Department for Work and Pensions
. .
* * *
* Partners
*
*in touchBack up a level (javascript:nodelink(94))
     
   *

cadw mewn cysylltiad - Rhifyn 12, Medi 2008

y cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd Gwaith

Croeso i rifyn mis Medi o cadw mewn cysylltiad

Bob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Yn y rhifyn hwn cewch y newyddion diweddaraf am fenthyciadau argyfwng a'r newidiadau sy'n cael eu gwneud i wella gwasanaeth cwsmeriaid. Darllenwch am yr ymgyrch twyll budd-daliadau newydd sy'n dechrau'r mis hwn a pheidiwch ag anghofio mai dim ond mis sydd ar ôl cyn lansio'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni.

Y newyddion diweddaraf

Benthyciadau Argyfwng

Drwy wella mynediad cwsmeriaid i fenthyciadau argyfwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy gyflwyno ceisiadau dros y ffôn, rydym wedi gweld cynnyd mawr yn nifer y ceisiadau – cynnydd o 96% rhwng mis Mai 06 a mis Mai 08. Mae'n ymddangos bod nifer y ceisiadau wedi cyrraedd nifer gwastad o tua 220,000 y mis a'u bod yn parhau i gyflwyno problemau o ran cyflenwi gweithredol cenedlaethol. Fodd bynnag, yn ystod y misoedd diwethaf cafwyd gwelliannau gwirioneddol o ran cyflenwi pob un o'n gwasanaethau mewn lleoedd fel Cymru, yr Alban a Gogledd Ddwyrain Lloegr, lle nad oes llawer o broblemau yn codi bellach.

Yn dilyn trefniadau wrth gefn a oedd yn cynnwys pobl yn ein canolfannau cyswllt yn cymryd galwadau a chwblhau cynlluniau peilot ychwanegol, gallwn barhau i gyflwyno proses gwneud penderfyniad o'r dechrau i'r diwedd yn ein Canolfannau Trafod Budd-daliadau lle roedd y trefniadau wrth gefn yn berthnasol. Er mwyn lleihau'r effaith ar wasanaeth cwsmeriaid, caiff y newidiadau eu cyflwyno'n raddol rhwng mis Medi 2008 a mis Mehefin 2009. Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y staff sy'n rhan o'r gwaith hwn o 800 i 1,500 erbyn diwedd y project, ac rydym yn hyderus y bydd y cymorth hwn yn ein helpu i gyflenwi ar y lefelau newydd. Bydd y rhifau cyswllt ar gyfer cwsmeriaid yn aros yr un fath.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi mewn rhifynau o cadw mewn cysylltiad yn y dyfodol.

Problemau teleffoni

Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o'r problemau a gafodd rhai o'n cwsmeriaid yn ystod mis Gorffennaf wrth geisio cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith dros y ffôn.  Effeithiwyd ar holl wasanaethau teleffoni'r Ganolfan Byd Gwaith gyda'r rhan fwyaf o broblemau yn codi gyda galwadau a wnaed i'n Canolfannau Cyswllt. Yn anochel, effeithiodd y problemau hyn ar ein cwsmeriaid ac ar gydweithwyr o fewn ein sefydliadau partner hefyd. Datryswyd y problemau ac rydym bellach yn gweithredu'n unol â lefelau perfformiad da blaenorol gyda dros 90% o alwadau'n cael eu hateb yn llwyddiannus.

Newyddion rhanddeiliaid

Crynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaid

Mae'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dechrau'r mis nesaf.

Caiff y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ei gyflwyno ar 27 Hydref 2008. Mae'r lwfans newydd yn gam allweddol yn rhaglen diwygio lles y Llywodraeth ac mae'n cynrychioli cam mawr ymlaen yn y ffordd y mae DWP yn cysylltu â chwsmeriaid nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd.

Bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn disodli Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm a delir ar sail analluogrwydd i gwsmeriaid newydd. Bydd yn rhoi cymorth personol tuag at gyflogaeth lle y gellir cyflawni hynny a chymorth ariannol parhaus lle nad yw gwaith yn opsiwn.

Mae'r lwfans newydd yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen 'Llwybrau at Waith', sydd wedi helpu mwy na 94,000 o bobl i mewn i waith ers mis Hydref 2003.

Mae rhan newydd ar wefan DWP yn rhoi gwybodaeth am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, yn cynnwys cyflwyniad gweledol o lwybr y cwsmer drwy'r broses o wneud cais a thaflenni ffeithiau sy'n cynnwys y manylion allweddol. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r tudalennau hyn hyd at adeg lansio'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth fis nesaf a thu hwnt i hynny.

