|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
cadw mewn cysylltiady cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd GwaithRhifyn 10 - Gorffennaf 2008Croeso i rifyn mis Mehefin o cadw mewn cysylltiadBob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith. Bydd y rhifyn hwn yn cynnwys newyddion am y gwasanaethau gwell a ddarperir gan y Ganolfan Byd Gwaith i bobl ag anawsterau clywed; datblygiadau o ran Ailhawlio Cyflym Lwfans Ceisio Gwaith; a gwybodaeth am sefydlu Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol. Ceir hefyd y newyddion diweddaraf am y newidiadau a'r datblygiadau ym maes cynhaliaeth plant. Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni. Y newyddion diweddaraf Papur Gwyrdd Diwygio Lles Ar 21 Gorffennaf, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, James Purnell, 'Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb’. Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi cynlluniau ar gyfer gwella cymorth a mentrau gwaith i greu system sy'n gwobrwyo cyfrifoldeb. Gallwch ddarllen ac ymateb i'r papur ar-lein. Ceir hefyd wybodaeth am sut y bydd y cynlluniau yn effeithio ar waith y Ganolfan Byd Gwaith yn y rhifyn hwn o cadw mewn cysylltiad. Rhwydwaith ffôn newydd i Ganolfannau Cyswllt y Ganolfan Byd Gwaith Bellach mae pob un o 31 o ganolfannau cyswllt y Ganolfan Byd Gwaith wedi dod yn rhwydwaith rhithwir sy'n defnyddio technoleg newydd sy'n darparu un rhwydwaith ffôn yn ein canolfannau cyswllt. Mae hyn yn golygu y gellir cyfeirio galwadau at yr asiant gwasanaeth cwsmeriaid â'r sgiliau priodol nesaf sydd ar gael, lle bynnag y mae wedi'i leoli, sy'n golygu y gellir delio â galwadau cwsmeriaid yn gynt. Dywed Val Gibson, Pennaeth Cyfarwyddiaeth Canolfannau Cyswllt y Ganolfan Byd Gwaith, "mae hwn yn garreg filltir sylweddol. Rydym yn falch iawn o'r cyrhaeddiad hwn. Mae'r llwyddiant yn deillio o lawer o fuddsoddi yn ein pobl, ein prosesau a'n technoleg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Cytundebau partneriaeth yn meithrin cydberthynas agosach â Phartneriaethau Cyflogaeth Lleol Ym mis Mai, ysgrifennodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a'r Ganolfan Byd Gwaith at holl ddarparwyr dan gontract DWP, gan bwysleisio eu hymrwymiad i weithio'n agos gyda darparwyr ar Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol, gan ymgysylltu â chyflogwyr a chefnogi cwsmeriaid i mewn i waith. Gallwch ddarllen y llythyr ar-lein. Bellach mae'r cytundeb partneriaeth model a amgaewyd gyda'r llythyr yn sail i drafodaethau lleol wrth i Ddosbarthau'r Ganolfan Byd Gwaith gyfarfod â darparwyr i lunio cytundebau partneriaeth lleol. Deilliodd y fenter hon o ddigwyddiad ymgynghori'r Ganolfan Byd Gwaith gyda nifer o ddarparwyr a sefydliadau cynrychioliadol. Aeth Lindsey Harman o dîm prosiect Partneriaethau Cyflogaeth Leol i un o'r digwyddiadau, a chredodd ei fod yn galonogol. "Roedd teimlad gwirioneddol o bwrpas cyffredin a brwdfrydedd i gydweithio ar Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol er budd yr holl bartïon," meddai. Drwy Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol, nod y Ganolfan Byd Gwaith yw cael chwarter miliwn o bobl allan o grwpiau cwsmeriaid blaenoriaeth i mewn i waith erbyn diwedd 2010. Rhagor o wybodaeth ar-lein. Estyniad i Afiechyd Diwydiannol Penodol ar gyfer Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Ar 21 Gorffennaf 2008, diwygiwyd yr amodau galwedigaethol ar gyfer yr afiechyd diwydiannol penodol, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (Broncitis Cronig ac Emffysema, PD D12). O 21 Gorffennaf 2008, gellir ychwanegu gwaith ar y sgriniau ar wyneb pwll glo cyn 1 Ionawr 1983 at waith tanddaearol i gronni'r 20 mlynedd ofynnol. Bydd dwy flynedd o waith sgrîn yn cyfateb i flwyddyn o waith tanddaearol.
