|
|
||||
| Partners | ||||
| ||||
cadw mewn cysylltiady cylchlythyr misol i randdeiliaid y Ganolfan Byd GwaithCroeso i rifyn mis Chwefror o cadw mewn cysylltiadBob mis, mae cadw mewn cysylltiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi gan y Ganolfan Byd Gwaith. Mae'r rhifyn hwn yn cynnwys llwyddiant cynnar Partneriaethau Cyflogaeth Lleol, a chyfle i chi gyflwyno eich sylwadau am ein gwasanaeth cyflogaeth arbenigol i bobl anabl. Mae gennym fanylion hefyd am newidiadau i dîm gweinidogion DWP a newyddion am gynlluniau peilot i leoli canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM mewn rhai Canolfannau Gwaith. Os oes gennych awgrym ar gyfer rhifyn yn y dyfodol, neu unrhyw adborth, rhowch wybod i ni. Y newyddion diweddarafTîm Gweinidogion NewyddYn dilyn penodi y Gwir Anrh. James Purnell yn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar 24 Ionawr, cyhoeddwyd y penodwyd y Gwir Anrh. Stephen Timms yn Weinidog Gwladol dros Gyflogaeth a Diwygio Lles. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Stephen Timms a James Purnell ar-lein. Cyflogwyr yn canmol llwyddiannau cynnar Partneriaeth Cyflogaeth LleolMae dros 400 o gyflogwyr wedi ymrwymo i Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, ac mae tua hanner ohonynt eisoes yn gweithredu ar eu cytundebau. O ganlyniad mae brwdfrydedd gwirioneddol ynghylch manteision a photensial Partneriaethau Cyflogaeth Lleol. Dywedodd Mark Leis, Rheolwr Gyfarwyddwr John Lewis yn Sheffield, "Rydym yn falch dros ben gyda llwyddiant ein cynllun peilot. Rydym bellach yn siarad â manwerthwyr eraill mewn dinasoedd mawr am ein profiadau". Dywedodd Ceri Williams o Tesco, "Rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb recriwtio yn siop Maesteg ac wedi ein synnu ar yr ochr orau gan safon y ceisiadau". Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn paratoi pobl, na allant ddod o hyd i waith am amryw resymau, i ymgymryd â chyfleoedd swyddi yn llwyddiannus gan gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol. Yn gyfnewid am hynny, mae cyflogwyr yn rhoi cynnig teg iddynt i'r swydd drwy gynnig mesurau fel treialon gwaith, oriau gweithio hyblyg sy'n addas i rieni unigol a mentora. Dysgwch ragor am Bartneriaethau Cyflogaeth Lleol ar-lein Mewn ffocwsNewyddion rhanddeiliaidCrynodeb o wybodaeth busnes i randdeiliaidEhangu Llwybrau at Waith yn genedlaetholBydd gan bobl â chyflyrau iechyd ac anableddau sy'n hawlio Budd-dal Analluogrwydd gyfle i wella eu cyfleoedd o ddod o hyd i waith wrth i'r rhaglen Llwybrau at Waith gael ei chyflwyno yn genedlaethol. Ar hyn o bryd mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn cyflenwi cymorth Llwybrau mewn 18 o Ddosbarthau. Yn sgîl lansio Cam 1 o'r Llwybrau at Waith a Arweinir gan Ddarparwyr ar 3 Rhagfyr 2007 ehangwyd Llwybrau at Waith i 15 Dosbarth Canolfan Byd Gwaith arall. Caiff Llwybrau at Waith a arweinir gan ddarparwyr ei gyflenwi'n bennaf gan y sector preifat a'r sector gwirfoddol mewn partneriaeth â'r Ganolfan Byd Gwaith. Bydd Cam 2 yn cwmpasu'r 16 Dosbarth Canolfan Byd Gwaith sy'n weddill o 28 Ebrill 2008. Cyhoeddwyd y contractwyr ar gyfer Cam 2 ym mis Rhagfyr - gallwch weld y contractau buddugol ar-lein, ynghyd â manylion contractwyr Cam 1. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Ganolfan Byd Gwaith - Llwybrau at Waith. Canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM yn y Canolfannau GwaithMae cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt i brofi ymarferoldeb lleoli canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (EM) mewn rhai Canolfannau Gwaith. Mae Cyllid a Thollau EM yn y broses o gau rhai o'u swyddfeydd, sy'n cynnwys cau rhai canolfannau ymholiadau. Mae Gweinidogion yn awyddus i gadw'r gwasanaeth hwn ble bynnag y bo'n bosibl, ac ymchwilir i'r syniad o leoli canolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM