Department for Work and Pensions
. .
* * *
* Partners
*
*in touchBack up a level (javascript:nodelink(94))
     
   *

cadw mewn cysylltiad

y cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd Gwaith

Rhifyn 9 - Mehefin 2008

Croeso i rifyn mis Mehefin o cadw mewn cysylltiad

Bob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys newyddion gwych am farn cwsmeriaid ar eu profiad o'n gwasanaeth ‘Cyswllt Cyntaf’; gwybodaeth am sefydlu'r Gweithgor Cysylltiadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ddiweddar; a'r newyddion diweddaraf am brosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop.  Mae hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am rwymedigaethau rhieni unigol.

Yn rhifyn y mis diwethaf, gofynnwyd i danysgrifwyr roi adborth i ni ar cadw mewn cysylltiad trwy gwblhau ein harolwg ar-lein. Roeddem yn falch iawn o glywed bod y rhan fwyaf o'n tanysgrifwyr yn credu bod cadw mewn cysylltiad yn ddefnyddiol (90 y cant), bod y wybodaeth a gaiff ei chynnwys yn werthfawr i'w gwaith (83 y cant) a'i fod yn eu helpu i gynghori eu cwsmeriaid yn well (79 y cant). Diolch i bawb a gwblhaodd yr arolwg am eich barn a'ch awgrymiadau.

Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol neu unrhyw adborth arall am cadw mewn cysylltiad, anfonwch e-bost atom.

Y newyddion diweddaraf

Arolwg Cyswllt Cyntaf y Ganolfan Byd Gwaith

Ar ddiwedd 2007, fel rhan o 'Arolwg Cyswllt Cyntaf 2007', cynhaliwyd cyfweliadau â mwy na 2,000 o gwsmeriaid y Ganolfan Byd Gwaith a oedd wedi gwneud cais newydd yn ddiweddar am fudd-dal.

Roedd y canlyniadau'n galonogol iawn gyda 78 y cant o'r cwsmeriaid yn dweud eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth gwneud cais newydd, boed hynny dros y ffôn neu'n uniongyrchol. Roedd 93 y cant o'r cwsmeriaid a oedd yn gwneud cais drwy ein canolfan gyswllt yn fodlon ar y gwasanaeth galwadau ei hun, a theimlai 96 y cant eu bod wedi cael eu trin yn deg ac yn gwrtais gan staff ein canolfan gyswllt.

Mae'r canlyniadau'n adlewyrchu'r cynnydd ardderchog rydym yn ei wneud. Y llynedd, achredwyd bod ein canolfannau cyswllt yn bodloni safonau ehangach y diwydiant, a dengys y wybodaeth ddiweddaraf bod dros 95 y cant o alwadau gan gwsmeriaid yn cael eu hateb y tro cyntaf erbyn hyn a'n bod ni'n ffonio dros 98 y cant o gwsmeriaid yn ôl cyn pen 36 awr. Byddwn hefyd yn datblygu nifer o argymhellion a gododd o'r ymchwil er mwyn gwella'r gwasanaeth a gynigir i gwsmeriaid.

Dim ond rhai o uchafbwyntiau'r ymchwil yw'r canlyniadau a nodir yma.  Gallwch ddarllen yr adroddiad cyfan ar-lein.  Byddwn yn cynnal mwy o waith ymchwil, gan gynnwys cyfweliadau manwl a grwpiau ffocws â phobl newydd sy'n gwneud cais, yn hwyrach eleni hefyd.

Mae Llwybrau at Waith ar gael ledled Prydain erbyn hyn

Ym mis Ebrill, cafodd y rhaglen Llwybrau at Waith a Arweinir gan Ddarparwyr ei lansio yn yr 16 dosbarth sy'n weddill.  Dyma ddiwedd y broses o gyflwyno'r rhaglen ac mae'n golygu bod y gwasanaeth ar gael i helpu mwy o gwsmeriaid symud oddi ar fudd-daliadau analluogrwydd ac i mewn i waith.