Dylid gwneud ceisiadau am IIDB drwy ddefnyddio'r pecyn hawlio Bl 100PD ar-lein, neu gellir ei gael o swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol. Yn ogystal, mae cyngor ar fudd-daliadau a chyfeiriad a rhif ffôn Canolfan Anabledd Ranbarthol y cwsmer ar gael o'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau (ar gyfer pobl ag anableddau)ar 0800 88 22 00. Mewn ffocws Rhoi dechrau gwell mewn bywyd i blant Mae torri cylchoedd tlodi a rhoi'r plant tlotaf ar y llwybr i lwyddiant yn flaenoriaethau y mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn eu rhannu â nifer o sefydliadau eraill. Dyma'r newyddion diweddaraf am y newidiadau sydd eisoes ar y gweill, a rhagor o wybodaeth am ddulliau newydd. Newidiadau mewn cynhaliaeth plant Mae newidiadau mewn cynhaliaeth plant yn parhau yn dilyn Cydsyniad Brenhinol ar gyfer y Mesur Cynhaliaeth Plant a Thaliadau Eraill. Mae hyn yn cynnwys sefydlu'r Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodi fel Corff Cyhoeddus Anadrannol y goron. Mae'n newyddion da i rieni â gofal sy'n hawlio budd-daliadau. Am y tro cyntaf gallant ddewis rhoi eu trefniadau cynhaliaeth plant eu hunain ar waith, neu ddefnyddio'r cynllun cynhaliaeth statudol a reolir gan yr Asiantaeth Cynnal Plant ar hyn o bryd. Mae hyn yn gymwys i bob cleient newydd sy'n hawlio budd-dal o 14 Gorffennaf a chaiff ei estyn i gleientiaid presennol o 27 Hydref. Hefyd o 27 Hydref, telir yr holl daliadau cynhaliaeth plant a gaiff yr Asiantaeth Cynnal Plant yn uniongyrchol i rieni â gofal, a byddant yn cael cadw hyd at £20 yr wythnos cyn iddo effeithio ar eu budd-daliadau. Caiff diystyriaeth lawn mewn Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor ei chyflwyno ar yr adeg hon hefyd, sy'n golygu y bydd mwy o arian yn mynd i'r lle y mae ei angen fwyaf. O 27 Hydref, bydd angen i rieni â gofal sy'n hawlio budd-dal ddatgan unrhyw gynhaliaeth a gafwyd i'r Ganolfan Byd Gwaith, fel y byddent yn ei wneud gydag unrhyw incwm arall. Bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn ysgrifennu at rieni â gofal y mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnynt dros yr haf, ynghyd â gwybodaeth am beth i'w wneud nesaf. Gwybodaeth a Chymorth I helpu rhieni i ddeall yr holl opsiynau sydd ganddynt a gwneud dewis hyddysg am gynhaliaeth plant, mae gwasanaeth gwybodaeth a chymorth newydd o'r enw 'Opsiynau Cynhaliaeth Plant' yn cael ei sefydlu. Bydd Opsiynau Cynhaliaeth Plant hefyd yn rhoi gwybodaeth am ystod o faterion cysylltiedig fel tai a chyflogaeth, a bydd yn cyfeirio rhieni at ffynonellau cymorth arbenigol. Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn cael ei dreialu gyda chwsmeriaid budd-dal, a bydd ar gael i bawb yn nes ymlaen eleni. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cmooptions.org. Cydweithio yn Llundain Yn Llundain, mae tlodi plant wedi gostwng llai nag unrhyw le arall yn y DU, gyda chyfraddau Llundain fewnol yn 31 y cant - sy'n uwch na'r gyfartaledd cenedlaethol o 22 y cant. Mae angen i bawb chwarae eu rhan yn y gwaith o ddileu tlodi plant, ac yn Llundain yn fwy na'r un man arall. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr i rannu syniadau ar sut y gall busnesau gymryd rhan, a lansiodd Addewid Tlodi Plant Llundain y mis hwn i helpu llywodraeth genedlaethol, rhanbarthol a lleol, asiantaethau darparu a phartneriaid allweddol eraill i ganolbwyntio mwy ar dlodi plant yn y brifddinas. Y camau nesaf a syniadau newydd Byddwn yn dweud wrthych am y cam nesaf mewn diwygio lles yn rhifyn Awst o cadw mewn cysylltiad, ond os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y cynigion a gyhoeddwyd y mis hwn, a lleisio'ch barn, ewch i wefan DWP. Yn y cyfamser, mae'r gwaith o weithredu diwygiadau cyfredol yn parhau. Rydym wedi dechrau treialu math gwahanol o gredyd mewn gwaith mewn dau Ddosbarth ym Manceinion. Bydd y Cynllun Peilot Cadw Mewn Gwaith yng Nghanol Manceinion Fwyaf a Dwyrain a Gorllewin Manceinion Fwyaf yn profi a yw cyfandaliad ar ôl naw a deuddeg mis mewn cyflogaeth, sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyfweliadau ag ymynghorwyr personol, yn helpu rhieni unigol i aros mewn gwaith. Hefyd, cyhoeddodd y Llywodraeth ragor o wybodaeth yn ddiweddar am y cynlluniau peilot tlodi plant a amlinellwyd yn y Gyllideb ddiwethaf. Mae'r rhain yn adeiladu ar fentrau sydd eisoes yn llwyddiannus, fel cynnig gwasanaethau newydd mewn canolfannau plant a phrofi dulliau newydd o wella incymau teuluoedd. Ymhlith y pethau allweddol mae: · Grant Datblygu Plant newydd o tua £200 i rieni incwm isel â phlant o dan bump oed mewn deg awdurdod lleol o ddechrau 2009. · Cynorthwyo help mewn canolfannau plant penodol yn Preston a Newham i helpu rhieni i ddeall credydau treth yn well a'u hawlio - i gefnogi teuluoedd â chostau bob dydd a chostau gofal plant. · £7.6m i 30 o Ganolfannau Plant mewn deg Awdurdod Lleol i gynnig gwasanaethau gwell sy'n canolbwyntio ar waith. · Mwy o help i Lundain gan gynnwys dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud gofal plant yn fwy fforddiadwy i deuluoedd, a buddsoddi hyd at £10m mewn mentrau i helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith. · Llety â chymorth gwell i famau yn eu harddegau drwy ddarparu gwasanaethau ychwanegol i wella iechyd a datblygiad eu plant, gwella eu sgiliau rhianta a'u cynorthwyo gyda dysgu. · Grantiau i awdurdodau lleol i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o fynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau tlodi plant. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Trysorlys EM. Newyddion rhanddeiliaid Crynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaid Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - 100 diwrnod i fynd Mae 19 Gorffennaf yn ddyddiad allweddol ar gyfer y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd, gan ei fod yn nodi 100 diwrnod nes iddo ddod i rym ar 27 Hydref. Fel yr amlinellwyd yn rhifyn Mehefin o cadw mewn cysylltiad, mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn gweithio gyda Grwpiau Cynrychioli Cwsmeriaid allweddol i ffurfio gweithgor cyfathrebu. Rydym hefyd yn ymgysylltu â chyflogwyr, a fydd yn hanfodol i lwyddiant y dull newydd a gyflwynir gan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Yn ogystal â chyflwyno'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lleol ac yn rhanbarthol, ymhlith y gweithgareddau cenedlaethol parhaus mae cyflwyniad diweddar i fforwm ymgynghori cyflogwyr HMRC, a gweithgareddau ymgysylltu arfaethedig â CIPD, Cysylltiadau Busnes a'r Cyngor Dysgu a Sgiliau. Mae'r gwaith o ddatblygu ymgyrch yn y cyfryngau hefyd yn mynd rhagddo, gyda chynlluniau i hysbysebu mewn cylchgronau masnach a'r wasg genedlaethol a rhanbarthol. Bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cymryd lle'r budd-daliadau analluogrwydd cyfredol i