Department for Work and Pensions
. .
* * *
* Partners
*
*in touchBack up a level (javascript:nodelink(94))
     
   *

cadw mewn cysylltiad Tachwedd 2008

Bob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Yn rhifyn y mis hwn gallwch ganfod rhagor am sut mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn ymateb i'r sefyllfa economaidd, a chanllaw newydd i'r budd-daliadau, yr hyfforddiant a'r cymorth y gall y Ganolfan Byd Gwaith eu cynnig. Mae hefyd newyddion ar welliannau i'r ffordd mae cwsmeriaid yn symud rhwng budd-daliadau a gwaith, a manylion am ein hymgyrch twyll budd-daliadau newydd.

Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni.

Y Newyddion Diweddaraf

Cynorthwyo pobl nôl i'r gwaith

Fel y byddwch wedi gweld o ffigurau cyflogaeth diweddar, mae nifer cynyddol o bobl yn dod i'r Ganolfan Byd Gwaith i gael help i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflym. I lawer gall hyn fod y tro cyntaf maent wedi bod angen ein gwasanaethau ac i bawb, mae wrth gwrs yn amser pryderus yn eu bywydau.

Er mwyn sicrhau fod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt rydym wedi:

  • Cadw lefel staffio ar y lefel a ddefnyddiwyd i baratoi ar gyfer cyflwyno'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Mae hyn oddeutu 2,000 yn fwy nag a fwriadwyd yn wreiddiol, fel y byddwn mewn sefyllfa dda i ddelio â diweithdra cynyddol. 
  • Dyblu'r buddsoddiad yn ein gwasanaeth Ymateb Cyflym a gaiff ei gynnig i bob cyflogwr sy'n gorfod colli 20 neu fwy o swyddi ac mewn cymunedau lleol sydd wedi'u heffeithio'n anghymesur gan achosion o golli swyddi ar raddfa lai. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda phartneriaid fel Asiantaethau Datblygu Rhanbarthol ac awdurdodau lleol ac asiantaethau sgiliau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban i helpu cyflogeion sy'n wynebu colli swyddi. Gall yr help hwn gynnwys cyfateb sgiliau, help gyda sgiliau chwilio swyddi a mynediad i gyfleoedd hyfforddi a dysgu sgiliau newydd. 
  • Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflogwyr a chyflogeion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan eich Swyddfa Dosbarth Rhanbarthol.
  • Diweddaru ein Pecyn Swyddi ar gyfer cwsmeriaid unigol. Mae hwn yn rhoi cyngor ar ddod o hyd i waith, gan gynnwys awgrymiadau defnyddiol am CVs a chyfweliadau, ac am wneud cais am fudd-daliadau. 
  • Cyhoeddi taflen newydd i gwsmeriaid sef 'Dewch o hyd i'ch ffordd nôl i'r gwaith' sy'n ganllaw syml i'n gwasanaethau, ein budd-daliadau a'n hyfforddiant. Gellir cael copïau o'r daflen drwy ffonio 0845 850 8880.  Mae'r llinell hon ar agor o 8am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9am i 5pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.  Gellir hefyd lawrlwytho'r daflen o'r wefan (www.jobcentreplus.gov.uk/jcpwelsh/) fel y daflen newydd i gyflogwyr a elwir yn 'Dewch o hyd i'ch ffordd o helpu' sy'n nodi'r gwasanaethau a gynigir gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Byddwn yn parhau i adolygu'r ffordd rydym yn gweithio er mwyn sicrhau y gallwn gynnig y gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.   Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi o ran datblygiadau.

Lansiad llwyddiannus i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth…

Lansiwyd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ledled y wlad ar 27 Hydref fel y cynlluniwyd, gan gyflwyno ffordd newydd o helpu cwsmeriaid sydd â salwch neu anabledd i symud i mewn i waith yn hytrach nag aros ar fudd-daliadau.

Deliodd canolfannau cyswllt y Ganolfan Byd Gwaith yn llwyddiannus â thros 30,000 o alwadau yn yr ychydig ddiwrnodau cyntaf ar ôl lansio a thalwyd y budd-dal cyntaf o dan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar 29 Hydref.  Derbyniwyd nifer uchel iawn o alwadau oherwydd y nifer o gwsmeriaid Budd-dal Analluogrwydd presennol yn ffonio i ofyn sut mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn effeithio arnynt.  Rydym yn egluro, fel y byddwch yn gwybod o'n taflenni ffeithiau, nad yw'n effeithio arnynt o gwbl ar hyn o bryd. 

Mae'r systemau a'r gweithdrefnau sy'n cynorthwyo cyflwyno'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn setlo'n dda hyd yn hyn ac mae'r staff yn addasu'n gyflym i'w swyddogaethau. Bu'n gychwyn gwych ond dim ond y dechrau yw hyn a bydd gennym yn anochel amrywiaeth o faterion i fynd i'r afael â hwy wrth i'n cwsmeriaid a rennir symud drwy daith y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. 