Bydd gweithgaredd cyfathrebu, yn cynnwys hysbysebion mewn cyhoeddiadau wedi'u targedu ac ar wefannau dethol, yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r lwfans newydd ymhlith ymgynghorwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi cwsmeriaid.

Newyddion cwsmeriaid

Crynodeb o wybodaeth sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaid

Mesothelioma ymledol - taliad newydd

Ar 1 Hydref 2008, caiff cynllun newydd y Llywodraeth ei gyflwyno ar gyfer pobl sy'n dioddef o'r afiechyd sy'n gysylltiedig ag asbestos, mesothelioma ymledol.

Os nad yw person yn gallu gwneud cais o dan Ddeddf Niwmoconiosis 1979, nad ydynt wedi cael taliad mewn perthynas â'r afiechyd gan gyflogwr, hawliad sifil neu rywle arall ac nad oes hawl ganddynt i gael iawndal o Gynllun y Weinyddiaeth Amddiffyn, gallant wneud cais am un cyfandaliad.

Mae'r cynllun yn cynnwys pobl nad oedd eu hamlygiad i asbestos o ganlyniad i'w gwaith fel cyflogai, er enghraifft:

  • daethant i gysylltiad ag asbestos gan berthynas (er enghraifft, drwy olchi eu dillad)
  • cawsant eu hamlygu i asbestos yn yr amgylchedd (er enghraifft, roeddent yn byw ger ffatri oedd yn defnyddio asbestos)
  • cawsant eu hamlygu i asbestos tra roeddent yn hunangyflogedig, neu
  • ni ellir nodi eu hamlygiad yn benodol, ond digwyddodd yn y Deyrnas Unedig.

Dylid gwneud ceisiadau cyn gynted â phosibl ar ôl 1 Hydref 2008. Ni fydd terfynau amser ar gyfer ceisiadau gan ddioddefwyr a wnaed yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, ond ar ôl yr amser hwnnw, rhaid derbyn hawliadau o fewn 12 mis o ddyddiad y diagnosis.

Gofynnir i bobl gyflwyno tystiolaeth feddygol gyda'u cais i ddangos eu bod yn dioddef o fesothelioma ymledol a achoswyd gan amlygiad i asbestos. Ni fydd angen archwiliad meddygol pellach. Y nod yw gwneud y taliad o fewn chwech wythnos o gael y ffurflen gais.

Os yw'r unigolyn wedi marw, gallai eu dibynyddion wneud cais. Rhaid derbyn y ffurflen gais o fewn 12 mis i ddyddiad y farwolaeth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Trafod Budd-dal Anafiadau Diwydiannol Barrow ar 0800 279 2322

Premiymau anabledd

Gall y newidiadau arfaethedig i Gymhorthdal Incwm ar gyfer rhieni unigol o fis Tachwedd 2008 effeithio ar rieni unigol sy'n cael premiwm anabledd yn ogystal â Chymhorthdal Incwm.  Mae'r rhieni unigol hyn wedi cael llythyr yn egluro'r newidiadau ac y gallai fod angen iddynt wneud cais am Fudd-dal Analluogrwydd os oes ganddynt gyflwr iechyd neu anabledd sy'n eu hatal rhag gweithio, cyn y cyflwynir y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd ym mis Hydref 2008. 

Os byddant yn gymwys ar gyfer Budd-dal Analluogrwydd ac nid ydynt yn gwneud cais cyn 27 Hydref 2008, gallent gael llai o arian ar Lwfans Cyflogaeth a Chymorth nac o'r blaen.

Os yw rhiant unigol yn ansicr ynglŷn â'r hyn sydd angen iddynt ei wneud, gofynnir iddynt gysylltu â'u Canolfan Trafod Budd-daliadau agosaf. Mae'r rhif ffôn ar eu hysbysiad budd-dal.

Lansio ymgyrch twyll budd-daliadau newydd ar 23 Medi

Ni fydd gan lladron budd-dal posibl amheuaeth am y risg o gael eu dal pan fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lansio ei hymgyrch twyll budd-daliadau newydd ‘Rydym yn cau'r rhwyd’ ar 23 Medi.

Y tro hwn mae'r ymgyrch yn rhoi mwy o bwyslais ar y risg o gael eich dal drwy ddangos y gwahanol ddulliau o ganfod twyll a rhoi'r ffeithiau i brofi hynny. Nod yr ymagwedd newydd yw adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch ‘Heb os nac oni bai’ a gafodd effaith fawr ar godi ymwybyddiaeth o dwyll budd-daliadau.