Mae'r broses o gyflwyno'r rhaglen hon, sy'n gyflawniad sylweddol, yn adeiladu ar ein partneriaethau â sefydliadau yn y sector preifat a'r sector gwirfoddol.  Mae'n adeiladu hefyd ar lwyddiant cam cyntaf y gwasanaeth a arweinir gan ddarparwyr a llwyddiant y rhaglen Llwybrau at Waith a arweinir gan y Ganolfan Byd Gwaith yr ydym eisoes yn ei chynnig mewn 18 o ddosbarthau eraill.

Gwyddom fod gweithio gyda darparwyr allanol profiadol allweddol yn gallu darparu cymorth ardderchog sydd wedi'i deilwra, er mwyn diwallu anghenion penodol ein cwsmeriaid.

Ein nod yw bod Llwybrau at Waith yn darparu mwy o help, cefnogaeth ychwanegol a mwy o gyfleoedd i'r rhai â phroblemau iechyd ac anableddau. Nid yn unig er mwyn helpu mwy o bobl i gael swyddi, ond i'w helpu i aros mewn gwaith gyda'r nod o helpu i godi mwy o deuluoedd allan o dlodi.  

Dywedodd y Prif Weithredwr Lesley Strathie: “Mae Llwybrau at Waith wedi helpu miloedd o'n cwsmeriaid i ddod o hyd i swyddi cynaliadwy ac rwyf wrth fy modd y gallwn ymestyn y llwyddiant hwnnw'n genedlaethol trwy weithio gyda phartneriaid.  Mae'n hanfodol bod y gwasanaeth yn cael ei gynnig trwy Brydain oherwydd Llwybrau at Waith fydd conglfaen y gyfundrefn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth pan gaiff ei gyflwyno ym mis Hydref.”

Rhagor o wybodaeth am Llwybrau at Waith.  Ceir peth gwybodaeth am Llwybrau at Waith ar-lein i gwsmeriaid hefyd.

Mewn ffocws

Canoli'r gwaith o brosesu Lwfans Mamolaeth

Ym mis Rhagfyr 2007, dechreuodd y Ganolfan Byd Gwaith drosglwyddo gwaith ar Lwfans Mamolaeth i bedair Canolfan Trafod Budd-daliadau (BCD) Ganoledig.  Dyma sut y bydd ein cynllun prosesu lwfans mamolaeth yn edrych erbyn haf 2008:

  • Bydd BDC Bury St Edmunds yn ymdrin â Dwyrain a De Ddwyrain Lloegr (bydd y gwaith wedi'i drosglwyddo'n llawn erbyn haf 2008).
  • Bydd BDC Stoke yn ymdrin â Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Swydd Efrog a Humber.
  • Bydd BDC Wrecsam yn ymdrin â Chymru, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Llundain (bydd gwaith Llundain wedi'i drosglwyddo'n llawn erbyn mis Mehefin 2008).
  • Bydd BDC Yeovil yn ymdrin â Gogledd Orllewin a De Orllewin Lloegr a'r Alban.

Bydd canoli budd-daliadau'n golygu crynhoi arbenigedd, gan ein bod yn defnyddio staff sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin â'r math arbennig hwnnw o fudd-dal.  Caiff y rhan fwyaf o alwadau eu trin gan yr unigolyn sy'n ateb y ffôn ac ymdrinnir ag ymholiad y cwsmer yn y fan a'r lle.

Ynghyd â dyfodiad technoleg fodern, systemau teleffoni datblygedig a phrosesau budd-dal safonedig, bydd y canoli hyn yn galluogi'r Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid budd-daliadau. Yn wir, o fis Ebrill 2007 tan fis Mawrth 2008, roedd ein hamserau clirio yn 18.48 diwrnod yn erbyn targed o 20 diwrnod.

Prosiectau newydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop

Mae pobl sydd angen cymorth ychwanegol arnynt i wella'u rhagolygon o gael swyddi a sgiliau yn cael budd o 750 o brosiectau newydd a gaiff eu cyflwyno ar draws Lloegr dan nawdd Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Llwyddodd y prosiectau i gael cyllid o'r rowndiau tendro cyntaf o dan raglen newydd 2007-2013 Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Lloegr.

Mae'r rhaglen yn buddsoddi £2 biliwn o gyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop (a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n rheoli £0.5 biliwn o'r arian hwn) sy'n cyfateb i £2 biliwn o gyllid gan y Llywodraeth.

