Department for Work and Pensions
. .
* * *
* Partners
*
*in touchBack up a level (javascript:nodelink(94))
     
   *

cadw mewn cysylltiad Hydref

Bob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Yn y rhifyn hwn gallwch gael gwybod mwy am achlysur lansio'r y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar 27 Hydref a newidiadau i ddiwrnodau talu a gynllunnir i gychwyn y flwyddyn nesaf. Mae'r ymgynghoriad ar bapur gwyrdd Diwygio Lles y Llywodraeth hefyd yn cau'r mis hwn, felly sicrhewch eich bod wedi cymryd y cyfle i anfon eich sylwadau i mewn. Ac yn olaf, mae'r gwobrau Partneriaeth Cyflogaeth Leol nawr yn derbyn enwebiadau - cewch ragor o wybodaeth isod.

Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni.

Y Newyddion Diweddaraf

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar waith

Ar Hydref 27ain caiff y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, sef, ffordd newydd o helpu pobl â salwch neu anabledd symud i mewn i waith yn hytrach nag aros ar fudd-daliadau, ei lansio. Mae'r lwfans yn disodli Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail analluogrwydd ar gyfer cwsmeriaid newydd gyda budd-dal symlach, integredig, a gafodd ei ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad a chyfraniad amhrisiadwy gan amrywiaeth o randdeiliaid.

Rydym yn parhau i weithio gyda Fforwm Grwp Cynrychiolwyr Cwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol a sefydliadau cyflogwyr, i ddatblygu deunyddiau newydd sy'n rhoi rhagor o wybodaeth am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd y cymorth hwn yn parhau i fod yn hanfodol yn ystod y misoedd nesaf wrth i ni helpu ein cwsmeriaid a rennir i elwa o'r cymorth sydd ar gael.

Mae rhagor o wybodaeth a deunyddiau y gellir eu lawrlwytho sy'n rhoi manylion am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar gael ar-lein yn www.dwp.gov.uk/esa. Maent yn cynnwys cyflwyniad gweledol o daith y cwsmer drwy'r broses o wneud cais, set o gwestiynau cyffredin ac ystod ehangach o daflenni ffeithiau sy'n cwmpasu manylion technegol defnyddiol. Bydd y wefan yn parhau i gael ei diweddaru a'i ehangu ar ôl lansio'r lwfans ar 27ain Hydref.

Gweler Taith Cwsmer y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar-lein

Gweler Taith Cwsmer y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar-lein

Lansio Gwobrau Partneriaeth Cyflogaeth Leol 2009

Nawr mae'n bosibl enwebu ar gyfer Gwobrau Partneriaethau Cyflogaeth Lleol. 2009.

Bydd y Gwobrau Partneriaeth Cyflogaeth Leol Rhanbarthol yn cydnabod cyflogwyr, cyflogeion a sefydliadau partner am eu cyflawniadau eithriadol drwy Bartneriaethau Cyflogaeth Leol yng Nghymru, yr Alban a rhanbarthau Lloegr.

Gall cyflogwyr sydd wedi recriwtio drwy Bartneriaethau Cyflogaeth Leol enwebu eu hunain, eu cyflogeion a sefydliadau partner am wobrau mewn chwe chategori, yn amrywio o Ddatgloi Talent i Arloesi wrth Recriwtio. Gall sefydliadau partner hefyd enwebu eu hunain, am eu gwaith Partneriaeth Cyflogaeth Leol â chyflogwyr, ac unigolion maent wedi'u helpu i mewn i waith drwy gytundeb Partneriaeth Cyflogaeth Leol. Gallwch weld meini prawf y gwobrau a ffurflen enwebu ar safle mewnrwyd y Ganolfan Byd Gwaith.

Bydd yr enwebiadau'n cau ar 28 Tachwedd, a chaiff y rhestr fer o gwmnïau ac unigolion a ddewisir ar gyfer y rowndiau terfynol rhanbarthol eu cyhoeddi ym mis Ionawr.