Mae ‘Rydym yn cau'r rhwyd’ yn dechrau ar 23 Medi mewn 30 o ardaloedd awdurdod lleol a chaiff ei ategu gan ymgyrch hysbysebu yn y wasg leol ac ar y radio, posteri awyr agored, paneli ystafelloedd ymolchi mewn tafarndai, caeau pêl droed a chanolfannau siopa a hysbysebu ar beiriannau arian parod. Bydd digwyddiadau lansio mewn trefi allweddol ledled ardaloedd yr awdurdodau lleol dewisol yn rhoi'r ymgyrch ar waith. 

Ar 3 Tachwedd, bydd ymgyrch ‘Rydym yn cau'r rhwyd’ yn mynd yn genedlaethol gyda gweithgareddau ar y teledu, yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus ac ar ddechrau 2009 bydd yn cyflymu wrth i 10 ardal awdurdod lleol pellach ymuno.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ‘Rydym yn cau'r rhwyd’ ar wefan eu hymgyrch newydd www.dwp.gov.uk/benefit-thieves, sydd ar gael o 23 Medi ymlaen.

Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn creu cyfleoedd am swyddi i bobl ag anableddau

Mae cyflogwyr yn parhau i recriwtio drwy Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol er gwaetha'r dirywiad economaidd.

Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn creu rhagor o gyfleoedd i bobl a anghofir yn aml yn y farchnad lafur, yn cynnwys rheini gydag anableddau a chyflyrau iechyd.  Mae Mark Farrell, sy'n gweithio yn ASDA yn Harrogate, yn enghraifft wych.

Mae gan Mark, 34, anableddau dysgu. Bu'n ddi-waith am 12 mlynedd cyn iddo ddod o hyd i swydd gyda chymorth cytundeb Partneriaeth Cyflogaeth Leol rhwng ASDA a'r Ganolfan Byd Gwaith.

Bu Mark yn dioddef o bryder ac iselder, ac roedd ei anableddau dysgu a'i ddiffyg hyder yn ei rwystro bob amser mewn cyfweliadau am swyddi. Sylweddolodd ei ymgynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith fod angen cymorth arbenigol ar Mark a threfnodd iddo fynychu rhaglen paratoi at waith sy'n arbenigo mewn helpu pobl gydag anableddau dysgu.

Rhoddodd y rhaglen brofiad o fynychu cyfweliadau iddo a helpodd i fagu ei hyder. Gydag anogaeth gan ei ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith a'i chwaer, gwnaeth gais am swydd gydag ASDA. Ar ôl ymrwymo i Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol, roedd ASDA yn barod i recriwtio pobl fel Mark, sy'n cael eu hanghofio'n aml yn y farchnad lafur.

Fel rhan o'i ymrwymiad, rhoddodd ASDA fentor i Mark i'w gefnogi drwy'r broses ddethol, gan egluro'r ymarferion iddo a sicrhau ei fod yn eu deall. Llwyddodd ac, ar ôl cyfnod prawf o bum diwrnod, cynigwyd swydd barhaol iddo. Mae dod o hyd i waith wedi trawsnewid ei fywyd.

Gwrandewch ar stori Mark yn ei eiriau ei hun yn yr astudiaeth achos fideo hon.

cadw mewn cysylltiad - nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau i chi o'r newyddion diweddaraf, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir.  Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth i chi am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod.

   


* Man in orange shirt.
*

Newsletters


About in touch

November 2008 - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2008]

October 2008 - [Welsh/Cymraeg Hydref 2008]

September 2008 - [Welsh/Cymraeg Medi 2008]

August 2008 - [Welsh/Cymraeg Awst 2008]

July 2008 - [Welsh/Cymraeg Gorffennaf 2008]

June 2008 - [Welsh/Cymraeg Mehefin 2008]

May 2008 - [Welsh/Cymraeg Mai 2008]

April 2008 - [Welsh/Cymraeg Ebrill 2008]

March 2008 - [Welsh/Cymraeg Mawrth 2008]

February 2008 - [Welsh/Cymraeg Chwefror 2008]

January 2008 - [Welsh/Cymraeg Ionawr 2008]

December 2007

October 2007

August 2007










*
* * * *
*    Go to...
  * Help
  * About Us
  * Site Search
  * Site Map
  *  
*   View...  
  * Find your way back to work
  * News
  * Local Events
  * Frequently Asked Questions
  * Privacy Policy
  * Terms and Conditions
  * Freedom of Information
  *  
*   Jobsearch...

Search for a job now

  *  
*    
  * Jobs and Skills, a different way to search for jobs, training and careers
Directgov logo
  *  
*   Contact...
  * Jobcentre Plus
  *  
*   Useful Contacts
  * DWP
  * Directgov
  *  
 
Cymraeg
Text Only
Disclaimer
 
*