|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
Croeso i rifyn Chwefror o cadw mewn cysylltiadBob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi’r wybodaeth a newyddion diweddaraf i chi o’r Ganolfan Byd Gwaith. Yn rhifyn y mis yma fe cewch chi ddysgu mwy am newidiadau i fudd-daliadau a fydd yn helpu cwsmeriaid gyda thaliadau llog eu morgais, cydraddoli oedran pensiwn y wladwriaeth a threfniadau newydd ar gyfer cyfnodau tâl. Hefyd mae newyddion am gynnydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, a chyhoeddi’r rhestr fer am Wobrau Partneriaeth Cyflogaeth Leol rhanbarthol. Os oes gennych chi awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, gadewch i ni wybod. Y Newyddion DiweddarafPeilot o Gorau Personol Mae Gorau Personol yn rhaglen cyflogaeth a sgiliau sy’n cael ei hariannu gan Asiantaeth Ddatblygu a Chyngor Sgiliau Dysgu Llundain. Bydd ymgyrch beilot sy’n dechrau ar 9 Chwefror yn cael ei chynnal mewn tair bwrdeistref yn Llundain, (Paddington, Havering a Brent). Bydd posteri a thaflenni ar gael yn swyddfeydd Canolfannau Byd Gwaith sy’n cyfeirio cwsmeriaid at linell ymgyrch i gael manylion llawn cymhwyster a chofrestru. Nod Gorau Personol yn cynyddu sgiliau a hunan-hyder y rhai sy’n cymryd rhan, codi eu dyheadau, gwella cyfleoedd cyflogaeth hir-dymor a darparu hyfforddiant galwedigaethol hyd at gymhwyster lefel 1. Mae’n cynnwys 120 o oriau dysgu dan arweiniad sy’n ymdrin â sgiliau allweddol, gan gynnwys cysylltiadau cwsmeriaid, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd graddedigion Gorau Personol yn cael gwarant cyfweliad, yn amodol ar sgrinio, i fod yn wirfoddolwr yng Ngemau Olympaidd Llundain. Yn ddarostyngedig i ganlyniadau’r gwerthusiad ym mis Ebrill, caiff yr ymgyrch ei chyflwyno ar draws y wlad fesul rhanbarth o Fehefin 2009 ymlaen. Cyhoeddi rhestr fer Gwobrau Partneriaeth Cyflogaeth Leol Ranbarthol Mae Asda, Brand-Rex, TK Maxx a Stancliffe Stone ymhlith y cyflogwyr sydd wedi llwyddo i gyrraedd y rhestri byrion ar gyfer Gwobrau Partneriaeth Cyflogaeth Leol rhanbarthol 2009. O dan y partneriaethau mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i helpu pobl sydd wedi cael eu hesgeuluso yn y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Hyd yma mae’r cynllun wedi helpu mwy na 100,000 o bobl. Mae gweithwyr o gyrff fel Royal Mail, McDonald’s a Gibson's Foods hefyd wedi cyrraedd y rhestri byrion. Tan y llynedd, roedd y bobl hyn i gyd wedi bod allan o waith am beth amser. Erbyn hyn mae ganddyn nhw gyfle i ennill gwobrau sy’n cydnabod y rhwystrau maen nhw wedi eu goresgyn i fynd yn ôl i weithio a’r ymdrech maen nhw wedi ei gwneud i wella eu sgiliau. Caiff enillwyr y gwobrau eu cyhoeddi mewn un o’r 11 o seremonïau sy’n dechrau yng Nghaeredin ar 23 Chwefror ac yn dod i ben yng Nghaerwysg ar 31 Mawrth. Caiff y gwobrau cenedlaethol eu cyhoeddi ar 9 Mehefin. Newyddion RhanddeiliaidLwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ymsefydlu Yn dilyn ei lansio'n llwyddiannus ym mis Hydref, mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi parhau i ymsefydlu'n dda ym musnes prif-ffrwd Canolfannau Byd Gwaith. Mae gwybodaeth lawn a deunydd i'w lawrlwytho sy'n rhoi manylion am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gael o www.dwp.gov.uk/esa. Mae'r cynhyrchion yn cynnwys cynrychiolaeth weledol o daith cwsmer drwy hawliad, storïau bywyd go iawn gan bobl sydd wedi cael eu helpu'n ôl i'r gwaith, ac amrediad o adnoddau a ddeunydd arall i'w lawrlwytho. Bydd y wefan yn parhau i gael ei diwedddaru a'i gwella yn yr wythnosau a'r misoedd sy'n dod. Cyfleoedd newydd i’r dyfodol Cafodd Papur Gwyn o’r enw ‘New Opportunities’ ei gyhoeddi ar 13 Ionawr. Ei thema yw ‘cymorth go iawn nawr ar gyfer gwell cyfleoedd yn y dyfodol’. Mae’r cymorth hwn yn cynnwys gofal plant am ddim i rai o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig gyda phlant dwy flwydd oed, a grantiau hyfforddi i helpu gofalwyr i symud ymlaen yn y gwaith. Mae’r papur yn nodi sut mae’r Llywodraeth yn bwriadu gweithio gydag unigolion, teuluoedd, cymunedau, busnes a’r trydydd sector i sicrhau bod gan bobl y siawns orau o gyflawni eu potensial. Mynychodd amrediad eang o bobl, o weithwyr meithrinfeydd i entrepreneurs, ddigwyddiad yn Rhif 10 i nodi cyhoeddiad y Papur Gwyn. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd cyfraniad unigolion a chyrff at y dewisiadau positif mae pobl yn eu gwneud a’r llwybrau maen nhw’n eu dilyn. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.hmg.gov.uk/newopportunities.aspx Dysgu o gwynion Mae adborth a chwynion cwsmeriaid yn allweddol i yrru gwelliannau yn y gwasanaeth mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gallu ei gynnig. Yn ogystal â delio â chynnwys penodol cwyn unigolyn, mae’n awyddus i ddefnyddio’r adborth i wneud newidiadau i’r fordd mae’n darparu gwasanaethau. Er enghraifft, mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn sicrhau bod cwsmeriaid sy’n holi ynghylch Taliad Angladd yn cael eu cyfeirio at fudd-daliadau profedigaeth eraill a all fod ar gael. Weithiau gofynion polisi neu ddeddfwriaeth fydd yn cael eu codi a, lle bo’n briodol, bydd y rhain yn cael eu rhannu â chydweithwyr polisi yn DWP. Mae unrhyw un sydd â sylwadau’n cael ei annog i ymweld ag www.jobcentreplus.gov.uk/jcpwelsh/AboutUs/ContactUs Newyddion CwsmeriaidNewidiadau i gyfnodau tâl Bydd newidiadau i gyfnodau tâl a dyddiad talu diwedd-wythnos, sy’n effeithio ar y mwyafrif o bobl sy’n derbyn budd-daliadau oedran-gweithio, yn barod i gael eu cyflwyno o 6 Ebrill 2009 ymlaen. Erbyn Mawrth 2011, bydd y newidiadau wedi cael eu cwblhau a bydd y mwyafrif o gwsmeriaid yn derbyn eu taliadau bob pythefnos yn ôl-syllol ac ar ddiwrnod diwedd-wythnos sy’n gysylltiedig â’u rhif Yswiriant Gwladol. O Chwefror ymlaen:
Yn Chwefror a Medi:
O Ebrill 2009 ymlaen:
Ewch i www.jobcentreplus.gov.uk/paydaychanges am fwy o fanylion. Newidiadau i gymorth morgais Cyflwynodd newidiadau mewn budd-daliadau o 5 Ionawr 2009 ymlaen nifer o fesurau i helpu pobl oedran gweithio gyda thaliadau llog eu mortgais. Mae’r newidiadau:
Mae darpariaeth wedi cael ei gwneud hefyd i gwsmeriaid presennol sy’n derbyn budd-dal perthnasol ond sydd heb gwblhau eu cyfnod aros 26 neu 39 wythnos hyd at 5 Ionawr 2009 (fel yr amlinellir yn http://www.dwp.gov.uk/mediacentre/pressreleases Yn ogystal â’r newidiadau uchod, mae DWP wedi rhewi’r Gyfradd Llog Safonol sy’n cael ei defnyddio’n sail i gyfrif SMI ar 6.08 y cant am chwe mis o Dachwedd 2008 am bob cwsmer presennol a chwsmer newydd SMI, gan gynnwys y rhai sy’n hawlio Credyd Pensiwn y Wladwriaeth. Mae manylion llawn goblygiadau’r newidiadau i’w gweld yn www.dwp.gov.uk Cydraddoli oedran Pensiwn y Wladwriaeth (SPa) a beth mae’n ei olygu i fudd-daliadau eraill Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (SPa) menywod yn codi’n raddol o 60 i 65 o Ebrill 2010 ymlaen. I fenywod a gafodd eu geni rhwng 6 Ebrill 1950 a 5 Ebrill 1955, efallai na fydd eu SPa yn digwydd ar eu pen-blwydd. Gallan nhw wirio eu SPa drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell SPa ar wefan y Gwasanaeth Pensiwn yn www.thepensionservice.gov.uk. O 6 Ebrill 2020, yr SPa i ddynion a menywod fel ei gilydd fydd 65. Bydd yr oedran cymhwyso am rai budd-daliadau eraill yn newid hefyd rhwng 2010 a 2020. Er enghraifft:
Bydd cymhwyster am raglenni a gwasanaethau Canolfan Byd Gwaith yn parhau yn unol â’r SPa. Bydd DWP yn ysgrifennu at fenywod rhwng Ebrill 2009 ac Ionawr 2012 i ddweud wrthyn nhw pryd fyddan nhw’n cyrraedd SPa, ac yn rhoi gwybodaeth gyffredinol am newidiadau i bensiynau. Ynglyn â cadw mewn cysylltiadNod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhagfen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf ar berfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth i chi am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod. |







