gynnig gwybodaeth, hyfforddiant a chefnogaeth a thrwy drefnu sesiynau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth arbenigol. Cyfeirio at Ddarparwr Triniaeth CyffuriauOchr yn ochr â chyflwyno cydlynwyr cyffuriau, bydd menter newydd yn darparu proses ‘rheng flaen’ ar gyfer cynghorwyr Canolfan Byd Gwaith i adnabod a chyfeirio cwsmeriaid sydd â phroblemau cyffuriau at drafodaeth â Darparwr Triniaeth Cyffuriau, gyda golwg ar gael gafael ar driniaeth. Ar hyn o bryd, mae gan gynghorwyr fynediad at progress2work a fu’n llwyddiannus, sy’n anelu at helpu camddefnyddwyr cyffuriau sy’n gwella i ddychwelyd i’r farchnad lafur yn dilyn triniaeth. O Ebrill ymlaen, prif ffocws y fenter newydd fydd defnyddwyr categorïau penodol o gyffuriau problemus – sef heroin a chocên crac. I’r grŵp yma, bydd cynghorwyr yn sefydlu a ydynt yn ddefnyddiwr cyffuriau problemus ac a ydy hyn yn rhwystr iddynt wrth chwilio am gyflogaeth. Os ydyw, ac os nad ydynt eisoes ar raglen trin cyffuriau, bydd y cyfeiriad yn cael ei wneud at drafodaeth â darparwr triniaeth cyffuriau. Bydd cynghorwyr yn cael eu hannog i argyhoeddi cwsmeriaid i gymryd rhan yn wirfoddol, ond lle bydd cwsmeriaid yn methu â chadw’r apwyntiad bydd gan y cynghorydd y pŵer i orchymyn a chymhwyso cosb am beidio â chydymffurfio. Dyma gam cyntaf trefn newydd a fydd ar waith yn llawn ar ffurf beilot yn 2010 (yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd), pan fydd yn ofynnol i’r cwsmeriaid hyn ymgysylltu â rhaglen gefnogaeth bwrpasol, pan fyddant yn derbyn Lwfans Triniaeth. Yn gyfnewid am y lwfans hwn bydd disgwyl iddynt ddilyn ac ymgymryd â’r camau sydd yn eu cynllun adsefydlu. Mynediad ar-lein i wasanaethau Canolfan Byd GwaithMae’r Ganolfan Byd Gwaith yn newid ei gwasanaethau ar-lein i ganiatáu i gwsmeriaid gael gafael ar fwy byth o wybodaeth, nwyddau a gwasanaethau ar-lein, mewn ymateb i ymchwil fanwl ymhlith cwsmeriaid. Yn 2004 lansiodd y Llywodraeth Directgov i wneud gwybodaeth am wasanaethau cyhoeddus ar gael mewn un lle. Bydd gwefan bresennol y Ganolfan Byd Gwaith yn cau yn y gwanwyn 2010 a bydd yr holl wybodaeth o’r wefan honno yn symud i Directgov neu Business Link, gwefan y Llywodraeth ar gyfer busnesau a chyflogwyr. Yn y cyfamser bydd holl wybodaeth Canolfan Byd Gwaith (gan gynnwys y cyfleuster chwilio am swydd) ar gael ar wefannau Directgov a’r Ganolfan Byd Gwaith fel ei gilydd. Mae Directgov eisoes yn darparu gwybodaeth am fudd-daliadau, gan gynnwys cynghorydd budd-daliadau rhyngweithiol. Gall cwsmeriaid chwilio am swyddi a chael cymorth gyda thechnegau cyfweliad, ceisiadau am swyddi a CVs, a hyd yn oed yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau ar-lein. Mae Directgov ar gael ar y rhyngrwyd, ar deledu lloeren a chebl, ac ar rai ffonau symudol. Gall cwsmeriaid sydd heb fynediad at y rhyngrwyd gartref gael mynediad am ddim mewn llyfrgelloedd. Newidiadau i gyfnodau tâlBydd newidiadau i gyfnodau tâl a dyddiad talu diwedd-wythnos, sy’n effeithio ar y mwyafrif o bobl sy’n derbyn budd-daliadau oedran-gweithio, yn barod i gael eu cyflwyno o 6 Ebrill 2009 ymlaen. Erbyn Mawrth 2011, bydd y newidiadau wedi cael eu cwblhau a bydd y mwyafrif o gwsmeriaid yn derbyn eu taliadau bob pythefnos yn ôl-syllol ac ar ddiwrnod diwedd-wythnos sy’n gysylltiedig â’u rhif Yswiriant Gwladol. O Fawrth 09 ymlaen:
O Ebrill 09 ymlaen:
Ewch i www.jobcentreplus.gov.uk/paydaychanges am fwy o fanylion. Ynglyn â cadw mewn cysylltiadNod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhagfen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf ar berfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth i chi am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod. |