Mae gwybodaeth a deunydd y gellir ei lawrlwytho am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth wedi'i ehangu a gellir ei gael ar wefan DWP. Maent yn cynnwys cyflwyniad gweledol o daith y cwsmer drwy'r broses o wneud cais, cyfres o daflenni ffeithiau manwl a nifer o straeon cwsmeriaid. Mae'r taflenni ffeithiau hefyd yn egluro'r rheolau am 'hawliadau cysylltiedig' i gwsmeriaid sydd wedi hawlio Budd-dal Analluogrwydd neu Gymhorthdal Incwm o'r blaen.

Bydd y safle'n parhau i gael ei ddiweddaru a'i wella yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf fel y gallwch barhau i gynghori eich cleientiaid yn briodol.

Newyddion Rhanddeiliaid

Cynlluniau Peilot Mewn ac Allan o Waith

Ym mis Hydref dechreuwyd gweithredu'r prosesau Mewn ac Allan o Waith yn genedlaethol, yn dilyn chwe cynllun peilot llwyddiannus a ddatblygodd brosesau newydd i wella'r ffordd y telir budd-daliadau a chredydau i bobl sy'n symud i mewn ac allan o waith.

Yn y gorffennol, bu'n rhaid i gwsmeriaid ddarparu gwybodaeth ar wahân i'r Ganolfan Byd Gwaith ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith a Chymhorthdal Incwm, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer Credydau Treth ac awdurdodau lleol ar gyfer Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Gan weithio gyda'i gilydd, mae'r tri sefydliad wedi datblygu system newydd lle mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn casglu gwybodaeth am y budd-daliadau hyn i gyd, yna'n ei rhannu'n ddiogel gan alluogi cyfrifiad cydamserol o hawliadau.

Mae gwerthuso wedi datgelu fod y broses newydd nid yn unig yn rhoi taliadau cyflymach, 15% ar gyfartaledd o'r dechrau i'r diwedd, ond mae hefyd wedi cynyddu hyder cwsmeriaid wrth gymryd y cam i mewn i'r farchnad lafur, gyda diolch i drosglwyddo haws rhwng gwaith a budd-daliadau.

Bydd y cam cyntaf o'r cyflwyno'n cychwyn ym mis Rhagfyr gyda 14 o ardaloedd awdurdodau lleol newydd yn mabwysiadu'r gwasanaeth newydd. Disgwylir cwblhau gweithredu'n llawn yn genedlaethol dros y 18 mis nesaf. Mae rhagor o wybodaeth am y cynlluniau peilot i'w gweld ar wefan DWP. 

Newyddion Cwsmeriaid

Newidiadau i fudd-daliadau ar gyfer rhieni unigol

Mae newidiadau i fudd-daliadau a gyflwynir o 24 Tachwedd 2008 yn golygu y bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o rieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf sy'n 12 oed neu'n hŷn, chwilio am waith â thâl ac ni allant wneud cais newydd neu ail gais am Gymhorthdal Incwm mwyach. Byddant yn gallu gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith neu, os na allant weithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Ni fydd y newidiadau hyn yn gymwys i rieni unigol sydd â hawl i gael Cymhorthdal Incwm am resymau eraill. Er enghraifft: 

  • os oes ganddynt blant sydd â hawl i gyfradd ganol neu gyfradd uchaf elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl
  • os ydynt yn cael Lwfans Gofalwr
  • os ydynt yn maethu a bod ganddynt blentyn maeth yn byw gyda nhw.

Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn a gofynnir i rieni unigol siarad ag ymgynghorydd os nad ydynt yn siŵr a yw'r newidiadau'n gymwys iddynt.

Os yw'r Rhiant Unigol eisoes yn fyfyriwr llawn amser ar 24 Tachwedd 2008 neu ar gwrs neu hyfforddiant llawn amser fel rhan o'r Fargen Newydd ar gyfer rhieni unigol, neu rywbeth tebyg, dylent allu parhau i gael Cymhorthdal Incwm nes bod eu cwrs yn dod i ben, eu bod yn rhoi'r gorau i fynychu neu pan fo'u plentyn ieuengaf yn cyrraedd yr oedran a oedd yn gymwys pan wnaethant gychwyn yr hyfforddiant.

Caiff newidiadau pellach eu cyflwyno o fis Hydref 2009 ar gyfer rhieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf sydd dros 10 oed ac, o fis Hydref 2010, ar gyfer rhieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf sy'n 7 oed neu'n hŷn.

Caiff rhieni unigol sy'n gwneud cais newydd neu ail gais wybod am y newidiadau pan fyddant yn cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith i wneud cais am fudd-dal.

Bydd cwsmeriaid presennol y Ganolfan Byd Gwaith yr effeithir arnynt gan y newid yn cael llythyr ym mis Tachwedd yn cadarnhau'r newidiadau, ac, 8 wythnos cyn iddynt golli eu Cymhorthdal Incwm, byddant yn cael gwahoddiad i gyfweliad gwirfoddol i drafod y newidiadau a chael help i wneud cais newydd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau drwy ddarllen y wybodaeth i ymgynghorwyr ar wefan DWP, a gwybodaeth i gwsmeriaid ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.