Dros saith mlynedd, bydd y rhaglen newydd yn helpu:

  • 200,000 o bobl i gael swyddi
  • 140,000 o'r bobl fwyaf difreintiedig i wneud cynnydd cadarnhaol tuag at gael swydd
  • 80,000 o bobl ifanc ddifreintiedig i gael addysg neu swydd

Hefyd, bydd yn helpu:

  • 160,000 o gyflogeion i gael sgiliau sylfaenol
  • 175,000 o gyflogeion i ennill cymwysterau

Mae DWP yn disgwyl y bydd yn helpu tua 130,000 o gwsmeriaid rhwng 2007 a 2011.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen newydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop, ewch i www.esf.gov.uk.

Newyddion rhanddeiliaid

Crynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaid

Grŵp Cynrychiolwyr Cwsmeriaid

Bydd y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn disodli'r budd-daliadau analluogrwydd presennol ar gyfer cwsmeriaid newydd o 27 Hydref 2008. I gefnogi'r broses o gyflwyno'r lwfans hwn, mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi cydweithio â Grwpiau Cynrychiolwyr Cwsmeriaid allweddol i sefydlu gweithgor cysylltiadau ar y cyd mewn perthynas â'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Yn naturiol, mae'r budd-dal newydd wedi ennyn cryn ddiddordeb ymhlith Grwpiau Cynrychiolwyr Cwsmeriaid. Mewn ymateb i hyn, mae'r Ganolfan Byd Gwaith wedi cyflwyno rhaglen barhaus o weithgareddau ymgysylltu, gan gynnwys digwyddiadau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y newyddion diweddaraf i'r cyfryngau a thrafodaethau mewn amrywiaeth o fforymau.

Gan adeiladu ar y gweithgareddau hyn, dechreuodd cynrychiolwyr o raglen Lwfans Cyflogaeth a Chymorth y Ganolfan Byd Gwaith a'r gymuned cysylltiadau Adrannol ehangach weithio gyda nifer o grwpiau. Mae'r ffordd arloesol hon o weithio'n addo cyflwyno canlyniadau buddiol i'r ddwy ochr, gan gynnwys:

  • gwell trefniadau cysylltu rhwng y sefydliadau perthnasol
  • gwell dealltwriaeth o bersbectif y cwsmer ynghylch y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • gwybodaeth ac adnoddau cyfathrebu â gwell pwyslais er mwyn helpu Grwpiau Cynrychiolwyr Cwsmeriaid i roi cymorth a chyngor i'w cwsmeriaid
  • proses adolygu barhaus i sicrhau bod adnoddau yn gywir ac yn addas at y diben.

Mae cyflwyno'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ddatblygiad pwysig o ran darparu budd-daliadau, gan adeiladu ar lwyddiant Llwybrau at Waith. Mae'n sicrhau bod cwsmeriaid newydd â salwch neu anabledd yn cael eu hasesu ar sail yr hyn y maent yn gallu ei wneud ac nid dim ond yr hyn na allant ei wneud, ac mae'n sicrhau hefyd eu bod yn cael cymorth personol i'w helpu i ddychwelyd i'r gwaith lle bo hynny'n bosibl.

I gael rhagor o wybodaeth am y lwfans newydd, ewch i wefan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Newyddion cwsmeriaid

Crynodeb o wybodaeth sydd o ddiddordeb i'r rhai sy'n rhoi cyngor i gwsmeriaid

Newidiadau i rwymedigaethau rhieni unigol

Fel rhan o nod DWP i ddileu tlodi plant, mae strategaeth dair blynedd yn cynnig na fydd rhieni unigol â phlant hŷn, o fis Tachwedd 2008 ymlaen, yn gallu hawlio Cymhorthdal Incwm dim ond am eu bod yn rhieni unigol*. Yn hytrach, gall y rhai sy'n gallu gweithio hawlio Lwfans Ceisio Gwaith. Disgwylir iddynt chwilio am waith addas ac, os yw'n angenrheidiol, caffael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud hynny, yn gyfnewid am gymorth personol.

Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd y newid yn cael ei gyflwyno ar gyfer rhieni unigol sydd â phlentyn ieuengaf:

  • 12 oed neu drosodd o 24 Tachwedd 2008;
  • 10 oed neu drosodd o 26 Hydref 2009; a
  • 7 oed neu drosodd o 25 Hydref 2010.

I ategu'r newid hwn i rwymedigaethau rhieni unigol, mae cyfres o fesurau newydd wedi'u cynllunio i helpu rhieni unigol i mewn i waith. Bydd y mesurau hyn yn cefnogi'r ddarpariaeth bresennol sydd eisoes ar gael i helpu rhieni unigol i mewn i waith.

Ers mis Ebrill 2008 mae'r cymorth canlynol ar gael yn genedlaethol:

  • Digwyddiadau Opsiynau a Dewisiadau ar gyfer Rhieni Unigol
  • Cyfweliad Swydd Gwarantedig
  • Ymestyn y Credyd Mewn Gwaith yn genedlaethol
  • Cyflwyno'r Gronfa Disgresiwn Frys mewn Gwaith yn genedlaethol
  • Cymorth ymgynghorol mewn gwaith gan gynghorwyr y Ganolfan Byd Gwaith
  • Treialu'r broses o ddarparu costau gofal plant ymlaen llaw yn Llundain
  • Ymestyn peilot y Fargen Newydd a Mwy ar gyfer Rhieni Unigol i rieni sy'n gyplau a bydd yn para tan 2011.

Bydd rhai rhieni unigol yn parhau i allu hawlio Cymhorthdal Incwm ar ôl mis Tachwedd 2008, yn amodol ar y meini prawf cymhwysedd presennol, e.e. y rhai sy'n ofalwyr maeth, yn ofalwyr, neu'n rhieni unigol â phlant sy'n cael y gyfradd ganol neu'r gyfradd uchaf o Lwfans Byw i'r Anabl.

Mae dileu tlodi plant a galluogi teuluoedd i fyw bywydau gwell a mwy annibynnol gyda dyfodol mwy llewyrchus yn flaenoriaeth i DWP. Rydym yn canolbwyntio mwy nag erioed o'r blaen ar helpu pobl sy'n gallu gweithio i weithio, ac rydym yn diwygio'r system budd-daliadau i sicrhau bod pobl yn gallu meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gwaith, cael swydd gyflogedig, aros mewn gwaith a gwneud cynnydd yn eu gwaith.

Mae rhagor o wybodaeth am ein nodau a'r newidiadau hyn i'w gweld ar wefan DWP

Ynglŷn â cadw mewn cysylltiad

Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhaglen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir.  Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwyntio'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith.

Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod.

   


* Man in orange shirt.
*

Newsletters


About in touch

November 2008 - [Welsh/Cymraeg Tachwedd 2008]

October 2008 - [Welsh/Cymraeg Hydref 2008]

September 2008 - [Welsh/Cymraeg Medi 2008]

August 2008 - [Welsh/Cymraeg Awst 2008]

July 2008 - [Welsh/Cymraeg Gorffennaf 2008]

June 2008 - [Welsh/Cymraeg Mehefin 2008]

May 2008 - [Welsh/Cymraeg Mai 2008]

April 2008 - [Welsh/Cymraeg Ebrill 2008]

March 2008 - [Welsh/Cymraeg Mawrth 2008]

February 2008 - [Welsh/Cymraeg Chwefror 2008]

January 2008 - [Welsh/Cymraeg Ionawr 2008]

December 2007

October 2007

August 2007










*
* * * *
*    Go to...
  * Help
  * About Us
  * Site Search
  * Site Map
  *  
*   View...  
  * Find your way back to work
  * News
  * Local Events
  * Frequently Asked Questions
  * Privacy Policy
  * Terms and Conditions
  * Freedom of Information
  *  
*   Jobsearch...

Search for a job now

  *  
*    
  * Jobs and Skills, a different way to search for jobs, training and careers
Directgov logo
  *  
*   Contact...
  * Jobcentre Plus
  *  
*   Useful Contacts
  * DWP
  * Directgov
  *  
 
Cymraeg
Text Only
Disclaimer
 
*