mewn Canolfannau Gwaith. Mae cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt yn Alfreton yn Swydd Derby a Widnes yn Swydd Caer. Bwriedir ymgymryd â thrydydd cynllun yn Buckie ym Moray, yr Alban. Bydd y canolfannau ymholiadau ar y cyd hyn yn ein galluogi i wneud y gorau o'n hadnoddau i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr i'r cyhoedd. Byddant hefyd yn caniatáu i ni ddarparu siop un stop i gwsmeriaid ar gyfer eu hanghenion treth a budd-daliadau. Bydd gan ganolfannau ymholiadau Cyllid a Thollau EM eu derbynfa eu hunain gydag arwyddion clir, yn ogystal ag arwyddion y tu allan i'r Ganolfan Gwaith. Dim ond ar ôl gwerthuso'r cynlluniau peilot hyn y gwneir penderfyniadau am gyflwyno canolfannau ymholiadau a'r Ganolfan Byd Gwaith ar y cyd yn y dyfodol. Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop Newydd ar gyfer 2007 i 2013Sefydlwyd Cronfa Gymdeithasol Ewrop gan yr Undeb Ewropeaidd (UE) i helpu pobl i wireddu eu potensial drwy roi sgiliau a rhagolygon swyddi gwell iddynt. Yn 2007, lansiodd yr UE gyfres newydd o raglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer y saith mlynedd nesaf hyd at 2013. Yn Lloegr, mae'n bosibl y bydd hyd at £80 miliwn ar gael yn flynyddol i roi cymorth i gwsmeriaid blaenoriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a'r Ganolfan Byd Gwaith. Mae DWP yn gweithio ym mhob Rhanbarth yn Lloegr i sicrhau arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Yng Nghymru a'r Alban bydd y Cynulliad a Gweithrediaeth yr Alban yn gweinyddu'r arian ac yn cymeradwyo rhaglenni Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Bydd yr arian a geir o Gronfa Gymdeithasol Ewrop yn cyfrannu at strategaeth DWP i gyflawni targed y Llywodraeth o gyfradd cyflogaeth o 80 y cant. Mae timau rhanbarthol y Ganolfan Byd Gwaith wedi chwarae rôl allweddol o ran datblygu contractau newydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Y nod yw canolbwyntio defnydd rhanbarthol contractau Cronfa Gymdeithasol Ewrop i ategu rhaglenni cyflogaeth ar gontract yn lleol, gan roi darpariaeth arbenigol a llenwi blychau ar gyfer grwpiau blaenoriaeth. Dyfernir contractau newydd Cronfa Gymdeithasol Ewrop o fis Ebrill 2008, a byddant yn rhedeg o 23 Mehefin 2008. Newyddion cwsmeriaidGwasanaethau Cyflogaeth Arbenigol i Bobl Anabl - Ymgynghoriad CyhoeddusFel y nodwyd yn rhifyn y mis diwethaf, lansiodd y Gweinidog dros Bobl Anabl ymgynghoriad cyhoeddus 'Helpu pobl i gyflawni eu potensial llawn: Gwella Gwasanaethau cyflogaeth arbenigol i bobl anabl' ddechrau mis Rhagfyr 2007. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad, a chyflwyno eich sylwadau ar-lein. Croesewir barn staff DWP, ein cwsmeriaid, cyflogwyr a darparwyr gwasanaeth, yn enwedig y rhai sy'n helpu pobl anabl i ddod o hyd i waith a'i gadw. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 10 Mawrth 2008. cadw mewn cysylltiad – Nod cadw mewn cysylltiad yw rhoi crynodebau byr i chi o'r newyddion diweddaraf, datblygiad ein rhagfen foderneiddio, newidiadau sydd ar y gweill i reolau budd-daliadau, y newyddion diweddaraf o ran perfformiad, yn ogystal â newyddion ar faterion polisi pwysig sy'n effeithio ar ein cwsmeriaid a rennir. Mae cadw mewn cysylltiad yn ategu Touchbase, y cyhoeddiad chwarterol gan DWP, drwy ganolbwynti'n fisol ar faterion sy'n ymwneud â'r Ganolfan Byd Gwaith. Os bydd rhywun rydych yn ei adnabod am gael cadw mewn cysylltiad, gallant danysgrifio ar-lein. Ni fydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trosglwyddo unrhyw fanylion i drydydd parti. Dim ond i ddarparu gwybodaeth am faterion y Ganolfan Byd Gwaith a'r Adran Gwaith a Phensiynau y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at y golygydd (gan gynnwys eich enw, swydd a sefydliad). Ac os nad ydych am gael cadw mewn cysylltiad mwyach dilynwch y cyswllt i ddileu eich enw isod. |