Bydd enillwyr rhanbarthol yn mynd yn eu blaenau i'r gwobrau Cenedlaethol, gyda'r enillwyr terfynol yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles, Tony McNulty, "Rwyf wrth fy modd o gael cyhoeddi Gwobrau Partneriaeth Cyflogaeth Leol 2009. Maent yn adeiladu ar lwyddiant Gwobrau 2008, a ddathlodd lawer o straeon ysbrydoledig am gyflogwyr, sefydliadau partner a'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i roi'r cyfle a'r cymorth i bobl newid eu bywydau'n llwyr."

Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn seiliedig ar gynnig syml. Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cael y bobl hynny a anwybyddir yn aml yn y farchnad waith, yn barod am waith, ac mae cyflogwyr â swyddi gwag lleol yn rhoi cyfle teg iddynt ar waith. Erbyn diwedd mis Gorffennaf 2008 roedd mwy na 38,000 o bobl wedi dod o hyd i waith drwy Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol, gyda mwy na 7,000 o gyflogwyr.

Newyddion Rhanddeiliaid

Diwygio Lles

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau mawr y mis hwn i gasglu ynghyd farn rhanddeiliaid ar gynigion diwygio lles y Llywodraeth fel y'u nodir yn y papur gwyrdd; Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb.

Bydd rhanddeiliaid Cymru yn cyfarfod Gweinidogion a swyddogion yng Nghaerdydd ddydd Llun 6 Hydref gyda digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal yng Nghaeredin ar 9 Hydref a Newcastle ar 24 Hydref. Mae'r digwyddiadau hyn yn ychwanegol i gyfres o gyfarfodydd sydd wedi'u cynnal â grwpiau â diddordeb amrywiol dros yr wythnosau diwethaf.

Os nad ydych wedi cael y cyfle i roi eich barn yn uniongyrchol i Weinidogion gallwch gyfrannu i'r ymgynghoriad o hyd, drwy'r post, e-bost neu ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 22 Hydref a gellir cael manylion llawn ar-lein ar wefan DWP.

Newyddion Cwsmeriaid

Newid diwrnodau talu

O 6 Ebrill 2009 bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cyflwyno trefniadau newydd i helpu i symleiddio taliadau budd-daliadau.

Er y bydd y rhain yn dod â gwelliannau tymor hir i bob cwsmer, efallai y bydd yn amharu rywfaint ar rai pobl ar yr amser y bydd y newidiadau'n digwydd. Efallai y bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig cymorth ariannol i rai cwsmeriaid i'w helpu i reoli eu materion dros y cyfnod newid.

Bydd y trefniadau newydd yn golygu:

  • y caiff bob budd-dal ei dalu mewn ôl-ddyledion
  • y bydd budd-daliadau fel arfer yn cael eu talu bob pythefnos, a
  • bydd cwsmeriaid yn symud i ddiwrnod talu ddiwedd yr wythnos sy'n gysylltiedig â'u rhif Yswiriant Gwladol.

Bydd y newidiadau hyn yn digwydd dros ddwy flynedd o 6 Ebrill 2009. Bydd cwsmeriaid fydd yn cael eu heffeithio yn cael llythyr yn rhoi gwybodaeth gyffredinol iddynt, wedi'i ddilyn gan lythyr arall bedair wythnos cyn i'w trefniadau newid fydd yn rhoi rhagor o fanylion. Bydd y ddau lythyr yn cyfeirio cwsmeriaid at ffynonellau o wybodaeth bellach.

Am ragor o wybodaeth ewch i adran Newidiadau i ddiwrnodau talu gwefan y Ganolfan Byd Gwaith.

Treial Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith yn Swydd Efrog a'r Humber

Yn nes ymlaen yn y mis hwn, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn rhanbarth Swydd Efrog a'r Humber yn treialu'r Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith newydd.