Hysbysebion teledu yn targedu lladron budd-daliadau

Mae sgriniau teledu ledled y DU yn cario neges o rybudd i ladron budd-daliadau o 3ydd Tachwedd mewn dau hysbyseb newydd a lansiwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae'r hysbysebion yn nodi cyflwyno'r ymgyrch twyll budd-daliadau gyfredol, "Rydym yn Cau'r Rhwyd" genedlaethol.  Maent yn cynnwys dau senario twyll budd-daliadau 'pryf ar y pared': dyn yn derbyn arian parod am lafur achlysurol tra'n hawlio budd-dal a gwraig yn honni ei bod yn byw ar ei phen ei hun er ei bod yn byw â'i chariad.  Mae'r hysbysebion yn amlygu'r neges "Rydym yn Cau'r Rhwyd" sef nad oes dianc o gael eich canfod. Mae'r cyflwyniad cenedlaethol hefyd yn cynnwys gweithgarwch ar y rhyngrwyd, yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus yn ogystal â rhagor o hysbysebu yn y wasg leol, ar y radio a thu allan ar draws 30 o ardaloedd awdurdodau lleol.

Mae'r ymgyrch yn poethi eto ar ddechrau 2009 pan fydd 10 ardal awdurdodau lleol pellach yn ymuno. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am "Rydym yn Cau'r Rhwyd" ar wefan DWP

Cynllun Hunaniaeth Genedlaethol

Dechreuir gweithredu'r Cynllun Hunaniaeth Genedlaethol ar 25 Tachwedd 2008 drwy gyflwyno Cardiau Hunaniaeth i Wladolion Tramor.   Mae'r Cardiau Hunaniaeth i Wladolion Tramor yn disodli'r portreadau (neu'r sticeri) blaenorol a osodwyd ym mhasbortau'r rhai hynny a oedd yn cael hawl i aros yn y Deyrnas Unedig.

Caiff y Cerdyn Hunaniaeth i Wladolion Tramor ei gyflwyno ar raglen gyflwyno sy'n seiliedig ar y categori mewnfudo lle mae'r ymfudwr wedi cael caniatâd i aros. Y categorïau cyntaf i'w cyflwyno yw'r categorïau myfyrwyr a phriodas/partneriaethau sifil.

Bydd y cardiau maint cerdyn credyd yn rhoi tystiolaeth o genedligrwydd, hunaniaeth a statws y deiliad yn y DU ac yn cadarnhau a yw'r deiliad yn gymwys i gael arian cyhoeddus a/neu'r hawl i weithio. 

Bydd DWP yn derbyn cardiau hunaniaeth fel prif ffordd o adnabod, ac mae staff sy'n dod i gysylltiad â chwsmeriaid yn y Ganolfan Byd Gwaith yn ymwybodol bod y cardiau yn cael eu cyflwyno a sut i'w gwirio.

Mae rhagor o wybodaeth am y cardiau hunaniaeth i wladolion tramor gan gynnwys lluniau o'r cerdyn a'r nodweddion diogelwch a gynhwysir ar y cerdyn ar gael ar wefan Asiantaeth Ffiniau'r DU. 

Ynglŷn â cadw mewn cysylltiad

Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhagfen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf ar berfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir.  Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth i chi am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod.

   


* Man in orange shirt.
*

Newsletters


About in touch 

December - [Welsh/Cymraeg Rhagfyr 2009]

November - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2009]

October

September - [Welsh/Cymraeg Medi 2009]

August 2009 - [Welsh/Cymraeg Awst 2009]

July 2009 - [Welsh/Cymraeg Gorffennaf 2009]

June 2009 - [Welsh/Cymraeg Mehefin 2009]

May 2009 - [Welsh/Cymraeg Mai 2009]

April 2009 - [Welsh/Cymraeg Ebrill 2009]

March 2009 - [Welsh/Cymraeg Mawrth 2009]

February 2009 - [Welsh/Cymraeg Chwefror 2009]

November 2008 - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2008]

October 2008 - [Welsh/Cymraeg Hydref 2008]










*
* * * *
*    Go to...
  * Help
  * About Us
  * Site Search
  * Site Map
  *  
*   View...  
  * News
  * Local Events
  * Frequently Asked Questions
  * Privacy Policy
  * Terms and Conditions
  * Freedom of Information
  * Help someone you know get started online
  * Find your first job campaign
  * Find your way back to work campaign
  * Jobcoach campaign
Jobcoach
  *  
*   Jobsearch...

Search for a job now

  *  
*    
  * Jobs and Skills, a different way to search for jobs, training and careers
Directgov logo
  *  
*   Contact...
  * Jobcentre Plus
  *  
*   Useful Contacts
  * DWP
  * Directgov
  *  
 
Cymraeg
Text Only
Disclaimer
 
*