gwsmeriaid newydd ac mae'n newid y ffordd y mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn ystyried ei chwsmeriaid ag afiechydon neu anableddau yn sylweddol. O dan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd y pwyslais ar beth y mae'r cwsmer yn gallu ei wneud, nid ar beth nad yw'n gallu ei wneud, ac ar oresgyn rhwystrau i ddychwelyd i'r gwaith. Cewch ragor o wybodaeth am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar wefan DWP. Newyddion cwsmeriaid Crynodeb o wybodaeth sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaid Ailhawlio Cyflym Lwfans Ceisio Gwaith. Bellach gall cwsmeriaid Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) sy'n gymwys ar gyfer Ailhawlio Cyflym wneud eu cais yn gynt ac yn haws. Gall cwsmeriaid ffonio ein rhif rhadffon 0800 055 6688, lle caiff eu manylion eu cymryd a'u cais ei brosesu ar sail yr alwad ffôn honno. Bydd asiant yr alwad yn pennu dyddiad ac amser adolygiad chwilio am waith cyntaf y cwsmer, a gynhelir bob pythefnos, lle rhoddir yr holl ddogfennau angenrheidiol iddo. Mae hyn yn dileu'r angen am gyfweliad hir yn y Ganolfan Gwaith ac mae'n golygu y caiff cwsmeriaid wybod am eu hawl i fudd-dal yn gynt. I fod yn gymwys ar gyfer Ailhawlio Cyflym, mae angen bod cwsmeriaid wedi cael hawliad JSA blaenorol o fewn y 12 wythnos ddiwethaf, a bod eu hamgylchiadau yr un peth. Drafft Menter Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol Yn ddiweddar cyhoeddodd y Llywodraeth Cynhwysiant Ariannol: cynllun gweithredu ar gyfer 2008-2011, gan gyhoeddi sefydlu 'menter hyrwyddwyr cynhwysiant ariannol'. Bydd yr ymgyrch yn adeiladu ar yr ymgyrch Nawr Gadewch i ni Siarad am Arian (NTLM) presennol, gan ddefnyddio hyrwyddwyr ymroddedig i weithio gydag awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, a phartneriaid allweddol eraill i hyrwyddo cynhwysiant ariannol yn lleol. Ymgysylltodd NTLM yn llwyddiannus ag ystod eang o ganolwyr, a, lle y bo'n briodol, mae ymgynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith bellach yn cyfeirio cwsmeriaid at gyngor ariannol wyneb yn wyneb am ddim (a gynigir gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth) a chredyd fforddiadwy (a gynigir gan undebau credyd a sefydliadau ariannol datblygu cymunedol). Bydd Hyrwyddwyr Cynhwysiant Ariannol yn gweithio i leihau ymhellach nifer y bobl na allant fanteisio ar wasanaethau ariannol sylfaenol, er enghraifft, pobl heb gyfrif banc, heb gynilion, heb yswiriant cynnwys ty na allant fanteisio ar gredyd fforddiadwy na chyngor ariannol. Mae'r gefnogaeth hon yn hanfodol i'r rhai sydd am weithio, oherwydd nodwyd dyledion, diffyg cyfleusterau bancio ac anallu i fanteisio ar fenthyciadau dychwelyd i'r gwaith neu ddechrau busnes bach fel rhwystrau i waith. Mae pobl sydd â chyfrifon banc addas ac sy'n gallu eu defnyddio yn fwy tebygol o reoli eu harian personol yn well; talu eu rhent a'u biliau cyfleustod ar amser; osgoi rhoi baich arnynt eu hunain gyda dyled na ellir ei rheoli; a chronni asedau a phensiynau. Yn bwysicaf oll, mae hefyd yn helpu pobl o oedran gweithio i ddangos cyflogwyr eu bod yn 'barod i weithio'. Darllenwch ragor o wybodaeth am y cynllun gweithredu Cynhwysiant Ariannol ar-lein cadw mewn cysylltiad - Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhaglen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth i chi am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod. |