Nod y Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith yw sicrhau y bydd cwsmeriaid sydd wedi bod yn cael budd-daliadau cymhwyso am 26 wythnos neu fwy'n barhaus, sy'n symud i waith amser llawn yn cael incwm o waith, gan gynnwys unrhyw fudd-daliadau mewn gwaith a chredydau treth, am o leiaf £25 yr wythnos yn fwy nag yr oeddent yn ei gael o fudd-daliadau allan o waith.

Bydd y treial Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith yn dechrau ar 27 Hydref 2008 i gwsmeriaid sy'n byw yn Swydd Efrog a'r Humber ac sy'n hawlio budd-dal, a disgwylir iddo bara am o leiaf blwyddyn. Bydd Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith yn destun gwerthusiad trylwyr ac os bydd y treial yn llwyddiannus byddwn yn gweithredu'r Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith yn genedlaethol yn 2009/2010.

Dewiswyd Rhanbarth Swydd Efrog a'r Humber i dreialu Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith gan ei fod yn adlewyrchu nodweddion cenedlaethol gweithgarwch economaidd, yn cynnwys amrywiaeth o ardaloedd gwledig, dinesig a chymysg a hefyd wardiau Awdurdod Lleol difreintiedig ym mhob un o'r tri Dosbarth Canolfan Byd Gwaith.

Mae'r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid yn well eu byd mewn gwaith nag ar fudd-daliadau. I'r rhai hynny nad ydynt, gellir talu Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith am hyd at 26 wythnos a'i nod yw dileu rhwystr pwysig i gwsmeriaid sy'n cymryd swyddi a'u helpu i symud i mewn i swydd a setlo yno.

Fel rhan o broses y Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith, bydd ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith yn nodi budd-daliadau neu gredydau mewn gwaith eraill y dylai'r cwsmer gael hawl iddynt a rhoi cymorth iddynt i'w hawlio. Bydd ein partneriaid sy'n gweithio gyda'n cyd-gwsmeriaid hefyd yn hyrwyddo Credyd Gwell Eich Byd Mewn Gwaith ac yn cydgysylltu â'u Canolfan Gwaith leol i gael cymorth gyda cheisiadau ac unrhyw ymholiadau.

cadw mewn cysylltiad

Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhaglen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth i chi am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod.

   


* Man in orange shirt.
*

Newsletters


About in touch 

December - [Welsh/Cymraeg Rhagfyr 2009]

November - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2009]

October

September - [Welsh/Cymraeg Medi 2009]

August 2009 - [Welsh/Cymraeg Awst 2009]

July 2009 - [Welsh/Cymraeg Gorffennaf 2009]

June 2009 - [Welsh/Cymraeg Mehefin 2009]

May 2009 - [Welsh/Cymraeg Mai 2009]

April 2009 - [Welsh/Cymraeg Ebrill 2009]

March 2009 - [Welsh/Cymraeg Mawrth 2009]

February 2009 - [Welsh/Cymraeg Chwefror 2009]

November 2008 - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2008]

October 2008 - [Welsh/Cymraeg Hydref 2008]










*
* * * *
*    Go to...
  * Help
  * About Us
  * Site Search
  * Site Map
  *  
*   View...  
  * News
  * Local Events
  * Frequently Asked Questions
  * Privacy Policy
  * Terms and Conditions
  * Freedom of Information
  * Help someone you know get started online
  * Find your first job campaign
  * Find your way back to work campaign
  * Jobcoach campaign
Jobcoach
  *  
*   Jobsearch...

Search for a job now

  *  
*    
  * Jobs and Skills, a different way to search for jobs, training and careers
Directgov logo
  *  
*   Contact...
  * Jobcentre Plus
  *  
*   Useful Contacts
  * DWP
  * Directgov
  *  
 
Cymraeg
Text Only
Disclaimer
 
*